Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Dechreuad Ei Weinidogaeth

Bywyd Athrofaol Y Dr Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Aberdar Fel yr Oedd Ac y Mae

PENNOD V.

DECHREUAD EI WEINIDOGAETH.

Dyddordeb myfyrwyr yn eu gilydd—Y Parch. B. Evans, Hirwaun, a'i ddiacon—Amgylchiadau yr alwad i Benypound—Y Dr. a Mr. Thomas Joseph—Ei urddiad—Ei hanes gan Lleurwg—Dechreu ei waith yn egniol—Anfanteision—Yr hen weinidog—Talu y weinidogaeth—Barn Cynddelw—Dyfyniad o lythyr— Hen arferion Eglwys Penypound—Y Plygain—Y Luther ieuanc—Barn y diweddar Barch. W. R. Davies, gynt Dowlais, amdano—Llythyr W. Davies, Ysw., Kansas—Shakespeare—Dal ar y cyfleusdra—Manteision er anfanteision.

YNN y flwyddyn 1843, ymsefydlodd un o gyd-lafurwyr Thomas Price, sef y Parch. Benjamin Evans, yn weinidog yn eglwys y Bedyddwyr yn Ramoth, Hirwaen, yn yr hwn le y cafodd ffafr yn ngolwg y bobl, ac y llafuriodd gyda llwyddiant mawr hyd ei symmudiad i Heolyfelin, Trecynon, Aberdar.

Yn y flwyddyn 1845, rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol yn eglwys Penypound (yn awr Calfaria, Aberdar), i fyny, gan gymmeryd bugeiliaeth yr eglwys yn y Tongwynlas. Erbyn hyn yr oedd y Parch. B. Evans, Hirwaen, yn cael gwahoddiadau mynych i bregethu yn Aberdar, Cwmbach, a manau ereill, ac yn dechreu ennill dylanwad yn mhlith yr eglwysi y pregethai iddynt.

Fel y mae yn naturiol i weinidogion ieuainc deimlo a gweithredu yn garedig tuag at eu cyd-lafurwyr, felly yn gywir yr oedd yn hanes Mr. Evans. Yn gyffredin meddylia y myfyrwyr wrth sefydlu yn y weinidogaeth yn uchel am eu Alma Mater, a chredant lawer yn eu cyd-lafurwyr. Gwnant eu goreu yn aml i'w cynnorthwyo i gael lleoedd cyfaddas a chysurlawn. Yr oedd yn naturiol, gan fod hen eglwys barchus Penypound yn myned yn wag, fel y dywedir, i weinidog ieuanc Hirwaen wneyd ei oreu i geisio gweithio un o'i gyd-fyfyrwyr i fewn i'r gwagle, ac felly y gwnaeth. Yr oedd gan y Parch. B. Evans fantais fawr i wneyd hyny, gan fod un o'i ddiaconiaid, sef Mr. Evan Davies, gof, tad-yn-nghyfraith Mr. Walter Leyshon, wedi symmud o Hirwaen i Aberdar, ac wedi ymaelodi yn Mhenpound. Gyda Mr. Evan Davies, hefyd, yr adeg hono yr oedd y pregethwyr yn aros. Gweithiai Evans, Hirwaen, ychydig gyda'i hen ddiacon dros Price, ac ni bu ei lafur yn ofer. Un tro pan yr oedd Price yn supplyo yn Mhenypound, arosodd yno dros y Llun, ac yn yr hwyr gofynodd Evan Davies iddo a ddeuai efe gydag ef i'r cwrdd gweddi, a gynnelid y noson hono yn nhŷ un o'r aelodau. Atebodd Price ar unwaith y deuai gyda phleser mawr, ac aeth. Yr oedd y bobl yn falch i'w weled ynddo. Pan ddaeth yn adeg dechreu, ymaflodd Price yn y Beibl, darllenodd bennod, a threfnodd y cyfarfod mor ddeheuig a naturiol a phe ba'i y gweinidog. Ar ol y cwrdd, dywedodd yr hen frawd Thomas Dyke wrth Evan Davies, "Dyma'r dyn i ni, fachgen; y mae y dyn iawn wedi d'od o'r diwedd." "Yr ydych yn gywir yr un farn a minau," meddai Evan Davies, ac aeth yn garu brwd ar unwaith rhwng y llanc a'r eglwys, ac hapus fu y briodas a'r bywyd maith a ganlynodd.

