Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Cofio Milwr
← Hen Ysgol Llwynygell | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Lleddf a Llon → |
COFIO MILWR.
PAN y paid pob cledd a'i gyffro;
Pan ostega'r rhyfel—gri;
Daw dy dad a minnau heibio'r
Llecyn lle gorweddi di;
Wedi teithio estron—froydd,
Dyma'n hoffrwm ar ein hynt,
Pleth o redyn o Gwmbowydd,
Swp o rug o Fwlch y Gwynt.