Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XIII

Pennod XII Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod XIV


PENNOD XIII

Yr Achos Dwyreiniol eto—Erchyllderau Bulgaria,— Y Gynhadledd Fawr yn St. James's Hall ar yr achos— Dirprwyaeth at Arglwydd Derby-Areithiau ar Heddwch gan Mr. Richard - Rhyfel Rwsia a Thwrci—Cytundeb Berlin, a barn Mr. Richard arno—Ei ymdrech i ddwyn Cyflafareddiad iddo—Cynhadledd Heddwch yn Paris—Rhyfel y Zuluiaid.

(1876) Yn y flwyddyn 1876—am y bumed waith mewn can mlynedd-cododd y "Cwestiwn Dwyreiniol" drachefn i aflonyddu ar heddwch Ewrob. Yn y flwyddyn flaenorol, fe dorrodd gwrthryfel allan yn un o daleithiau Ymherodraeth y Twrc, Herzegovina, oherwydd gormes tirfeddianwyr Mahometanaidd. Enillodd y gwrthryfelwyr fuddugoliaeth ar y Tyrciaid. Cyfryngodd Awstria er mwyn diogelu rhai diwygiadau y galwent am danynt. Wedi hynny, torrodd rhyfel allan yn Bulgaria, ac wrth roddi y gwrthryfel i lawr, cyflawnwyd erchyllderau ofnadwy gan filwyr Twrci, y rhai a dynasant sylw y byd o dan yr enw Bulgarian Atrocities. Yr oedd yr hanes a roddid am danynt yn y Daily News yn cyffroi yr holl deyrnas. Ceisiodd Disraeli wawdio y cwbl, oblegid yr oedd efe yn bleidiol i Twrci. Ceisiai wadu y ffeithiau; ond profwyd hwynt tu hwynt i bob dadl. Lledodd y gwrthryfel i Servia a Montenegro. Ym mis Medi, 1876, cyhoeddodd Mr. Gladstone ei bamphlet byth-gofiadwy ar y Bulgarian Horrors a Chwestiwn y Dwyrain. Cyffrodd y wlad drwyddi. Yr oedd Mr. Disraeli—yr hwn tua'r amser yma a godwyd i Dŷ yr Arglwyddi o dan y teitl Arglwydd Beaconsfield—yn gwneud a allai i chwythu y fflam, yn hytrach o blaid nag yn erbyn Twrci. Nid oedd dim cefnogaeth i'w gael ganddo ef o blaid y gorthrymedig. Cododd teimladau "Jingoaidd"—dyma'r adeg, yn wir, y cawsant hwy, y blaid ryfelgar, yr enw—traddododd Mr. Disraeli araeth yn Aylesbury, ag oedd yn eglur ddangos ei dueddiadau; ac yr oedd hefyd yn creu dychryn ym meddyliau goreugwyr y deyrnas, rhag y byddai iddo lusgo y wlad hon i roddi ei chynhorthwy yn hytrach o blaid Twrci. Condemniai y blaid Ryddfrydig, dywedai fod ei hymddygiadau yn waeth na'r erchyllderau honedig. Ar yr 8fed o Ragfyr, 1876, cynhaliwyd Cynhadledd fawr yn St. James's Hall, Llundain, i wrthwynebu Gwladweiniaeth Dr. Disraeli ar y cwestiwn. Yr oedd y Gynhadledd hon, medd un ysgrifennydd, "yn un o Gynhadleddau mwyaf ardderchog yr oes." Cynhaliwyd cyfarfod yn y prynhawn ac yn yr hwyr. Llywydd cyfarfod y prynhawn oedd Duc Westminster, ac un yr hwyr ydoedd Iarll Shaftesbury. Ymysg y prif siaradwyr yr oedd Mr. Gladstone, Esgob Rhydychain, Esgob Argyll, Henry Richard, Mr. Trevelyan, Mr. Fawcett, Mr. Freeman ac ereill. Ni raid dweud y traddodwyd areithiau galluog dros ben, teilwng o enwogrwydd yr areithwyr, ac o bwysigrwydd yr achos. Codwyd y cyfarfod i deimladau angherddol gan Mr. Gladstone a Mr. Freeman. Yr oedd araeth Mr. Richard, er nad yn un faith, yn un afaelgar dros ben. Cyfyngai ei hunar-er mwyn arbed amserar-i un wedd ar y pwnc yn unig, sef cyfrifoldeb Prydain gyda golwg ar Gwestiwn y Dwyrain. Yr oedd ei chyfrifoldeb, meddai, yn codi oddiar ei bod wedi cefnogi Twrci yn fwy nag un Gallu arall yn Ewrob, hi oedd wedi dyfeisio yr ym- adrodd soniarus, "Cyfanrwydd ac anibyniaeth Twrci," yr hyn oedd wedi bod wrth wraidd ein policy am gynnifer o flynyddoedd. Dyma oedd gwir achos rhyfel y Crimea. Lloegr oedd wedi peri y rhyfel hwnnw. Yr oedd yr holl bleidiau yn yr achos hwnnw yn barod i derfynnu y cweryl heb apelio at y cleddyf, oni buasai ymyriad y wlad hon. Ac ar derfyniad y rhyfel, yr oeddem wedi dwyn i mewn i'r Cytundeb yn Paris, nad oedd un Gallu i gyfryngu mewn un modd rhwng y Sultan â'i ddeiliaid. Ie, yr oeddem wedi cefnogi Twrci i ddod i farchnad Lloegr, a benthyca yn agos i ddau can miliwn o arianar-arian a wariasai yn y modd gwaradwyddus y cwynid yn awr o'i herwydd. Yr oeddem yn 1860 wedi arfer ein dylanwad i geisio celu creulonderau Twrci yn Jedda, Damascus a Syria, ac yn parhau i geisio dal i fyny y Twrc.

