Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun/Ardal Mebyd
← Rhagair | Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun gan Ieuan Gwynedd |
Fy Mam → |
BYWYD IEUAN GWYNEDD.
I. ARDAL MEBYD.
I. ADGOFION.
Yn ei Afiechyd Olaf, ddechreu 1852.
YN ystod y ddwy flynedd ac wyth mis diweddaf, yr ydwyf wedi treulio lawes mwy na hanner fy amser yn y gwely. Am chwe mis cyfan, treuliais yr oll ynddo, ond rhyw ychydig oriau yn y rhai y'm symudid o un lle i'r llall. Nid wyf yn codi cyn deuddeg ond anfynych, nac yn aros ar ol naw heb ddychwelyd, pan fyddwyf ar y goreu. Am hir amser, bu fy mreichiau yn rhy wan i ddal un llyfr, ac yn awr nis gallaf byth gynnyg eu dodi allan heb gael yr anwyd. Gan fod y cyflwr hwn yn Wahanol i'r dull y treuliais y rhan flaenorol o fy mywyd, naturiol i adgofion mebyd ac ieuenctyd ddyfod yn fynych i fy meddwl. Ac y maent yn dyfod ac yn chwareu o fy mlaen lawer awr pan yn effro gan chwys neu beswch yng nghanol nos, neu pan y byddaf yn edrych ar y coed nes britho fy llygaid wrth aros amser codi. Hen leoedd, hen bobl, hen olygfeydd, hen ddigwyddiadau, hen deimladau, a hen helyntion a ymwelant â mi; ac yn lle fy ngadael i fyw yn nychdod yr amser presennol, hwy a'm dygant yn ol i adegau pan y gallwn orffwys fy mhen ar fynwes fy mam, eistedd ar lin fy nhad a cherdded yn llaw fy mrawd. Nis gallaf wneyd yr un o'r pethau hyn yn awr. Mae prydweddau fy mam wedi gweled llygredigaeth ym mynwent Rhydymain, mae fy nhad ymhell oddiwrthyf yn ei hen gartref, a'm brawd yng Nghaerynarfon, a minnau yng Nghaerdydd. Gallwn gynt neidio, a rhodio, a rhedeg; yn awr nis gallaf gerdded degllath heb ddiffygio. Gallwn gynt waeddi nes y'm clywid gryn ddau led cae o bellder, ond yn awr nis gallaf ymddiddan ond mewn llais isel yn wastad, ac yn fynych yn anhyglyw.
Ac onid yw yn garedig iawn yn yr Adgofion hyn ymweled â mi? Beth pe y gadawent fi i gyfrif rhuthriadau y peswch, i edrych ar lesni fy ewinedd, i fesur amgylchoedd fy nghoes a'm braich, i wrandaw curiad neidiol ac ansefydlog fy nghalon, neu i deimlo y poen dibaid yn fy ystlysau a'm hysgwyddau? Byddwn yn druenus Ond mae yr Adgofion hyn fel elfodau caredig o fro arall yn fy nwyn yn ol i ddyddiau dedwyddach, mewn rhyw ystyr, na'r rhai sydd yn disgyn i'm rhan yn bresennol. Eto danghosant i mi nad oeddwn yn mwynhau dedwyddwch digymysg y pryd hwnnw, a chadwant fi rhag gofidio o herwydd fy nghyflwr diymadferth presennol. Nid ydyw yr Adgofion hyn, wrth reswm, yn perthyn dim i neb ond fy hunan; ond gan eu bod yn gwneyd lles i mi, dichon y cyfarfyddant lygaid rhyw gyd-greadur cystuddiedig, ac y gwnant les iddo yntau drwy arwain ei feddwl yn ol i oriau diddan mebyd. Y mae ynddynt ryw felusder, ac nis gallwn byth sugno yr holl felusder o un gwrthddrych cyfreithlawn. Nid yw y wenynen yn cludo ymaith holl ddefnydd mêl y blodeuyn; ac os dewiswn ninnau edrych yn ol ar oriau mebyd, cawn allan na fwynhasom eu holl hyfrydwch pan yn eu treulio.
