Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Ei Ffraeth-Eiriau

Ei Ddydd Lyfrau Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Nodiadau ar y Doctor

PENNOD XVIII.

EI FFRAETHEIRIAU.

Naturiol ffraeth—Myned yn mhell, etto o fewn terfynau—Myfyr Emlyn ar ei ffraethineb—Gwaith angylion—Myfyr etto—Pregeth y Corn Bach—Levi Thomas—T. ab Ieuan—Rustic Sports yr Ynys—Y Dr. a Spurgeon.

YR oedd y Dr. yn naturiol ffraeth (witty), ac yn llawn o'r doniol a'r digrifol; etto, cadwai yn lew iawn y tu fewn i derfynau gweddeidd—dra a moesgarwch. Yr oedd yn cymmeryd, ac mewn gwirionedd yn cael, mwy o ryddid i ddweyd yr hyn a fynai na neb ag a adnabuom erioed. Byddai ei ffraetheiriau a'i chwedlau yn myned yn mhell weithiau, ond ymesgusodid trwy ddywedyd, "Dr. Price yw ef—y mae fel efe ei hunan." Yr oedd llawer iawn o'i wits, fel y byddant yn gyffredin, yn ymddybynu ar amgylchiadau, atebent yn eu lle yn dda; ond wrth eu hailadrodd collant lawer o'u gogoniant. Y mae Myfyr Emlyn yn ddarluniadol a chywir o hono yn ei ysgrif y cyfeiriasom ati droion yn flaenorol ar y mater hwn; ac er ein bod wedi cylymu traed yr un ergydion yn ein braslinellau o'r bennod hon, etto teimlwn nas gallwn wneyd yn well na gadael i Myfyr eu hadrodd yma. Dywed:—

"Yr oedd y Dr. yn hynod o ffraeth, ac yr oedd ei ffraethineb yn aml iddo yn brofedigaeth, a chariai ef weithiau i arddull a ystyrid gan rai yn amheus. Ond cymmaint oedd ei ysprydiaeth, ei naturioldeb a'i ddifrifoledd, fel y medrai ddweyd a gwneyd gyda boddhad i gynnulleidfa, yr hyn a gyfrifid mewn ereill yn annyoddefol. Pan yn gadeirydd i Mr————[1] a areithiai mewn cyssylltiad â Chymdeithas Heddwch, yn amser Rhyfel Rwsia, clywais iddo ddweyd ar y diwedd, 'Er fy mod gymmaint dros heddwch a neb, etto, pe cawn fy nymuniad, rhoddwn gasgen o bylor dan Nicholas, a chwythwn ef i ddiawl.' Paid gwrido, ddarllenydd hoff, pe clywet Price yn dweyd hyn buaset yn chwerthin yn iachus, pa un a fuaset yn cyduno â'r syniadau ai peidio. Clywais ef yn dweyd wrth gynnulleidfa o Saeson yn Llundain un tro, 'Yr ydych chwi, y Saeson, yn barod i feddwl pob drwg am danom ni y Cymry. Dywedwch fod Sir Fynwy yn perthyn i Loegr, ond pan y crogir rhywun yno, yna dywedwch ei bod yn Nghymru; ond cofiwch, pan y crogir rhywun yn Sir Fynwy, Sais ydyw.' Gwyr y darllenydd fod yr Ianciod yn dra anarddangosiadol a digyffro eu hagwedd pan yn gwrando pregeth neu ddarlith, fel mai anhawdd i ddyn dyeithr yw gwybod pa le y saif mewn cyssylltiad â hwy. Yr oedd Dr. Price yn pregethu un tro i gynnulleidfa yn America ar Weledigaeth yr esgyrn sychion,' ac wrth ddarlunio eu sychder a'u marwoldeb, dywedodd yn sydyn, 'Yr oedd. ynt mor sych a marw a chynnulleidfa Ianciaidd.' Yn awr, beiddiaf ddweyd mai un o gant o Gymru neu Loegr a ddywedai hyn heb i'r gynnulleidfa hono osod y diffoddydd arno, a thaflu arno y diystyrwch mwyaf; ond fel arall yn hollol y bu—y gynnulleidfa a orchfygwyd yn llwyr, a daeth yn gyffelyb i un Gymreig, mewn hwyl, neu i'r esgyrn sychion ar ol taflu iddynt anadl bywyd ; a chofir gydag edmygedd a brwdaniaeth am y dyn bach cadarn, ffraeth, a dwys—eneidiol o Gymru hyd y dydd heddyw. Cangen o'i eglwys ydyw Gwawr, Aberaman, a phan oedd y gangen yn ieuanc, trodd y gweinidog ac amryw o'r aelodau at y Mormoniaid, a cheisient feddiannu y capel: cadwent gyfarfodydd a'r drysau yn nghlo, ac ofnid y gorchfygent. Ond ar un o'r adegau hyn aeth ein gwron, gydag ychydig gyfeillion, a thorodd i fewn trwy y ffenestr; ac fel cadfridog dewr, efe oedd arweinydd y gad. Ymarferodd dipyn o Gristionogaeth ewynol trwy ymaflyd yn y gweinidog gwrthgiliedig, gan ei fwrw allan yn gorfforol o'r synagog; ac ni fwriwyd allan gythraul erioed yn fwy llwyr ac effeithiol, a chafodd efe a'i ganlynwyr gymmaint o fraw, fel na bu arnynt chwant byth mwy yspeilio eiddo arall."'—Gweler Y Geninen Gorphenaf, 1888, tud. 177.

Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn eglwys unwaith oedd dipyn yn drymaidd ei hyspryd ac yn gwrandaw yn bur sych arno. Desgrifiai waith yr angylion. Dywedai,

"Mae y nefoedd yn drefnus gyda phob peth, ac mae gan bob angel ei waith, a gallaf eich sicrhau fod pob un o honynt yn meindio ei fusnes. Y mae rhai o honynt yn cario newyddion o'r ddaear, ac yn adrodd sut y mae pethau yn myned yn mlaen yma. Nid yw ereill o honynt yn gwneyd dim ond costrelu y dagrau mae saint Duw yn eu colli yn myd y cystudd mawr. Mae un arall yn cofrestru amenau y plant; ond Duw sy'n gwybod! gall sychu ei ysgrifbin o ran dim gwaith mae yn gael gan yr eglwys hon, ac yr wyf yn ofni y gall roi i fyny ei waith yn eithaf rhwydd o ran a gaiff y dyddiau hyn o Gymru."

Deffrodd y nodiad hwn ychydig ar y gynnulleidfa, a gwrandawsant yn fywiocach o hyny yn mlaen. Gallai y Dr. anturio i ddweyd pethau felly, oblegyd yr oedd yn wrandawr bywiog ei hunan. Dywed Myfyr Emlyn yn mhellach am dano,

"Yr oedd yn wrandawr hynod o hwylus ar ereill. Adnabyddais ac adnabyddaf amryw o frodyr poblogaidd, y rhai a garant gael arddangosiadau o' hwyl' gan eu gwrandawyr; ond ni roddant 'Amen,' ochenaid, nac edrychiad serchus i'w cydwas pan yn ymdrechu dros Dduw a'r bobl, ond eisteddant fel delwau, plygant ben, gan wneyd gwepau fel pe b'ai gas ganddynt yr Efengyl ond pan yn cael ei thraddodi ganddynt hwy. Ond un hollol wahanol oedd ein gwrthddrych: gwrandawai yn wastad yn y modd mwyaf bywiog ac arddangosiadol oddieithr fod cwsg am funyd yn ei orchfygu. Cysgai a dihunai yn gyflym, ond braidd na ddywedai Amen' dan y bregeth rhwng defnynau cawod cwsg. Gwrandawai ar y gwan yn gystal â'r cryf—y naill o gydymdeimlad a'r llall o edmygedd; a'r gwan a g'ai fwyaf o'i hwyliau. Ni edrychai yr ŵyn arno fel ar lwdn tarw neu hwrdd afrywiog a gelyniaethus, ond fel ar oen cydryw a chydnaws yn ymbrancio ac yn ymbleseru ar lechweddau iachus a thoreithiog Mynydd Seion. Un o'r cofion cyntaf sydd genyf am dano oedd mewn cyfarfod poblogaidd ar brydnawn trwm yn Nyffryn Aberdar, pan oedd 'canwr pibell poblogaidd' yn pregethu, yr hwn yn sydyn a ganodd, ' Yr wyf wedi colli fy mhregeth—'wn I ddim beth i dde'yd.' Bloeddiodd Price allan, 'All right, cer' y' mlaen,―mae yr hen don genyt.' Adfywiodd y gynnulleidfa, a bu dawnsio rhyfeddol cyn y diwedd. Medrai daflu tânbeleni i'r dorf nes ei hadfywio, ei lloni, a'i dwyn i gywair priodol."

Yr oedd y Dr. yn pregethu yn Nghymmanfa Bassaleg yn y flwyddyn 1851, a'i destyn oedd y "Corn Bach." Yr oedd y bregeth hono yn broffwydoliaethol ganddo. Dywedai y byddai i'r Pab golli ei awdurdod yn y flwyddyn 1870, a throdd ei broffwydoliaeth allan yn wirionedd. Yn y flwyddyn y pregethai yn y gymmanfa a nodasom, yr oedd y wlad yn cael ei rhanu yn esgobaethau gan y Pab. Wedi codi y bobl i hwyl fawr, gwaeddodd y Dr. allan â llef uchel, " Bobl! cedwch y plant a'r Beibl gyda'u gilydd, yna rhoddwn hèr i'r Pab a'r diawl!"