Adroddai yr anfarwol Ddr. Price helyntion ei ddyfodiad cyntaf i Aberdar wrth y brawd caruaidd a thyner Thomas Joseph, Ysw., Gwydr Gardens, Abertawe, gynt Tydraw, Blaenycwm, yn y flwyddyn 1885. Yr oedd Mr. Joseph wedi dyfod i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnelid y flwyddyn hono yn Aberdar, ac arosai gyda ei anwyl ferch, Mrs. Dr. Hutchinson, Glanynys, am tua phythefnos. Yn ystod y cyfryw amser, gwahoddwyd y Dr. i dreulio prydnawn gyda y boneddwr parchus, Mr. Joseph, a dyna fu gan mwyaf yn bwnc eu hymgomiad, "Hanes boreuol Aberdar a dyfodiad yr hybeirch Ddr. B. Evans a Dr. T. Price i'r dyffryn.' Addefai Dr. Price mai trwy ddylanwad y Dr. Benjamin Evans yr oedd efe wedi ei gyflwyno i sylw yr Eglwys yn Mhenypound gyntaf. Bu Price yn pregethu fel supply o'r coleg amryw weithiau yn y dyffryn, ac ystyrid ef gan yr eglwysi yn bregethwr poblogaidd, ac yn ddyn ieuanc yn llawn o addewid. Yn yr un flwyddyn ag y rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol i fyny yn Aberdar, rhoddwyd galwad unfrydol a charuaidd i Thomas Price, yr hon a dderbyniodd yn galonog a ffyddiog, wedi ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad dyladwy â'i gyfeillion ac â'i athrawon parchus. Ymadawodd trwy ganiatad cyn terfyniad y flwyddyn ychwanegol estynwyd iddo. Yn mynegiad y Coleg am Gorphenaf, 1844, cawn a ganlyn:—"Mr. Thomas Price sought and obtained the consent of the Committee to leave at Christmas, about six months before the expiration of his fourth year, in order to take the charge of a destitute church at Aberdare, Glamorganshire, where a rapidly increasing population invited the labours of an active and devoted minister." Dechreuodd ar ei waith yn 1845, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1846. Yn y Bedyddiwr am Chwefror, 1846, cawn hanes Cyfarfodydd y Sefydliad wedi ei ysgrfenu gan ei hen gyfaill mynwesol Lleurwg, yr hwn sydd fel y canlyn:

URDDIAD

Mr. T. P. Price, diweddar fyfyriwr yn Athrofa Pontypwl, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Fedyddiedig yn Aberdar, Swydd Forganwg, a gydnabyddwyd yn weinidog arni dydd Iau, Ionawr 1af, 1846. Y myfyrwyr a'r gweinidogion a weinyddasant ar yr achlysur dyddorawl oeddynt y canlynolion:—Yr hwyr blaenorol, darllenodd a gweddiodd Mr. J. P. Jones, myfyriwr, a Mr. D. Davies, Wauntrodau, a B. Williams, Tabernacl, Merthyr, a bregethasant.

Dydd Iau, am 10, dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Evans, Hirwaen; Mr. William Jones, Caerdydd, a draddododd araeth ar Natur Eglwys Crist; yna Mr. Price a draddododd gyffes ei ffydd, yr hon oedd fer, cynnwysfawr, ac orthodox; a dyrchafodd Mr. Jones yr urdd weddi. Mr. Thomas Thomas, A.D., Coleg Pontypwl, a bregethodd i'r gweinidog ieuanc, a Mr. J. Richards, Pontypridd, a areithiodd ar ddyledswyddau yr eglwys tuag at y gweinidog.

Am 2 darllenodd a gweddiodd Mr. Thomas Evans, myfyriwr; a Meistri JJ. Saunders, Pontypwl, T. Thomas, Pontypwl (yn Saesneg), a J. Jones, Seion, Merthyr, a bregethasant.