Y lle cyntaf i mi wybod rhywbeth am dano oedd tŷ o'r enw Bryn Tynoriad, yn nhref-ddegwm y Brithdir Uchaf, ym mhlwyf hirfaith Dolgellau. Nis gallaf ddywedyd beth ydyw ystyr "Tynoriad," os nad yw yn arwyddo llain o dir gwastad, gwastadle, neu ddyffryn bychan. Y mae hyn yn burion ystyr iddo, ac o ran dim a wn i, dyna ydyw mewn gwirionedd. Am Fryn Tynoriad nid oes gennyf ond ychydig o gof, gan i mi adael y lle pan yn flwydd ac wyth mis oed. Yr wyf yn cofio fod gallt y Wenallt ar gyfer y tŷ, ffridd y Celffant wrth ei gefn, ac afon Wnion o'i flaen. "Celffant," yn ol Geirlyfr Meirion, yw "diogi;" ac nid anhebyg gennyf nad oedd caledwch, gerwindod, ac anffrwythlondeb y lle hwn yn ddigon i yrru un dyn yn ddiog. Cafodd ei arloesi ymhen blynyddoedd ar ol ein hymadawiad ni â'r lle; ac fel y digwyddodd, yr oedd gan fy nhad ran yn y gwaith. Yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn myned i edrych am dano yno, a dyna y pryd y ffurfiais fy meddylddrychau am yr annedd y'm ganed ynddi.
Yr oedd erbyn hyn wedi ei throi yn feudy. Troais o fy llwybr i edrych arni. Amgylchais y ty yn ol ac ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y'm ganesid; ac fel yr oeddwn yn myned yn ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed o'r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw. Yno y'm brys-fedyddiwyd rhag fy marw yn ddifedydd, a chael yr helbul o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milldir o ffordd o'r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a'r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf, ac yno y cyneuwyd ynnof y ganwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan. Nid oedd waeth mai beudy ydoedd yn awr, ac mai yr anifail ydoedd fy olynydd—yno y dechreuaswn i y dirgelwch mawr o fywyd. Yno y dechreuodd fy ngenau archwaethu—yno y disgynnodd gwrthddrychau ar rwydell fy llygaid nes i mi weled—yno y tarawodd tonnau swn ar fy nghlust nes y clywais—yno y dechreuodd peiriant rhyfedd y galon weithio, yr hwn sydd hyd yma heb sefyll, er fod hir gystudd wedi ei wasgu ymhell o'i le naturiol—ac yno y dechreuais deimlo a meddwl. Pa waeth oedd i mi beth oedd y lle yn awr? Buasai yn gysgodfa i mi yn nyddiau gweinion mebyd—atebasai ei ddiben y pryd hwnnw; ac er fod cysylltu maes at faes yn awr wedi troi annedd dyn yn dy yr anifail nid oedd i mi yn llai dyddorol. Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn farw. Yno y dechreuais fy llwybr i'r wybrenau, ac yno y dechreuais fy ffordd i'r bedd. Pwy allai ymweled â'r fath le heb deimlo iasau o syndod prudd—fyfyriol yn rhedeg drwy ei galon? Nis gallwn i, ac ymdroais yn hir yn ymyl lle fy ngenedigaeth; ac er i mi ei weled gannoedd o weithiau ar ol hynny, eto ni bum byth yn ei ymyl nac o'i fewn, er fod cefnder i mi wedi ei hir breswylio.