"Gyda'r amcan hwn," meddai, "mae pob hysbysrwydd wedi ei fygu, wedi ei gadw draw, wedi ei newid, er mwyn tynnu gorchudd dros yr erchyllderau a gyflawnwyd yng nghanol-barthau Twrci—(uchel gym.) er mwyn mygu gruddfanau y gorthrymedig fel na chyrhaeddent glustiau pobl y wlad hon; a phan, o'r diwedd, y llusgwyd i'r goleuni weithredoedd ag oedd yn llenwi y byd â digofaint a dychryn, gwnaed pob ymgais i esgusodi y gweithredoedd drygionus a chreulon hyn, ac yn wir i geisio eu cyfiawnhau." Ond nid oedd efe, er hynny, am fyned i ryfel i geisio gwella pethau; nid oedd hynny ond ceisio bwrw allan gythreuliaid, trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid. Yr oedd efe, fel y gwyddent, yn dra anuniongred ar y cwestiwn o ryfel." "Ond er," meddai, "y gall fod gwahaniaeth barn rhyngom ar lawer pwynt, yr wyf yn hyderu ar yr un pwynt hwn ein bod yn unfarn, ac yr â allan o'r cyfarfod hwn lais nid aneglur, a hwnnw ydyw hwn,—Gan ein bod ni yn y cyfarfod hwn yn meddu mwy o hawl i gynrychioli teimlad ac ewyllys y wlad, y danfonwn y llais hwnnw allan fel ein penderfyniad diysgog yn enw rhyddid, yn enw cyfiawnder, yn enw dynoliaeth, yn enw hen gymeriad gogoneddus Lloegr fel cyfaill y gorthrymedig, ac—yr wyf yn ei ddyweud gyda difrifoldeb a pharch—yn enw yr Hwn sydd yn caru cyfiawnder, ac yn cashau an wiredd, na chaiff un geiniog o arian Prydain, nac un dafn o waed Prydain ei roddi mwy i gynnal y gyfundrefn honno o farbareidd-dra a elwir yn Ymerodraeth Ottomanaidd."

Mae'n amlwg fod Mr. Richard wedi taro ar dant ag oedd yn cyffwrdd â chalonnau y dorf, oblegid neidiodd pawb ar eu traed ar unwaith, a danghoswyd cymeradwyaeth mawr a hirfaith. Traddododd Mr. Richard luaws o areithiau nerthol, ac ysgrifennodd lawer tua'r amser hwn, a buasai yn dda gennym allu dyfynnu o honynt, gan eu bod yn llawn o addysg, hyd yn oed ar gyfer y dyddiau yr ydym yn awr yn ysgrifennu ynddynt. Yr oedd ganddo hawl neilltuol i wrthwynebu pob ymgais i lusgo y wlad hon i ryfel o blaid Twrci, gan ei fod mewn modd arbennig wedi gwrthwynebu hynny yn amser rhyfel y Crimea. Wrth sôn am ymdrechion Mri. Cobden a Bright y pryd hwnnw, y mae yn dweud yn un o'i areithiau,—"Ac yr oeddem ninnau yn yr ymgyrch." Oedd; a chan iddo ymladd yn ddewr yn erbyn y rhyfel ffol ac ofnadwy hwanw, trwy ysgrifennu, areithio, a gweithio yn ddidor, meddai hawl arbennig, meddwn, i ofyn yn 1876,—

