Bwch y Wyddfa (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Bwch y Wyddfa yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- 'Roedd bwch yn nhroed y Wyddfa
- Yn rhwym wrth aerwy pren,
- A'r llall yn Ynys Enlli,
- Yn ymryson taro pen;
- Wrth sŵn y rhain yn taro,
- Mae hyn yn chwedl chwith,
- Fe syrthiodd clochdy'r Bermo,
- Ac ni chodwyd mohono byth.