Am 6, darllenodd a gweddiodd Mr. Edward Roberts, myfyriwr; a Meistri D. Jones, Caerdydd, a W. R. Davies, Dowlais, a bregethasant. Yr oedd hefyd y myfyrwyr canlynol yn bresenol yn yr urddiad o Athrofa Pontypwl, gyda y rhai a enwyd uchod, sef Mri. Thomas Williams, John Morris, J. R. Morgan (Lleurwg), a Lot Lee. Pan ddywedaf i ni gael arwyddion eglur fod Arglwydd Dduw byddinoedd Israel yn gwenu ar ein cyfarfod, ac wedi gweled fod genym brif ddoniau a galluoedd Bedyddwyr Cymru yn pregethu, hawdd gan y darllenydd gredu i ni gael cwrdd da. Y mae Mr. Price wedi ymsefydlu yn Aberdar o dan amgylchiadau cysurus iawn, y mae gwaith mawr o'i flaen, a gwyddom fod ganddo yntau galon i weithio. Nis gallaf roddi heibio heb anerch fy anwyl gyfaill yn bersonol.

"Poed ffawd i ti, frawd cywir fron,—heddwch
A dyddiau iach, hirion;
Byd hawdd o dan nawdd ein Ion,
Ag elwch lon'd dy galon.

Dy waith mawr, da, gwna'n egniawl—a llon,
Wrth draith y Llyfr Dwyfawl;
Heb dderbyn wyneb swynawl
Heb ofn y gelyn—dyn na diawl.

"Gwyddost am aml agweddion—beiau du
Y byd hwn a'i droion;
Os cei lawer briwder bron,
Neu daith o'th gur, cadw'th goron.

"Y cyfaill anwyl, cofia—y cynghor hyn
Hyd derfyn dy yrfa,
Cadw y rheol Ddwyfol, dda,
A dawn iach Duw'n ucha'.

"Yna ni luddias ein Ion ei lwyddiant
Ar dy lwyswaith, a sicrheir dy lesiant;
Dy bobl arialus a felus folant
Dduw haelionus, a'i eirchion ddylynant,
A'th ddiwedd fydd cael sedd sant—gyda'r llu
Nefawl, i ganu Dwyfol ogoniant."


Y mae yr holl weinidogion a gymmerasant ran yn ngwasanaeth yr urddiad wedi myned i ffordd yr holl ddaear; ond y mae rhai o'r myfyrwyr oeddynt yn bresenol yn aros hyd heddyw, ac yn sefyll yn uchel ac amlwg ar furiau Seion. Y mae yr hybarch Ddr. Morgan, Llanelli, megys cedrwydden henafig, wedi dal yr holl ystormydd, ac yn parhau i flodeuo fel y llawryf gwyrdd. Y mae y Parch. Ddr. Edward Roberts, Pontypridd, erbyn hyn wedi cyrhaedd oedran teg, etto, y mae yn dal yn gryf, ac y mae ei galon mor gynhes a'i yspryd mor selog ag erioed gyda gwaith ei Dduw. O'r pymtheg a nodwn oeddynt yn bresedol yn urddiad Price, nid oes, mor bell ag y gwyddom, ond y ddau hyn yn aros. O! y fath gyfnewidiadau y mae angeu yn wneyd mewn deugain mlynedd. Yn fuan iawn, byddwn oll wedi ein hysgubo ymaith, a chenedlaeth arall yn gofalu am Arch Duw. Mae yn briodol fod yr ystyriaeth o hyn yn peru i ni fod yn ddiwyd i weithio gwaith yr hwn a'n danfonodd tra y mae hi yn ddydd: y mae y nos yn dyfod pan na ddichon neb weithio.