Ai nid oedd sefyllfa pethau bellach yn cyfiawnhau ei ymddygiad ef a'i gyd-lafurwyr y pryd hwnnw? Cyhoeddodd Mr. Richard y pryd hwn Apêl difrifol, o dan ei enw ei hun, yn datgan canlyniadau arswydus y rhyfel o'r blaen o blaid Twrci, sef rhyfel y Crimea, gyda'r amcan o wrthweithio y teimlad oedd yn cael ei gyffroi yn y wlad o blaid amddiffyn y Twrc, er ei draha. Danghosodd mor wir oedd geiriau y Times, “na fu ymdrech erioed mor fawr i amcan mor isel- wael a'r pryd hwnnw.” Ysgrifennodd Mr. Richard hefyd erthyglau i'r wasg o dan yr enw "Tystiolaethau am gam-reolaeth Twrci;" ac er ei fod wedi ysgrifennu rhai cyffelyb yn amser rhyfel y Crimea, yr oedd enw Mr. Richard erbyn hyn yn fwy dylanwadol, a'r wlad wedi dysgu gwers am ei ffolineb yn myned i'r rhyfel hwnnw.

(1877) Ym mis Medi, 1877, cyflwynodd dirprwyaeth o weithwyr cyffredin, perthynol i Gymdeithas Heddwch Leicester, Anerchiad 'hardd i Mr. Richard am ei lafur a'i wasanaeth mawr yn achos Heddwch. Wrth ddatgan ei ddiolchgarwch, dywedodd Mr. Richard ei fod wedi llafurio am 35 mlynedd o blaid yr achos hwnnw, a hynny er gwaethaf gwg y lluaws yn fynych, yn enwedig yn amser rhyfel y Crimea. Yr oedd yn cofio myned i Newport unwaith tua'r amser hwnnw, a'r peth cyntaf a welai oedd papur ar y muriau yn galw am i'r bobl ymosod arno pan ddeuai i'r dref. Ond yr oedd pawb bellach yn gweled ynfydrwydd y rhyfel hwnnw. Ar ddiwedd ei araeth, adroddodd y llinellau canlynol,—

Whene's contending parties fight
For private pique or public right,
Armies are formed and Navies manned;
They combat both by sea and land;
When, after many battles past,
Both tired of blows, make peace at last.
What is it, after all, the people get?
Why—Widows, taxes, wooden legs, and debt."

