Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Min yr Awel

Er Cof Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Eos Prysor

MIN YR AWEL.

I DRAMWY erys o drum i orwel,
Ei chŵyn yn iechyd a'i chân yn uchel;
Er rhoddi cerydd ar ruddiau cwrel,
I fodau tywys adfywiad tawel;
Goreu mun yn gwasgar mêl—dan oer glog
Ag emyn rhywiog yw Min yr Awel.


Nodiadau

golygu