Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Gwerddonau Llion
← Yr Hen Gerddor | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Y Gweledydd → |
GWERDDONAU LLION.
I.
CLYWAIS glod Gwerddonau Llion
Yn fy mebyd pell;
Profais hud y cain orwelion
A'r ardaloedd gwell;
Deffro ysbryd y pererin
Diflin yn ddioed
Fynnai'r sibrwd, ond mae'r grawnwin
Eto ar y coed.
II.
Mewn myfyrion a breuddwydion
Crwydrais erwau blin;
Chwiliais am Werddonau Llion
Dan anwadal hin;
Cyrchu atynt oedd fy ngwynfyd
Dan wên haul a ser,—
Tybio'u canfod trwy'r ymachlud
Ambell hafnos ber.
III.
Croesais foroedd a mynyddoedd
Ar fy ymchwil hir;
Fy nisgwyliad melys ydoedd
Yn lladmerydd gwir;
Teimlo'n agos yn y pellter
Anfesurol wnawn,—
Teimlo 'nghalon, er ei gwagder,
Lawer tro yn llawn.
IV.
Ni ddaw hûn na chwsg i hanes
Y pererin brau,
Ymwresygodd at ei neges
Cyn i'r wawr ddyddhau;
Cael a gais ar ymchwil ffyddlon
Wnaiff dan wawr pob nef;
Onid yw Gwerddonau Llion
Yn ei galon ef?