Ym mis Rhagfyr, talodd Mr. Richard ei ymweliad blynyddol â'i etholwyr, a thraddododd, ym Merthyr Tydfil, araeth ragorol, yn bennaf ar y rhyfel rhwng Rwsia a Thwrci. Dywedai ei fod ef yn y Senedd megys rhwng dau dân. Yr oedd yn y Tŷ, fel oddiallan iddo, un blaid yn dadleu dros fyned i ryfel i amddiffyn Rwsia, a phlaid arall eisieu amddiffyn Twrci. Yr oedd John Bull bob amser yn tybied, os byddai cweryl yn rhyw barth o'r byd, y byddai efe ar ei golled, neu yn cael ei ddianrhydeddu os na fyddai ganddo law yn yr helynt; ac yr oedd ar unwaith yn dechreu chwilio am ei ffon. Neu yr oedd, fel y desgrifiai Washington Irving ef, fel pryf-copyn mawr yn lledu ei deimlyddion hirion dros bob man, ac ni allai y gwybedyn lleiaf ddod yn agos, na fyddai yn cyffwrdd â rhai o honynt, ac yn ei gyffroi. Yr oedd un blaid, fel y dywedai, am ymladd yn erbyn y Tyrciaid. Cyffrodd eu creulonderau yn Bulgaria eu teimladau tyner a dyngarol; ond eu camgymeriad oedd tybied mai y ffordd i atal creulonderau oedd cyflawni rhai ereill, a hwyrach rhai gwaeth. Yr oedd plaid arall—â'r hon yr oedd ganddo lawer llai o gydymdeimlad—am fyned i ryfel yn erbyn Rwsia. Ond credai efe ein bod wedi cael digon o helbul a gwaradwydd yn ein rhyfel diweddaf â'r wlad honno, heb i ni wneud yr un camgymeriad trychinebus drachefn. Yr oedd Mr. Gladstone wedi gwneud gwasanaeth anrhaethol werthfawr i'w wlad wrth ddyrchafu ei lais mor glir yn erbyn y cynhygiad gwallgof hwn. Yr oedd rhai yn canmol y Twrc, ac yn dweud ei fod yn ymladdwr gwych. Oedd; ac yr oedd y gwaed-gi, y dylaf o gŵn, yn gwffiwr di-ail. Yr oedd creulonderau y Tyrciaid yn ddiarhebol. Dywedai dau feddyg parchus eu bod wedi gadael 400 o glwyfedigion Rwsiaidd i ddihoeni a marw ar y maes, ac am y rhai a gymerent yn garcharorion clwyfedig, torrid eu gwefusau a'u trwynau ymaith. Am eu clwyfedigion eu hunain, dywedai Gohebydd y Times eu bod yn cael eu gadael i wella neu drengu, heb un gofal am danynt. A dyma'r dynion yr oedd rhai pobl yn y wlad hon yn bloeddio am i ni fyned allan i ymladd drostynt! A'r drwg ydoedd, nad oedd un o'r gwŷr hyn oedd yn eistedd yn eu parlyrau gwychion, a'u traed mewn esgidiau esmwyth, ac yn ysmocio yn gysurus, yn meddwl am funud am fyned allan eu hunain i faes y frwydr. Yr oedd efe (Mr. Richard) wedi gwylied y dynion hyn yn bur fanwl yn amser rhyfel y Crimea—dynion a allent ysgrifennu erthyglau i erlid Cobden a Bright—gan eu galw yn wladgarwyr bastarddol, ac yn uchel eu cri am i ni gario y rhyfel ymlaen yn fwy egniol, ac yn areithio mewn cyfarfodydd i gyffroi y lluaws, ac eto ni chlywodd un- waith am un o honynt yn cynnyg myned allan ei hunan. A oedd eu heisieu? Oedd. Dywedai Arglwydd Grey fod nifer y dynion a ymrestrodd yn y fyddin rhwng 40,000 a 50,000 yn llai na'r nifer a basiwyd yn y Senedd, a hynny ym mhoethder y rhyfel. Nid oedd efe (Mr. Richard) yn bleidiol i orfodi dynion i fyned allan i ryfel; ond o'i ran ef, ni fuasai yn gresynnu llawer, pe gallesid danfon y gwŷr hyn i sefyll yn rhengau blaenaf y milwyr yn nydd y frwydr. Gwyn fyd na welid y dydd y dywedai y bobl wrth eu llywodraethwyr,—"Os ydych am ryfel, ewch eich hunain. Nid oes gennym ni gweryl yn erbyn na Ffrancwr na Rwsiad—brodyr o'r un gwaed ydym, wedi ein prynnu gan yr un Ceidwad, ac nid ydym am drochi ein dwylaw yng ngwaed ein gilydd."

Ie, gwyn fyd hefyd; a phe byddai syniadau pob aelod Seneddol mor iachus ag eiddo Mr. Richard ar y cwestiwn hwn, nid hir fyddai yr amser cyn i'r dydd dedwydd hwnnw wawrio.

