Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Llwybrau Mynyddoedd
← Gadael Cartref | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Disgwyl y Tren → |
LLWYBRAU'R MYNYDDOEDD
HYD lwybrau'r mynyddoedd mor dawel
A chwmwl ymlithro a wnes,—
Cynefin yr heulwen a'r awel,
Cynefin yr oerni a'r tes;
Bu'r curwlaw yn golchi wynebau
Y llwybrau a gerddais mewn hoen;
Gwnai ysbryd y storom ar brydiau
Gymwynas â'r ddafad â'r oen.
Ni welir ar dramwy'r ffordd-ma
Ond bugail hamddenol a'i gŵn,
Ac ambell freuddwydiwr ysmala
Gais ddianc ar rodres a sŵn;
Daw'r cadno llechwraidd o'r bryniau
I'w sengi'n ochelgar ei droed,
A'i drem fel pe'n dwyn y pellterau
Gwahoddgar yn nês nag erioed!
Daw deryn y mynydd i ganu
Gerllaw ar ddiwedydd a gwawr,
Heb ymbil am saib i ddyfalu
Pa beth ydyw barn ei wrandawr;
Awgryma'r llythrennau ar feini
Oedrannus fod rhywrai, ar dro,
Yn dewis i'w henwau oroesi
Eu hanes ar fryniau y fro.
Bu'r llwybrau'n croesawu rhyfelwyr
Gwyllt Walia ganrifoedd cyn hyn;
Ysbrydion yw'r unig ymwelwyr
Geir heddiw yng ngwersyll y bryn;
Bu ambell bererin myfyrgar
A wybu am swyn encilfeydd,
Yn gwahodd clogwyni addolgar
I'r oedfa, a doent yn dorfeydd!
Dinodedd a Mawredd gofleidiant
Ei gilydd ar drothwy y ne',
Heb chwennych y clodydd a haeddant,
Y llwybrau a gadwant eu lle;
Daw'r hen olygfeydd yn newyddion
Yn llewych atgofion yn awr,
A thybiaf y gwelaf angylion
Yn dangos cyfeiriad y wawr.
Bûm neithiwr wrth wely gŵr difrad
Wynebodd dreialon trwy'i oes;
Ond cerddodd yng nghamre ei Geidwad,
A'i ysgwydd yn friw dan y groes;
Trwy'i gystudd canfyddai y nefoedd
Mor ddisglair a gobaith y sant;
Gŵyr yntau am lwybrau'r Mynyddoedd
Er treulio ei oes yn y pant.