Lle tawel neillduedig ydoedd, yn sefyll, fel y crybwyllwyd, yn nyffryn main yr Wnion. Nid oedd un ty yn agos iawn iddo, ac nid oedd y lle yn nodedig am ddim ond unigrwydd gwladaidd. Nid pell iawn oedd Coed y Ddôl, lle y ganesid y diweddar Barch. David Jones, o Dreffynnon; ac ar y brif-ffordd yn gyfagos, yr oedd dau le enwog ar y daith o Ddolgellau i'r Bala, sef Tafarn Drws y Nant, a Thollborth y Ronwydd. Dichon nad oedd dau le mwy nodedig yr amser hwnnw o Langollen i Ddolgellau. I dollborth y Ronwydd y canodd Mr. Titley, o Gaerlleon, ymhen blynyddoedd wedi hynny.—
"Adeilad wael, ac ddim yn ddiddos,
Heb wely clyd i orwedd y nos."
Lle nodedig oedd yr ardal hon am eglurdeb yr enwau oedd ar y tai. Nid oeddynt yn amgen nag ansoddeiriau lleol. Enw nant oedd y Rhonwydd, yr un a Rhondda y Deheudir, a Rhein y Cyfandir. Wnion yw enw yr afon a ddechreua lifo tua Dolgellau oddiwrth fargod y Pant Gwyn, heibio i Ddrws y Nant uchaf, y Pant Clyd, Dyfn-nant, a Gallt y Gwinau, ac islaw y Cae Coch, nes cyrraedd Dol y Ddeulif, lle yr oedd afon arall yn ei chyfarfod. Yr holl enwau hyn ydynt yr un mor briodol heddyw a'r dydd cyntaf eu harferwyd. Ymddengys fod gan amgylchiadau lawer llai i'w wneyd âg enwi tai yr ardal hon, na'u sefyllfa. Ar lan afon Gawr, cawn Esgair Gawr yn sefyll ar drumell o dir, Pont Gawr drosti, a Gwern Gawr, lle yr ymarllwysa i'r Wnion. Ar ael y drum, canfyddir y Brithfryniau, ac wrth fyned ychydig ymlaen, croesir nant fechan yn llifo drwy wely coch, a cheir y Rhyd Goch. Yna deuir at Lety Wyn; ond nis gwn pa un ai lleddfiad yw hwn o Lety Gwyn, ynte a fu rhyw Wyn yn pabellu yn y lle yn yr hen amser gynt. Yna ar y drum saif yr Esgeiriau, ac yn nesaf ato ceir y Tyddyn Mawr, er na wyddom am un Tyddyn bach yn gyfagos. Wedi hyn eir drwy Goed y rhos lwyd, a chanfyddir y Llwyn Coed, y Coed Mwsoglog, y Llety hen, y Prysg-lwyd, Braich y Ceunant, Bryn Coed y Wiwair, a gellir gorffwys ym Mhant y Panel, os na ewyllysir disgyn at Bont Llyn y Rhaiadr, i edrych ar yr eogiaid yn neidio. Ond nid yw Amser wedi gadael priodoldeb yr enwau hyn mor ddiamheuol a'r rhai a nodais o'r blaen. Nid yw y Tyddyn Mawr yn dyddyn mawr na bach yn awr, lleoedd digon noethlwm yw y Llwyn Coed a'r Coed Mwsoglog, ac y mae hen fanwydd y Prysg-lwyd oll wedi diflannu. Mae y dynion a enwasant yr holl leoedd hyn wedi syrthio i holl esgeulusdod tir Anghof, mae gwaith eu dwylaw wedi darfod; ond y mae enwau eu cartrefydd, y bryniau, a'r mynyddoedd eto yn para yr un. Er nad yw eu lleoedd yn eu hadnabod mwyach, eto adnabyddir eu lleoedd oddiwrthynt hwy. Nid rhyw lawer o gyfnewidiad y mae celfyddyd wedi ei wneyd ar wyneb anian yma er y dyddiau y byddai y preswylwyr yn gadael eu haneddau yn yr haf, ac yn esgyn gyda'u deadelloedd i'r haf-foddai; ond y mae amser wedi llwyr ddileu yr arferiad hon, os nad ydyw ei gweddillion yn aros eto yn Nolyddeulif. Yr oeddynt hyd yn ddiweddar, ac yr wyf yn cofio tŷ Rhys Llwyd yn cael ei ysbeilio unwaith yn absenoldeb y teulu yn yr Hafod, a chlywais Deio Llwyd yn cael ei ddyfarnu i saith mlynedd o alltudiaeth am y trosedd.