(1878) Ar y 9fed o Ebrill, 1878, traddododd Mr. Richard araeth yn y Senedd yn erbyn galw allan yr Ad-fyddin (Reserves). Gwawdiodd y ffitiau o ddychryn oedd yn dod dros y wlad ar dymhorau, rhag yr ymosodiad arnom gan ryw genedl neu gilyıld; ie, clywodd pobl yr Unol Daleithiau yn cael eu desgrifio fel ysgum y ddaear, a'n gelynion pennaf. Ac yn awr, Rwsia oedd ar ddisgyn arnom! A phaham? Am ei bod wedi darostwng y gwrthryfel yn Poland. Nid oedd un amheuaeth nad oedd Rwsia wedi ymddwyn yn greulon. Yr oeddem ni yn y wlad hon yn bobl rhyfedd yn wir. Codem ein dwylaw mewn arswyd oherwydd creulonderau gwlad arall, ac eto, nid oeddem yn meddwl dim am ein hymddygiad ein hunain yn yr Iwerddon, yn Ceylon, yn India a Jamaica. Yr oedd ei gyfaill, yr aelod dros Newcastle, wedi ei gyfarfod y dydd o'r blaen, a dywedai, gyda digllonedd, fod Rwsia wedi cyrraedd y pwynt uchaf o orthrwm, gan ei bod wedi gorfodi pobl Poland i ddefnyddio yr iaith Rwsiaidd yn eu llysoedd cyfreithiol. "Dywedais wrtho," meddai Mr. Richard, "mai dyma yn union yr hyn y mae llywodraeth Prydain yn ei wneud yn y dyddiau hyn yng Nghymru. Y mae pob Cymro, druan, yn agored i gael ei brofi am ei fywyd, ac y mae cannoedd wedi cael eu profi am eu bywyd, mewn iaith ag yr oeddent yn hollol anhyddysg ynddi. Ond nid oedd fy nghyfaill yn gweled dim allan o le yn hyn pan wneid ef gan y Sais yn erbyn y Cymro; ond yr oedd yn beth ofnadwy pan wneid ef gan Rwsia yn erbyn Poland. ... Ond, meddid, yr oedd Rwsia yn allu mawr ymosodol. Ond beth am Brydain? Nid oedd am gyfreithloni y naill na'r llall; ond yr oeddem ni, fel y wraig honno yn Llyfr y Diarhebion, 'Hi a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wnaethum i anwiredd.'”

Mae y darllennydd, yn ddiau, yn gwybod am y modd y terfynodd y rhyfel ofnadwy rhwng Rwsia a Thwrci. Nis gellir edrych yn ol ar y cyfnod hwn, heb deimlo fod cymeriad y Weinyddiaeth Doriaidd wedi ei darostwng yn dra isel. Ym mis Ebrill, 1877, y cyhoeddodd Rwsia ryfel yn erbyn Twrci. Buwyd yn ymladd am bymtheg mis, a chollwyd miloedd o fywydau. Yn y diwedd, cynhaliwyd Cynhadledd yn Berlin, pryd y gwnaethpwyd y Cytundeb a alwai Mr. Gladstone yn "Gyfamod Gwallgof," ac o'r hon y daeth Arglwydd Beaconsfield ac Arglwydd Salisbury i Lundain fel dau fuddugoliaethwr, gan ddwyn gyda hwynt, meddent hwy, "Heddwch ac Anrhydedd!" Erioed ni ddallwyd y wlad gan rith mwy disylwedd na'r pryd hwnnw.

