Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Evans, Daniel, Capel Drindod

Edwards, Thomas, Penllwyn Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Evans, Daniel, Ffosyffin

PARCH. DANIEL EVANS, CAPEL DRINDOD.

Ganwyd ef yn Cefnllechglawdd, am y ffin a Sir Aberteifi, ac heb fod ymhell o Gapel Drindod. Yr oedd ei dad yn grydd wrth ei alwedigaeth, ac efe oedd yn gweithio i balasdy Llysnewydd. Bu farw yn ieuanc, a chan fod golwg fawr arno yn Llysnewydd, cymerwyd Daniel Evans i fewn i'r palas, a gofalwyd am dano fel mab, a chymerodd yr un teulu hefyd ofal am ei fam. Cafodd lawer o fanteision yno fel Moses yn llys Pharaoh; dysgodd Saesneg, yr hyn a'i galluogodd trwy ei oes i ddeall llyfrau Saesneg. Yn y diwedd, rhoddodd y gwr bonheddig, Mr. Lewis, grefft ei dad iddo, a dysgodd hi yn dda. Priododd â Margaret, merch Griffith Evans, y Ddol, yr hon a gyfrifid yn aelod o seiat Llangunllo, gan mai Mr. Griffiths, yr offeiriad, oedd yn ei chadw, er mai seiat y Methodistiaid ydoedd, a hyny ymhell cyn codi capel Drindod. Wedi priodi, aeth i fyw i'r Cwmins, ar dir Penbeilumawr, a phan yma, cafodd grefydd, tra yr oedd diwygiad mawr yn y wlad. Yr oedd golwg fawr gan y Parch. Ebenezer Morris arno fel dyn ac fel Cristion, a chymhellodd lawer arno ddechreu pregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf hefyd o'i flaen yn Tower Hill, gyda Mr. a Mrs. Lewis, teulu a aeth i'r Eglwys yn amser yr ordeinio, Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1797, pan oedd ef yn 23ain oed. Barn pawb am dano oedd, ei fod yn bregethwr rhagorol; ac y mae y safle a enillodd yn y Cymdeithasfaoedd, Cyfarfod Misol ei sir, ac yn yr eglwysi yn gyffredinol, yn profi ei fod yn cael ei gyfrif yn un o'r pregethwyr goreu yn ei ddydd. Mae genym farn un o'r beirniaid goreu am dano, sef y diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., yr hwn a ysgrifenodd atom fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Daniel Evans mor gynefin i ni yn Sir Fon a Sir Gaernarfon a phe buasai yn byw yn ein plith. Y mae yn sicr y byddai yn dyfod heibio i ni bob blwyddyn, ac ambell flwyddyn ddwywaith, os nad tair. Rhoddid ef i bregethu mewn lle amlwg ymhob Cymdeithasfa y byddai ynddi, a gwelais ef rai gweithiau yn cael buddugoliaeth deg ar y gynulleidfa. Achlysurodd un bregeth iddo, yr hon a bregethai yn lled gyffredin ar y daith hono, gryn lawer o ysgrifenu, naill ai yn yr Eurgrawn Wesleyaidd neu yn y Dysgedydd, os nad y naill a'r llall. Y testyn oedd 1 Cor. xv. 22. Yr oedd yn pregethu yn gryf yn erbyn Arminiaeth, ac yn defnyddio rhai geiriau ag y buasai, fe ddichon, yn well iddo eu gadael allan. Yr oedd ganddo Gymraeg da ragorol. Adnabyddid ef yn Sir Fon fel "cefnder i Mr. Christmas Evans." Mae yr hanes uchod yn cytuno a'r hyn ydym yn glywed am dano, sef ei fod yn hoff o esbonio, ac y byddai y rhan fynychaf yn bur feirniadol wrth fyned at achlysur a meddwl ei destyn. Yr oedd y rhan fynychaf bob blwyddyn yn pregethu am 5 o'r gloch bob boreu dydd Nadolig yn Nghapel Drindod, a byddai y prydiau hyny weithiau yn bur feirniadol. Cafwyd gwleddoedd deallol a theimladol ganddo lawer gwaith ar yr achlysuron hyn.

Wele un o'i ddywediadau,——" Meddyliwch yn uchel am eich Ceidwad: mae llawer na feddylient fod ei eisiau felly arnynt; ond y mae lle i ofni fod rhai hefyd a broffesant fod ei eisiau arnynt, a meddwl rhy isel am dano i wneyd Gwaredwr o hono. Mae yn fater bywyd i chwi i chwilio pa fodd y mae rhyngoch â'r Gwr hwn."