Yn Bryn Tynoriad, fel y crybwyllwyd, y treuliais yr ugain mis cyntaf o'm bywyd—yma y dechreuais gofio. Nid ydwyf yn sicr fy mod yn cofio codwm a gefais un nos Sul ym mreichiau fy mam, wrth iddi fyned i'm rhoddi yn y cryd. Y mae argraff gref ar fy meddwl fy mod, ac mai maglu a ddarfu ar draws y ci du; ond mae bron yn anichonadwy, gan nad oeddwn ond ychydig uwchlaw blwydd oed ar y pryd. Ond yr wyf yn cofio y diwrnod mudo i'r Rhyd Goch yn eithaf da, gan fy mod wedi gwneyd yr orchest o gario "ystol mam" ar draws yr aelwyd. Dyna yr holl adgofion a feddaf am y tymor hwn. Ni wn ddim ymhellach, ond a glywais am ei wasgfeuon, ei wendid, ei ddagrau, a'i beryglon. Ni wn ddim am fy mod ar fin syrthio i lyn y Ddolgaled a boddi, ac mai mam fy nghyfaill Edward Roberts, Cwmafon, a'm hachubodd, er i hynny ddigwydd. "Nid oes rhith nac eilun cof," yn aros am fy ngwenau na'm dagrau cyntaf. Suwyd fi gan fy mam, ond nis gwybuwn; magwyd fi gan fy nhad, a chusanwyd "y bachgen bach" gan ei frawd, ond am yr holl bethau hyn nid oes un crybwylliad ar ddalen cof. Ar ol hyn y dechreua fy adgofion o'r anwyldeb a'r blinder, o'r hyfrydwch a'r gofid, o'r poen a'r pleser, o'r cystudd a'r iechyd a hynodent ddyddiau fy mebyd. Ni bum erioed yn ddigon cryf i beidio teimlo gwendid, nac yn ddigon llon i fod yn anwybodus o dristwch. Dechreuais gydnabyddiaeth â'r cymylau yn foreuach nag â'r heulwen, a gwn fwy am y gauaf nag am yr haf. Ond er mor siomedig yw bywyd, teimlir ymlyniad wrtho; er amled ei ystormydd, ni ddymunir dianc o'u cyrraedd i ogof y bedd. Glynir wrtho, ymsefydla y meddwl arno, a gwna hyd yn oed adgofion chwerwder, yn gystal a phleserau mebyd, ei ddwyn i'w garu yn fwy anwyl.
"IFAN TY CROES."
(Darlun Robert Oliver Rees o'r bachgen Ieuan Gwynedd.)
[A gawn ni wahodd y darllennydd i ddyfod ar adenydd dychymyg yma i Ddolgellau ar yr uchel wyl gyntaf gofiadwy, Mawrth 27, 1837? Mae holl ddirwestwyr y cylch wedi dyfod yn lluoedd banerog i'r dref. Mae y dref oll yn oddaith gan y tân dirwestol. Dyma o ddwy i dair mil o feibion a merched brwdfrydig Dirwest, yn un gosgorddlu trefnus, yn amgylchu y garreg feirch ar y Stryd Fawr, ac yn cydganu, cyn i un o wroniaid dirwestol Cymru esgyn arni i'w gwefreiddio âg araeth drydanol. Maent yn canu y gydgan,—
"Cawn ganu Haleluia, cyn bo hir,
Adseinio per Hosanna, cyn bo hir,
Llais dirwest wedi darfod
Mewn canmol am y cymod;
Pa bryd y gwawria'r diwrnod? Cyn bo hir.