Ysgrifennodd Mr. Richard erthyglau cryfion iawn yn erbyn Cytundeb Berlin. "Nis gallwn," meddai mewn un erthygl, "anturio dweud ein meddwl am natur ffol y fath Gytundeb;" a dywed fod ei delerau yn ein rhwymo i amddiffyn Twrci mewn amgylchiadau mor amrywiol yn ein cysylltiad â Cyprus, fel nad oedd ganddo un amheuaeth, pan elwid arnom i gyflawni ein hymrwymiadau, nad ymwingem allan o honynt mewn rhyw fodd iselwael neu gilydd. Ac onid felly y gwnaed yn 1896 ? Darllener yr araeth olaf a draddododd Mr. Gladstone yn Hengler's Circus yn Liverpool, a meddylier am yr hyn a gymerodd le wedi hynny, a cheir profion diymwad fod Mr. Richard yn ei le. Ynglŷn â'r Gynhadledd yn Berlin, aeth Mr. Richard a Henry Pease, a Leoni Levi i Berlin ar ran y Gymdeithas Heddwch i gyflwyno Deiseb o blaid yr egwyddor o Gyflafareddiad. Cyrhaeddasant y ddinas ym mis Gorffennaf, 1878. Yr oedd y Ddeiseb yn cynnwys y penderfyniadau yr oedd Seneddau Prydain, Itali, yr Unol Daleithiau, Holland, Belgium, Sweden, a Ffrainc, eisioes wedi eu pasio o blaid Cyflafareddiad. Yr oedd gan y cenhadon hyn lythyr hefyd at Bismark, yn gofyn iddo gyflwyno y Ddeiseb i'r Gynhadledd. Danfonwyd copi i bob un o'r Llawn-alluogion (Plenipotentiaries), gyda dymuniad at rai o honynt am gael ymddyddan â hwynt. Mae hanes holl ymdrafodaeth y tri wŷr hyn yn dra dyddorol, fel y mae yn nyddlyfr Mr. Richard, ond nis gallwn ond rhoi crynhodeb byr o honi. Ar y 5ed dydd o fis Gorffennaf, cawsant siarad â Count Corti, y cynrychiolydd o Itali. Dywedai y gŵr hwnnw ei fod wedi clywed am enw Mr. Richard lawer gwaith. Yr oedd yn bur foesgar a charedig, a dywedai, gyda golwg ar Gytundeb Paris yn 1856, y parhai mewn grym tra heb ei newid gan Gytundeb Berlin. Dywedai Mr. Richard fod arnynt eisieu newid y gair "wish"[1] i air cryfach. Ofnai yntau nas gallai gael hynny, a dywedai,—"Y mae yn bur ddrwg gennyf; byddai yn dda gennyf fi pe gwnaent i ffwrdd â'n byddinoedd sefydlog, a phenderfynnu pob cwestiwn trwy Gyflafareddiad." Methasant gael gweled y Tywysog Bismarck nac Arglwydd Beaconsfield. Cawsant weled Herr Bucher, Arolygydd Cofnodfa'r Gynhadledd, a Herr Von Bülow, Ysgrifennydd Tramor Germani. Dywedodd yr olaf fod ganddo barch mawr i ddynion oedd mor llafurus mewn achos mor deilwng. Ofnai na phasient erthygl yn eu rhwymo i fabwysiadu Cyflafareddiad. Nid oedd ganddynt ond dymuno am amseroedd gwell, ac ysgydwodd law â hwynt gan ddweud,—"Duw a'ch bendithio yn eich gwaith."

Talodd y tri wŷr hyn ymweliad â'r Proffeswr Lepsius, yr ysgolhaig Aifftaidd enwog. Dywedodd wrthynt fod Ewrob i gyd o'u plaid, ond y diplomyddion, ac nid oeddent hwy gymaint yn erbyn, ond eu bod yn methu deall gwir ystyr eu neges. Cawsant hefyd ymddiddan a'r "Crown Princess" (Tywysoges Frenhinol Lloegr). Ar ol clywed eu neges, dywedodd,—"Mae eich amcan, pa un bynnag a lwyddwch ai peidio, yn un tra chanmoladwy. A ydych yn dymuno i mi osod hwn (sef copi o'r Ddeiseb oedd yn ei llaw) o flaen fy ngŵr?" Pan atebwyd yn gadarnhaol, dywedai,—"Mi wnaf, gyda phleser." Pan ddywedwyd yr hyderent y gwnai ei Huchelder arfer ei dylanwad o'u plaid, codai ei hysgwyddau dan wennu, dywedai "fod arni ofn nad oedd ganddi fawr o ddylanwad yn y fath faterion." Ond ni fu eu hymweliad yn ofer er hynny, oblegid pasiwyd erthygl i'r perwyl a ganlyn,—"Fod Cytundeb Paris yn 1856, ac un Llundain, 1871, yn cael eu cadarnhau yn yr holl bethau hynny nad yw Cytundeb Berlin yn eu newid neu yn eu diddymu."

Darfu i Gyngor Cymdeithas Heddwch Ffrainc gymeryd mantais oddiwrth Arddanghosfa Fawr Paris yn 1878 i gynual Cynhadledd Heddwch yn niwedd mis Medi. Yr oedd yno gynrychiolwyr o Ffrainc, Germani, Prydain, Itali, Yspaen, Belgium, Holland, Switzerland, yr Unol Daleithiau, a gwledydd ereill. Yr oedd llywydd y Gymdeithas yno, a'r ysgrifennydd, Mr. Richard. Parhaodd y Gynhadledd am bum diwrnod. Siaradwyd yno gan lawer o wyr enwocaf Ewrob—ac, wrth gwrs, Mr. Richard yn eu mysg. Yr oedd yn hyfryd gweled dynion o bob cenedl a chredo yn gweithio yn gytun gyda'r un amcan mawr o bleidio yr egwyddor fod plant dynion yn frodyr i'r un Tad, ac yn gwneud eu goreu i roddi terfyn ar un o felldithion pennaf dynolryw. Un o'r pethau y penderfynwyd arno oedd tynnu allan reolau i geisio uno Cymdeithasau Heddwch y byd yn un frawdoliaeth fawr, a phenodwyd pwyllgor i gario hynny allan. Teimlwyd anhawsterau, pa fodd bynnag, i gario y peth i ymarferiad ar y pryd, ond dywed Adroddiad Cymdeithas Heddwch nad oedd dim amheuaeth nad ellid, cyn hir, gario y cynllun allan.

