Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Siffrwd y Deilios

Deryn yr Hydref Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Gweddw'r Milwr

SIFFRWD Y DEILIOS.

(Telyneg)

EISTEDDAIS yn nhes Mehefin
Dan brennau yr ardd mewn hedd:
Tawel oedd gwersyll y ddrycin
A'r gwynt wedi gwadu ei gledd;
Am siffrwd y deilios.
Ganolddydd a chyfnos,
Clustfeiniais yn ofer o'm sedd.

Eis yno pan ruthrai yr Hydref
Fel teyrn dialeddol trwy'r wlad;
Dyrchafai y corwynt ei ddolef
I alw'i fyddinoedd i'r gad;
O'r goedlan gyfagos
Do'i siffrwd y deilios,
A'r ddrycin yn brudio eu brad.

Fel clychau aur filoedd, mor firain
Oedd crinddail y coed uwch fy mhen;
Ond canu eu cnuliau eu hunain
A wnaent dan dymhestlog nen;
Mae'r diwedd yn agos
Oedd siffrwd y deilios
Ar gangau crynedig bob pren.

Ni welir gogoniant pennaf
Yr haf pan fo glasaf y berth;
Ni chlywir profiadau pereiddiaf
Eneidiau yn nyddiau ei nerth;
O'r ysbryd anniddos
Daw siffrwd y deilios,
Yn gân drwy'r corwyntoedd certh.


Nodiadau golygu