Wedi i'r urddiad fyned heibio, ymaflodd Price yn ei waith pwysfawr â'i holl egni. Yr oedd gwaith mawr yn ei aros yn yr eglwys, a gwaith mawr yn ei aros yn ei lyfrgell. Nid oedd yr eglwys yn Mhenypound yn awr ond gwanaidd, a'r gynnulleidfa yn gymharol fechan. Rhif ei haelodau ydoedd 91, rhwng y gangen yn Mountain Ash. Yr oedd angen gweinidogaeth rymus yn Aberdar, yn ogystal a Mountain Ash, i ddeffro y preswylwyr, a galw eu sylw at yr Efengyl. Am yr ychydig flynyddau cyntaf o'i weinidogaeth, blinwyd yspryd y gweinidog ieuanc gan gwerylon personol ychydig deuluoedd; ond yn fuan, darfu i ddylanwad ei weinidogaeth, ei fedrusrwydd i gyfarfod a thrin materion o'r fath, yn nghyd â'i benderfyniad diysgog, ladd pob ymryson, diarfogi pob gelyn, tangnefeddu pob terfysgwr, a dysgu yr eglwys i fod yn “ddyfal i gadw undeb yr yspryd yn nghwlwm tangnefedd." Nid ydym yn cofio ei glywed yn achwyn llawer ar ddiffyg tangnefedd a chydweithrediad yn Nghalfaria; ond gwyddom fod ei holl siarad am danynt yn gadael argraff ar ein meddwl ei fod yn eu caru â chariad dwfn a diffuant.

Er fod gan Price lawer o fanteision yn ei gylch newydd, gan fod yr ardal yn cyflym gynnyddu, a gwawr goleu masnachaeth megys yn tori ar y dyffryn, yr hwn wedi hyny a ymagorodd yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd a phwysig yn y Dywysogaeth, etto, yr oedd ganddo, fel mae yn rhy aml gan weinidogion ieuainc yn dechreu ar eu gyrfa bwysig, anfanteision mawrion i'w gwynebu, a rhwystrau anocheladwy i'w gorchfygu.

Yr oedd ei gynweinidog wedi cael gafael ddofn yn meddyliau yr eglwys, ac wedi ymgartrefu yn serch y gynnulleidfa, yn neillduol yr hen bobl, ac nid hawdd oedd ganddynt ollwng eu gafael ynddo. Ymddangosai rhai o'r hen frodyr fel pe yn wrthwynebol a chroes i'w gweinidog newydd, ac ni ddangosent tuag ato y cydymdeimlad a allai efe ddysgwyl ei gael ganddynt. Codai y teimlad hwn ychydig oddiar y ffaith fod y gweinidog newydd yn cael ac yn hawlio cyflog sefydlog, er nad oedd yn fawr, tra nad oedd yr hen yn cael ond yr hyn allai yr eglwys wneyd neu a ewyllysiai roddi iddo. Yr oedd oes y cyflogau heb ddyfod etto; ond nid oeddynt yn ystyried y gwahaniaeth rhwng amgylchiadau y naill a'r llall. Yr oedd y Parch. W. Lewis,y cyn-weinidog, yn arch-adeiladydd (architect) celfydd. Bu hefyd, yn amser ei weinidogaeth yn Aberdar, yn flaenor y seiri yn Ngweithiau Dowlais. Derbyniai gyflog gysson am ei wasanaeth yno. "Efe," adroddai Mr. Thomas Joseph, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, "a dynodd gynlluniau Capelau High Street a Sion, Merthyr; Twynyrodyn, Wenvoe, Caerdydd; capel cyntaf y Bedyddwyr yn y Cwmbach, Aberdar, a llu ereill mewn gwahanol fanau "-fel, rhwng y cwbl, gallai Lewis fforddio byw heb ond ychydig neu ddim oddiwrth yr eglwys, tra nad oedd gan Price yr adeg hono ddim ond ei gyflog at ei gynnaliaeth. Yr oedd yr hen frodyr yn Mhenypound wedi eu dysgu yn ddrwg, ac wedi eu harfer i annghredu yn eu gallu i gyfranu at yr achos, ac yn neillduol at y weinidogaeth, o herwydd hyn.