Clywsom ef unwaith, a hyny mewn Cyfarfod Misol yn y Penant, ar ol y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, am 11 o'r gloch y dydd olaf, a'r odfa olaf mewn Cyfarfod Misol y pryd hwnw. Yr oedd yn ddyn o faintioli cyffredin. Wyneb bychan teneu, a'r holl gorff hefyd yn debyg. Gwallt melyngoch, ond bod arwyddion henaint arno ar y pryd, eto ddim yn gymaint felly a llawer oedd 20 mlynedd yn ieuangach nag ef. Yr oedd tyfiant o faintioli wy petrisen ar ei dalcen, yn union uwchben ei lygad de, os ydym yn iawn gofio. Mae yr un peth ar ei wyr, y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, ond ei fod y tu ol i'w ben ef. Yr oedd yn sefyll yn unionsyth yn y pulpud, a golwg heinyf a bywiog arno, a'i ysbryd hefyd yn llawn yni a gwres. Nid oedd yn gwaeddi, gyda'r eithriad o ambell i floedd fer. Yr oedd ei lais o'r dechreu i'r diwedd yn hyfryd, ac yn glywadwy i bawb. Pregeth fer a llawn o wres fyddai ganddo bron bob amser, fel y mae ei wyr eto. Yr oedd yn deithiwr mawr, a byddai felly yn ei sir ei hun, pryd na byddai ar daith i'r Gogledd na'r De. Mewn llyfr cofnodion yn Abermeurig, yr ydym yn gael Chwef. 15fed, 1831, mewn Cyfarfod Misol, yn pregethu oddiar Salm lxxxviii. 3, a'r Parch. Richard Davies, Llansadwrn, ar ei ol oddiar Act. xiv. 11; Mawrth y 25ain, ar nos Lun, oddiar Act. xiv. 5; Awst 26ain, dydd Gwener, am 12, oddiar Mat. xxv. 6; Tach. 13eg, Sabbath, oddiar Heb. ii. 3; Tach. 19eg, Sadwrn, am 12, ond ni chofnodir y testyn. Mae wedi bod yn debyg yr un nifer o weithiau yma y blynyddoedd eraill. Yr oedd yn un fyddai bob amser yn hynod o flasus ac adeiladol yn pregethu ac yn cadw seiat, fel yr oedd galw mawr am dano, ac yntau yn ymroddi i wasanaethu yr eglwysi yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist.

Yr oedd yn un o ddefnyddioldeb cyffredinol. Efe fynodd yr acer a haner o dir sydd at wasanaeth Abermeurig ar lease o 999. "Mae genyf newydd da i chwi," meddai, "cewch acer a haner o dir hyd yn agos ddiwedd y byd, os yw y mil blynyddoedd mor agos ag y dywed rhai eu bod." Pan ddaeth dirwest i'r wlad, daeth allan yn gefnogol iawn iddo, gan gadw cyfarfodydd yn bur fynych i bleidio yr egwyddor. Ni chafodd gystudd maith. Wrth ei deulu dywedodd, "Gofalwch chwi dderbyn y Ceidwad wyf wedi ei gynyg i'r holl wlad, gofalwch chwi ei dderbyu." "Gyda golwg ar y siwrnai sydd o'm blaen, mae pobpeth yn barod." "Mae yn galed iawn arnoch," meddai un wrtho; ae atebai, "O nag yw, mae y ffordd yn ddigon clir, a'r wlad yn eglur o'm blaen." Gwaeddodd allan, gan guro ei ddwylaw, nes y clywid ef allan o flaen y tŷ, sef Penmount, "Diolch, diolch." Yn dywedodd, "Yr oeddwn yn meddwl bod gyda chwi ddwy flynedd eto, ond dim gwahaniaeth, gan mai hyn yw trefn y Gwr; mey cwbl yn barod." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanguullo, pan yn 71 oed.

PARCH. DANIEL EVANS, FFOSYFFIN.

Ganwyd a magwyd ef mewn lle a elwid Post House, yn nes ychydig i Aberaeron na chapel Ffosyffin, a hyny oddeutu 1826. Yr oedd yn hynod ymysg ei gyfoedion am ei dalentau er yn blentyn, ac ymhyfrydai mewn darllen a phrydyddu. Cafodd gymhelliadau gan amryw i fyned i bregethu, cyn amlygu hyny o hono ei hun. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1849. Yr ydym yn gweled dau dderbyn barddonol iddo yn y Geiniogwerth am 1850. Clywsom ddweyd pan oedd yn dechreu pregethu, fod y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala, yn ei gymell i ddyfod ato ef i'r Athrofa, ac yn addaw y cawsai ei ysgol yno yn rhad; a'i fod wedi gwneyd hyny, ar ol gweled yn y darnau, "Angau y groes," a "Fy nghyfaill gollais," gymaint o'r awen farddonol, a thalent ddisglaer. Bu yn y Bala am rai blynyddoedd, a bu yn cadw ysgol yn ysgoldy Henfynyw am ryw gymaint o amser. Yr oedd gyda'r cyntaf yn y sir hon i brynu Alford's Greek Testament ar ei ddyfodiad cyntaf allan, a gwnaeth ddefnydd helaeth o hono.

Yr oedd yn un o'r pregethwyr goreu a fagodd Sir Aberteifi yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd ei bregethau yn llawn o fater, wedi eu cyfansoddi yn yr arddull goreu; a thraddodai hwynt yn wresog ac yn rymus. Yr oedd fel dyn yn un o'r cyfeillion mwyaf diddan a ellid gyfarfod, yn llawn humour; a chanddo ystorfa dda o ystorïau chwaethus, y rhai y gwyddai pa le a pha bryd i'w defnyddio. Ac er mor ddifyr ydoedd fel cyfaill, ni wnelai byth ddefnydd yn y pulpud o'i allu digymar i wneyd cwmni yn llawen, Yr oedd yn hanesydd ac yn wleidyddwr da, a medrai dori i'r asgwrn os gwelai ddynion yn gwneyd defnydd annheg ac annoeth

Nodiadau golygu