Mae hwyl y dorf yn angerddol, onid yw? Ha!——a glywch chwi
yr hen Gader a'r bryniau amgylchynol,—hen ddirwestwyr trwyadl,
yfwyr dwfr glân y nefoedd, erioed,—a glywch chwi eu hadsain llon o
uchel floedd cydgan y dorf,—
"Dirwest! Dirwest!!
Cydganwn—oll—am—Ddirwest!!!"
Mae tân y geiriau yn tanio ysbrydoedd y cantorion oll. Rhyw goelcerth o foliant ydyw i Ddirwest a'r Duw a'i rhoes. A welwch chwi y bachgen acw gyferbyn â ni, yn front y cylch mawreddog,—y bachgen tal, teneu, llwyd a llym ei wedd acw? Mae ei wisg lwyd, wledig, dlodaidd, yn bradychu tlodi ei gartref,—het frethyn isel henafol ar ei ben; coat ffwstian llwyd, a'i waist i fyny bron at ei geseiliau; a'i flap hen ffasiwn o'r tu ol yn llawer rhy fyr i gyrraedd ei amcan, a'i arddyrnau meinion, esgyrnog, yn ymestyn fodfeddi allan o'i llewis; ei drowsers corduroy mor gwta; ac a welwch chwi ofal tyner ei hen fam am y gweddill o'i goesau yn y gaiters uchel o'r un defnydd, a wnant i fyny am gwtogrwydd y trowsers? Chwi welwch brofion rhy eglur i'r dillad acw gael eu gwneyd iddo flynyddau yn ol. Ond a welwch chwi y pâr llygaid acw sydd dan yr het, sydd, fel ser y ffurfafen, yn goleuo a gloewi ei holl wynepryd? Fel y mae ei ysbryd byw yn trydanu ei holl gorff! Onid ydych yn teimlo fod yn y llanc hynod acw rywbeth nad yw allanolion ei wisg a'i wedd yn gwneyd un math o gyfiawnder âg ef? Oes, y mae un o ysbrydoedd etholedig y nef yn y bachgen acw. "Ifan Ty Croes" y geilw y cyffredin ef; ond, fel trwy ryw ymdeimlad proffwydol o ddyfodol disgleiriach o'i flaen, meiddia alw ei hun yn "Ieuan Gwynedd." Efe ydyw awdwr y geiriau welwn yn gwefreiddio ysbrydoedd y dorf fawr mor angerddol, ac y mae caniad y dorf o honynt yn ei wefreiddio yntau i'r ystumiau dieithriol acw gyda'r dôn. Mor hunanfoddhaol a thorsyth yw ei olwg! Gallem dybied mai efe, o'r holl wroniaid enwog sydd yma, ydyw gwron mawr y dydd. Mor naturiol, mor faddeuol, onide, ydyw i fachgen mor ieuanc deimlo yn hunanol—yn hunanol nodedig—wrth weled cynhyrchion ei awen yn rhoddi y fath wledd feddyliol, yn creu y fath frwdfrydedd pur yn ysbrydoedd torf mor fawr ac mor oleuedig a hon. Oni theimlech yn foddlon i holl fechgynos chwyddedig Cymru deimlo mor hunanol, ac ymddangos mor dorsyth, ag yntau—ar yr un telerau?]
II. Y BRITHDIR.
Ym Mhen y Bont Fawr, 1838.
WRTH imi deithio 'r hyd y wlad, y dolydd mad ganfyddir,
A'r rhosyn coch, a'i siriol sawr a'i dirion wawr, a welir;
Ond eto, er pob gwrthddrych cain, mwy mirain ydyw'r Brithdir.