Ofnwn fod llawer o eglwysi etto yn cael eu drygu yn y cyfeiriad a nodwn. Gwyddom am rai brodyr da wedi gorfod dyoddef am flynyddau, ac wedi cael gofid a thrafterth i ddysgu y bobl i gyfranu at achos crefydd, a hyny am fod brodyr cyfoethog, amaethwyr cefnog, neu fasnachwyr cyfrifol, wedi bod yn gweinidogaethu ar yr eglwysi o'u blaen, y rhai ni ddybynent ar y cyflogau gaent am eu llafur. Dylasai yr eglwysi ddangos yn ol eu gallu eu serch a'u teimladau da at eu gweinidogion drwy eu cynnal yn deilwng o'r Efengyl. Dysgwylia llawer o honynt wasanaeth mawr a phregethu da am dal isel. Adroddai yr enwog Hybarch Robert Ellis (Cynddelw) unwaith mewn cwrdd urddo gweinidog yn y Gogledd hanes hen frawd, un o'i aelodau yn Nglynceiriog, yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, "Nid ydych chwi, Robert Ellis, yn pregethu yn ddigon da i ni yn y Glyn." "Dichon nad ydwyf," atebai Cynddelw, "ond gwrandaw hyn, yr ydych chwi am gael cig eidion wedi ei rostio bob Sabboth a phwdin, tra nad ydych yn talu ond am datws a llaeth, ie, tatws a llaeth.' Tebyg ydoedd yn Aberdar pan gychwynodd y Dr. yno, a chafodd ddyoddef ychydig yn herwydd y cyfnewidiad yn y cyfeiriad a nodwn. Ond ni pharhaodd pethau yn faith felly, oblegyd yr oedd aelodau newyddion yn dyfod o fanau ereill. Cynnyddodd yr achos, a daeth yr eglwys yn alluog i roi cyflog deilwng i'w gweinidog llafurus. Am hyn ysgrifena Mr. Wm. Davies, Laurence, Kansas, yn ei lythyr o'r hwn y dyfynasom yn flaenorol:—"Cofiaf hefyd eich llafur caled am ychydig dal arianol dros flynyddau—misoedd lawer yn olynol heb gael ond tua hanner yr hyn oedd wedi ei addaw i chwi. Digon digalon oedd hyn, a buasai llawer un wedi gosod ei ffidl yn y to,' neu geisio ennill cynnulleifa fuasai yn talu yn well. Ond wedi hyny trodd y rhod, dylifai yr arian i fewn, a gallasai pobl feddwl y buasech wrth eich bodd pa fwyaf; ond pwy ond y chwi oedd y cyntaf i waeddi, Halt, dyna ormod, nid wyf am gael cymmaint.' Nid yw y nodwedd ddiariangar i'w chanfod yn gyffredin, a thrwy hyny y mae eich ymddygiad wedi gadael argraff ar fy meddwl na ddileir." Yr oedd hefyd rai hen arferion wedi eu mabwysiadu yn yr eglwys, yn erbyn y rhai y gosododd y gweinidog ieuanc ei wyneb, nid yn fyrbwyll, eithr gydag ystyriaeth a gofal mawr, etto gyda phenderfyniad diysgog i'w symmud yn llwyr. Gwna un enghraifft yn unig y tro i'n gwasanaethu yma, gan ei bod yn ddigonol i ddangos nodweddiad y dyn ieuanc oedd wedi ymsefydlu yno. Cyn dyfodiad Price i Aberdar, arferid ar foreuau dydd Nadolig gadw plygain yn Mhenypound bob blwyddyn, pryd y traddodid pregeth ar yr achlysur. Ymgynnullai y gwahanol enwadau yno, a theimlent fawr sel drosti. Boreu dydd Nadolig, 1845, sef wythnos cyn sefydliad Price yn y lle, efe oedd i wasanaethu yn y plygain, ac yr oedd dysgwyliad mawr wrtho fel gweinidog dyfodol yr eglwys. Daeth y boreu; yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynnull yn nghyd. Ymddangosodd y dyn ieuanc yn y pwlpud yn amserol, a thraddododd bregeth alluog, yn yr hon y cymmerodd olwg eang ar y Nadolig—ei hanes yn nghyd â thraddodiadau cyssylltiedig ag ef. Condemniodd y plygain fel hen arferiad Babyddol, a chyhoeddodd ddydd ei chladdedgaeth yn y lle. Terfynodd y cyfarfod. Dychwelodd llawer o'r gwrandawyr, yn arbenig yr hen bobl, i'w cartrefi yn siomedig a chlwyfedig. Triniai yr enwadau gwahanol y "Luther" ieuanc oedd wedi dyfod i'r lle, a chondemnient ef am ei ymosodiad beiddgar ar yr hen ddefod a ystyrient yn dra chyssegredig; ond ni thyciodd dim ar Price. Hono oedd y plygain olaf a gynnaliwyd yno, a dywedir mai hi ydoedd y diweddaf a gynnaliwyd mewn capel Ymneillduol yn Aberdar. Dyma osodiad cyntaf y fwyell ar wreiddyn gwyrgam cyfeiliornad gan Price; ond llwyddodd i syrthio llawer o honynt wedi hyny heb dramgwyddo ei gyfeillion goraf, fel y gwnaeth yn yr amgylchiad a nodwn.