Byddai yn ddoniol weithiau gyda'r brodyr mewn arabedd ac ysmaldod. Yr oedd Dr. Levi Thomas, Castellnedd, un tro yn pregethu yn Nghalfaria, ac fel y gwyr y rhai a'i hadwaenent ef, yr oedd wedi ei freintio à chorporation pur lew, a'i ddonio à llais nodedig o nerthol. Achwynai Levi dipyn ar y dechreu ei fod yn anhwylus yn herwydd afiechyd, a dymunai am gydymdeimlad y gynnulleidfa; ond cyn terfynu, yr oedd y pregethwr wedi annghofio ei anhwylder, ac wedi myned i waeddu yn annghyffredin, fel y gallai efe. Wedi iddo orphen, cododd Price, a dywedodd yn ei ffordd ddigrif, "Diolch i Dduw fod Levi Thomas yn dost: pe byddai yn iach, clywid ef yn Abertawy!"

Pan oedd y Parch. T. James (T. ab Ieuan), Glynnedd, yn olygydd Dyddiadur y Bedyddwyr, aeth rhyw siarad rhwng rhai o'r brodyr yn nghylch amser a'r gwahaniaeth yn hyd y misoedd. Dywedodd y Dr. yn sydyn, "Yr wyf yn deall y misoedd pedair i gyd yn rhwydd, ond yr wyf yn gadael y misoedd pump i gyd i'r brawd o Glynnedd." Cogleisiodd yr atebiad deimlad T. ab Ieuan, a chafodd ei foddhau yn chwerthiniad calonog y brodyr, oblegyd yr oedd yn falch o gael compliment yn nghylch ei waith a'i gyssylltiad â'r dyddiadur.

Ychydig flynyddau yn ol, cynnaliwyd Cymmanfa Gerddorol Ynyslwyd, ar y Llungwyn. Y flwyddyn hono, David Hughes, un o ddiaconiaid y Dr., oedd y cadeirydd. Y diwrnod hwnw hefyd, yr oedd Rustic Sports yn cael eu cynnal ar Gae yr Ynys, yr ochr arall i'r afon o Gapel yr Ynyslwyd; ond gellid clywed swn eu rhialtwch pan floeddient yn gymmeradwyol am ryw orchest-gampau. Triniai y cadeirydd y sports, y chwareuwyr, a'r rhedegwyr, &c., a'i meistr yn arw iawn, pryd y gwaeddodd Price o'r sedd fawr odditano, Eithaf right, Dafydd Hughes; rhowch hi iddo, oblegyd hen dd--l yw e' o hyd." Rhoddodd hyn fwy o nerth yn mraich Hughes i fflangellu hen "chap," ys dywed Harris o Heolyfelin.

Un tro, yr oedd y Dr. yn darllen papyr, yr hwn a gynnwysai lawer iawn o ffigyrau, yn Nghyfarfodydd Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, a gynnelid y flwyddyn hono yn L'erpwl. Yn nghanol ei araeth, pan yn tynu y tŷ lawr bron, ac wedi gyru y gynnulleidfa braidd yn fflam, gwelodd y Dr. Mr. Spurgeon yn dyfod i fewn, a dywedodd, yn ol ei arabedd arferol, yn y modd mwyaf tarawiadol, Rhaid i'r sér fyned o'r golwg pan mae yr haul yn gwneyd ei ymddangosiad;" a gwaeddodd Spurgeon mewn atebiad, "Go on, brother Price; go on, brother Price." "All right," meddai Price; "I shall not be long," ac yn mlaen â'i ffigyrau yr aeth nes oedd y gynnulleidfa fawr mewn hwyl ac yn synu a rhyfeddu at ei allu digyffelyb. Gellid ychwanegu nifer lluosog o bethau tebyg am ein gwrthddrych; ond credwn y gwasanaetha yr uchod i daflu golwg arno yn yr ystyr a nodwn. Felly, symmudwn yn mhellach yn mlaen, a chyn cael yr olwg ddiweddaf arno, gwahoddwn amryw frodyr a'i hadwaenent ef yn dda i wneyd ychydig nodiadau ar y Dr., a dyna fydd ein pennod nesaf.

Nodiadau

golygu
  1. Caledfryn ydoedd hwnw. Yn nghapel y Methodistiaid, Aberdar, y traddodid y ddarlith. ac ofnai y rhai mwyaf sanctaidd o'r Corff yr halogai y Dr. eu teml.