Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Deryn y Drycin
← Eos Prysor | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Wil Bryan → |
DERYN Y DRYCIN.
(The Stormy Petrel).
TANIO'I gerdd wna'r tonnog gôr—ar anial
Oer, unig y glasfor;
Chwery draserch ar drysor,
A swn amheus yn y mor.
Ar ei adain hir oedi—yw ei reddf
Pan fo'r aig yn berwi;
Yf yr haul efo'r heli,
Aderyn llwyd, deyrn y lli.