Yn mhen ychydig amser wedi dyfodiad Price i Benypound, adroddai y diweddar Barch. W. R. Davies, Caersalem, Dowlais, wrth amryw o'r brodyr un boreu Sabboth, yn nhŷ un o'i aelodau, rhwng ysgol y boreu a'r cwrdd un- ar-ddeg, "fod yn y weinidogaeth lawer o fechgyn fine iawn —yr oeddynt yn rhy fine i godi eu llef yn erbyn cyfeiliornadau, a'u bod, yn herwydd hyny, yn cael eu cyfrif gan y bobl yn ddynion nice iawn. Yr oeddynt yn cerdded trwy y byd yn eu hyslopanau (slippers.) Nid oedd swn eu cerddediad i'w glywed, ac nid oedd llawer yn gwybod am eu bodolaeth; felly, yr oeddynt yn cael pob tawelwch a thangnefedd. Ond am fechgyn gwrol a gonest oeddynt yn codi eu lleisiau yn uchel yn erbyn cyfeiliornadau yr oes, yr oeddynt yn gorfod dyoddef llawer, ac mewn stormydd parhaus. Yr oedd bachgen bach wedi dyfod i Benypound o'r nodweddiad hwn, a Duw a'i helpo," meddai; "nid oedd dim ond stormydd a thywydd garw o'i flaen, oblegyd ni allai na ddywedai yn erbyn pob cyfeiliornad."

Ar adeg dathliad deugeinfed flwyddyn o lafur gweinidogaethol Dr. Price yn Nghalfaria, derbyniodd lythyr caredig, buddiol, a phwrpasol oddiwrth un o'i hen aelodau, William Davies, Ysw., Lawrence, Kansas, a chan ei fod yn taflu goleu ar amgylchiadau yr eglwys yn adeg sefydliad y Dr. yn weinidog arni, credwn mai nid anfuddiol fydd dyfynu rhanau o hono yma. Hoffwn allu ei osod yn gyf- lawn; ond ofnwn ei fod yn rhy faith i wneyd felly ag ef. Darllena fel y canlyn:—

Lawrence, Kansas,. . . .
Rhagfyr 17eg, 1885

ANWYL FRAWD PRICE,—

Goddefwch i hen gyfaill eich llongyfarch chwi ar ben deugain mlynedd o'ch llafur gweinidogaethol yn Aberdar. I mi y mae yn rhywbeth swynol i edrych ar adeg deugain mlynedd' yn ol a'r amgylchiadau cyssylltiedig. Daethoch chwi i Aberdar yn nghyflawnder nerth eich ieuenctyd, eich arfau yn finiog, a'ch braich yn gadarn. Yr oedd ar yr eglwys a'r ardal eisieu gweithiwr; chwithau yn barod, ewyllysgar, ac awyddus i waith. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn llanc tua 17eg oed, wedi bod yn ddigon hir yn athrofa yr Ysgol Sabbothol yn eglwys fach weithgar Hirwaun, i ddysgu gwerthfawrogi talent a llafur, ac wedi treulio blwyddyn yn Aberdar cyn eich dyfodiad chwi yno, a myfi oedd yr unig ddyn ieuanc yn yr eglwys y pryd hwn. Nid oedd un bugail i arwain y praidd, ond yn unig mewn enw. Nid oedd neb i drefnu na chynllunio pa fodd i ymosod ar gestyll y gelyn, na neb i arwain y fyddin; ond dyma Ionawr 1af, 1846, yn dwyn i fewn gyfnewidiad ar bethau. Yr oedd y dyn priodol yn meddu y cymhwysderau i gynllunio, y medr i arwain, y nerth a'r ewyllys i dori trwy rwystrau, wedi ei gael, ac wele ef ar Ddydd Calan yn cael ei urddo yn weinidog ar yr eglwys—y calenig goreu allasai hyd y nod yr Arglwydd ei Hun roddi iddi. Deugain mlynedd! Ymddengys y dydd hwnw megys doe yn fy nghof, a thyma chwi wedi eich gadael bron yn unig yn yr eglwys o'r oll oeddynt yn teimlo dyddordeb yn y gwasanaeth yr adeg hono.