Mi welais lawer gwrthddrych llon, a wnaeth fy mron yn ddifyr,
Er trymed fy nghystuddiau prudd, fy nghalon sydd yn gywir;
Er gwella'm meddwl clwyfus, claf, edrychaf tua'r Brithdir.
Yr wyn a chwery ar y bryn, a godrau'r llyn ariannir,
Y ddaear wisga'i chlogau gwyrdd, ac ochrau'r ffyrdd a herddir;
Ond oer a phruddaidd ydyw'r haf i'm meddwl claf heb Frithdir.
Y brithyll chwery yn y nant, a'r dŵr i'r pant a dreiglir,
Mewn anferth gryd neu wely, 'r môr gan nerth y lloer a siglir;
Ac felly minnau sydd o hyd mewn gwresog fryd i'r Brithdir.
Ymhell yn sir Feirionnydd fâd fy mam a'm tad a welir,
A minnau yma'n Mhenbont Fawr, yn llwyd fy ngwawr, dywedir;
Nid oes i'm bleser yn y byd, ond troi fy mryd i'r Brithdir.
Mi welais flodau'r lili lân, a chân yr eos glywir,
O fewn y tŷ o gylch y tân aml deulu glân ganfyddir;
Ni welais unpeth is y sêr i mi mor dêr a'r Brithdir.
Rhyw rai a soniant yn y byd am degwch bryd eu brodir,
Ymhlith y dyrfa yma'n glau trwy rwystrau minnau restrir;
Pe byddai yn fy ngallu gwnawn ryw folawd iawn i'r Brithdir.
Mae treigliad Wnion groch ei chri yn rhoddi bri i'm brodir,
A swn y nant a red trwy'r glyn yn fenaid syn a glywir;
Mae yno, oes, bob gwrthddrych hardd i swyno bardd y Brithdir.
III. BYTHOD CYMRU.
[1851.]
O dlysion Fythod Cymru, sy'n mygu yn y glyn,
Ac ar y gwyrddion lethrau, a'u muriau oll yn wyn!
Mae'r gwenyn wrth eu talcen neu gysgod clawdd yr ardd,
A'r rhosyn coch a'r lili o'u deutu yno dardd.
O dawel Fythod Cymru! mor ddedwydd ydych chwi!
Er bod heb fawredd breiniol, nac un daearol fri;
O'ch mewn y triga'n wastad y cariad cu a'r hedd,
Nad ydynt yn berthynol i'r ymerodrol sedd.
O hawddgar Fythod Cymru, sy'n gwenu ger y nant,
A'u gerddi'n llawn o flodau, a hwythau'n llawn o blant!
Mor glaer a'r dwr tryloew yw llygaid y rhai bach,
A'u gruddiau, fel y rhosyn, yn brydferth gochwyn iach.
O ddistaw Fythod Cymru, sy'n mhell o swn y dref!
Ni flinir chwi gan derfysg, nac un anfoesol lef;
Ni thyr ar eich distawrwydd ond chwarddiad llon y plant,
A sibrwd dail y goedwig, a murmur mwyn y nant.
O lwydion Fythod Cymru, sy'n llechu is y llwyn!
Er bod heb furiau mynor, a'u to yn wellt neu frwyn,
O'u mewn mae llawer argel yn hoffi troi ei ben,
I syllu mewn gorfoledd ar etifeddion Nen.
O diriion Fythod Cymru! o'u mewn, ar doriad gwawl,
Ac yn y coed o'u hamgylch, y plethir odlau mawl;
Y feinir gân yn gynnar, a'r adar gyda hi,
Eu diolch-gerdd foreuol am rad eu nefol Ri.
O anwyl Fythod Cymru! ni fedd un wlad eu hail;
Na lygrer eu haelwydydd, na sigler byth eu sail!
Byth, byth, mor bêr a'r blodau sy'n gwisgo siriol wên,
Ar fryn a dôl o'u deutu, bo Bythod Cymru hen!