"Nid annghofiaf byth eich llafur a'ch pryder y blynyddau cyntaf o'ch gweinidogaeth—chwilio am aelodau sylweddol yn cyfateb i'r enwau ar y llyfr; cael gafael mewn amryw mwy tebyg i feirw na byw; y moddion a arferech: y rhwbio a'r symbylu er ceisio gweled arwyddion bywyd; yr ymdrech gyda'r Ysgol Sul; yr annogaeth i'r ieuenctyd, &c. Yna, dyna ddechreu cynllunio i dori aden y gelyn trwy ymosod arno o'r gogledd, y dwyrain, a'r de, tra yr oedd corff y fyddin fechan a'i safle yn Mhenypound. Nid pob cadfridog feiddiai ranu ei fyddin fel hyn; ac nid heb lawer o bryder, ymgynghori, a gweddi daer, y darfu i chwi wneyd. Gwelsoch amserau ystormus, a rhai cyfarfodydd fuasai wedi lladd un llai gwrol; aelodau anfucheddol a grwgnachlyd a fynent gadw ar Enw Mab Duw a gwasanaethu Belial, y rhai, er hyny, a draddodwyd i Satan a dinystr y cnawd; ond nid heb ymladd cyndyn y gorchfygwyd hwy. Brodyr da, ond camsyniol eu barn a'u teimladau, fuont hefyd yn ddraenen yn eich ystlys dros amser, nes gorfod arfer moddion chwerw tuag atynt, er lles iddynt hwy a'r eglwys. Nid oedd neb yn fwy blin na chwi fod angenrhaid am y fath foddion, ac wedi blynyddau lawer o ystyriaeth, nid wyf wedi gallu gweled un llwybr gwell nag a gymmerwyd; etto, teimlad blin oedd yr eiddoch chwi yr adeg hono, ac oni bai eich gwroldeb anarferol a nerth Duw, buasech wedi rhoddi fyny yr ymdrech, a gadael yr eglwys i ddychwelyd i'w chysgadrwydd cyntefig; ond trwy drugaredd, cawsoch nerth i sefyll rhuthriadau yr holl ystormydd, a dwyn yr achos allan i fuddugoliaeth. Daeth llwyddiant ar y llafur, sain cân a moliant yn Seion, cannoedd yn treisio teyrnas nefoedd. Yn lle ymladd, daeth gwaith magu a meithrin y genedigion newydd, a chyn hir, daeth heddwch fel yr afon."

Y mae yr uchod, ni a dybiwn, yn ddigon i godi ychydig ar gwr llen amser i'n galluogi i edrych yn ol i ddechreuad y deugain mlynedd y sonia yr ysgrifenydd am danynt, a chael cipdrem ar amgylchiadau hen eglwys barchus Penypound pan gychwynodd Price ei yrfa weinidogaethol yno. Dechreuodd ei weinidogaeth yn yr eglwys, fel y dengys y dyddiad, yn nyfnder y Gauaf; ac yr oedd yn ychydig o Auaf ar yr eglwys pan y cafodd hi. "Sonia Mr. Davies am gysgadrwydd cyntefig," "amserau ystormus," am "aelodau grwgnachllyd," a "drain yn ystlys" y gweinidog. Arwyddion Gauafol ydynt y rhai hyn. Ni fu erioed galedach gauaf, ia ac eira oeraidd sydd yma, swn gwyntoedd ac ystormydd dinystriol. Ond er mor dywyll, nid oedd y Gwanwyn yn mhell. Yr oedd y dydd cyntaf o Ionawr, feddyliwn, yn broffwydoliaethol o agoriad gwell amser, a chyfnewidiad hapus i fod yn yr amgylchiadau. Yr oedd y dydd yn ymestyn; goleuni yn myned ar gynnydd. Yr oedd y Gwanwyn mwyn oedd yn dynesu yn dyfod a dylif o fywyd yn ei gol; yr oedd yr haul i wenu a gwresogi; anian i'w gwisgo yn ogoneddus yn ei mantell werdd, a'r Haf toreithiog fel brenin coronog y flwyddyn i wneyd ei ymddangosiad yn y man. Felly yr oedd ac y bu yn hanes Penypound yn ei chyssylltiad â'i gweinidog, Thomas Price. Oeraidd ydoedd ansawdd yr eglwys pan y cafodd hi. Ia rhynllyd difaterwch a chysgadrwydd wedi ei meddiannu, grwgnachrwydd a chwerylon teuluol mal chwäon gauafol yn deifio egni a pherlysiau gardd yr Arglwydd. Ond yr oedd dyfodiad Price ati, dan fendith Duw, i fod yn droad y dydd iddi; goleuni ysprydol i fyned ar gynnydd; Gwanwyn moesol i ymagor arni, a'r Arglwydd i "ollwng ei Yspryd i'w hadnewyddu fel gwyneb y ddaear," ac haul diwygiad a llwyddiant crefyddol i goroni ei lafur ef a'r eglwys. Am bwysigrwydd arbenig y cyfnod hwnw, ysgrifena y Dr. ei hun yn Juwbili Eglwys Calfaria:—"Ni fu eglwys erioed mewn sefyllfa mwy cyfyng i roddi galwad i weinidog nag oedd eglwys Aberdar yn y flwyddyn 1845. Gallasai camsynied y pryd hwnw fod yn andwyol i achos y Bedyddwyr am oes gyfan. Yr oedd eisiau cael y dyn iawn i'r lle priodol. Yr oedd Aberdar fel ardal yn myned i gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dyeithriad lawer yn tyru i'r lle—y llanw moesol yn dyfod i mewn yn donau mawrion—adeg bwysig i eglwys a gweinidog—naill ai cymmeryd gafael gref ar yr adeg, neu golli y cyfle am byth." Dywed Shakespeare:—

"There is a tide in the affairs of men,
Which, taken at the flood. leads on to fortune;
Omitted, all the voyage of their life
Is bound in shallows and in miseries."

Ni esgeulusodd y gweinidog ieuanc ei adeg, yr oedd yn barod i'r llanw mawr. Yr oedd yn gyfartal i'r amgylchiadau; ac fel cadfridog doeth a medrus, arweiniai y fyddin fechan oedd wedi ei hymddiried gan yr Arglwydd i'w ofal yn llwyddiannus. "Yn awr" yw yr arwyddair sydd yn argraffedig ar faner y doeth. "Yn awr" oedd arwyddair Price, a llwyddodd yn fendigedig gyda'i eglwys ac yn mhob cylch arall y troai ynddo drwy hyny. Er fod gan Price ei anfanteision i ddechreu ei fywyd gweinidogaethol, etto yr oedd ganddo lawer o fanteision, fel yr awgrymir ganddo ef ei hunan. Gellir dweyd fod ei ragoriaethau, ar y cyfan, yn dra dysglaer. Yr oedd ei ddyfodol yn feichiog o addewidion. Yr oedd Aberdar yr adeg hono, fel y cawn nodi yn helaethach yn y man, mewn ystyr yn yr esgoreddfa, yn cael ei geni i fodolaeth odidog. Dechreu ymagor yr oedd, ac yn fuan daeth yn gyrchfan pobloedd lawer—yn ganolbwynt masnach lo y Deheudir. Ac i ddangos hyn yn fwy effeithiol, cymmerwn olwg fanylach yn ein pennod nesaf ar Aberdar fel yr oedd ac fel y mae; yna dychwelwn at yr eglwys a'i gweinidog i'w gweled mewn amgylchiadau uwch a mwy ffafriol.

Nodiadau

golygu