Fel y mae hanes Prydain, yn ystod y rhan fwyaf o'r ganrif ddiweddaf, wedi bod yn hanes o derfynnu un rhyfel a dechreu un arall mewn rhyw barth neu gilydd o'r byd, felly yr oedd llafur Mr. Richard yn gynwysedig mewn dangos mor ddianghenraid—ie, mor ddrygionus—oedd y rhyfeloedd hyn. Nid oedd un Aelod Seneddol, yr ydym yn lled sicr, yn ei wneud yn bwynt i astudio dechreuad y rhyfeloedd hyn gyda'r un manylder a dyfalwch ag y byddai ef Ym mis Medi, 1878, ofnai y byddai yr helynt rhwng Prydain ac Afghanistan yn terfynnu mewn rhyfel. Tynnodd allan apêl at gyfeillion Heddwch ym mhob man i wneud a allent i rwystro hynny. Cynhaliwyd cyfarfodydd mawrion ym mhrif drefi y deyrnas, ac areithiai Mr. Richard ynddynt. Yn yr areithiau hyn nid ymfoddlonnai ar ymosod yn ddiarbed ar ryfel, ond rhoddai hanes manwl o'r helynt, fel y datlennid ef yn y "Llyfrau Gleision," fel y caffai ei wrandawyr wybod y ffeithiau yn gywir. Heblaw hynny, fe ysgrifennodd gyfres o lythyrau doniol a chlir ar y cwestiwn i'r Christian World, y rhai wedi hynny a gyhoeddwyd yn bamphled. Os dymuna neb gael adroddiad manwl о wir natur yr helynt hwnnw, nis gall wneud yn well na darllen y llythyrau hyn. Yn yr un flwyddyn hefyd, fe hyrddiwyd y wlad hon i ryfel yn erbyn y Zuluiaid, a gwnaeth Mr. Richard yr un gwasanaeth i'w wlad yn erbyn y rhyfel hwnnw. Cyhoeddodd bamphledyn i egluro yr holl gwestiwn, a danghosodd mor ddianghenraid ydoedd, fel y danghogwyd hefyd, wedi hynny, gan Mr. Gladstone yn ei areithiau digyffelyb ym Mid- lothian.

(1879) Gŵyr ein darllenwyr, yn ddiau, am drychineb Isandula, pan, ar y 29ain o Ionawr, 1879, y daeth 18,000 o'r Zuluiaid ar warthaf y milwyr Prydeinig yn anisgwyliadwy ac y lladdwyd yr oll o honynt, bron, sef tua 800; ac o'r Zuluiaid tua 2,000. Yr oedd yr holl bapurau trwy'r deyrnas yn galw yr ymosodiad hwn yn "gyflafan" a "llofruddiaeth." Ond dywedai Syr Wilfred Lawson nad oeddent yn gwneud dim ond amddiffyn eu gwlad yng ngwyneb ymosodiad, a phe buasai y Zuluiaid yn byw yn Poland, ac yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid, buasai holl newyddiaduron y deyrnas yn seinio eu clodydd ac yn eu galw yn wladgarwyr ac yn wroniaid. Pa fodd bynnag, cafodd y Zuluiaid hyn deimlo dialedd Prydain. Lladdwyd o honynt, wedi hynny, tua 20,000! Yn y rhyfel hwn y collodd Napoleon ieuanc ei fywyd. Siaradodd Mr. Richard yn rymus yn y Senedd yn erbyn y rhyfeloedd hyn. Yr oedd ei araeth ar y 24ain o Ebrill, 1879, yn finiog iawn. Gwawdiai ddadleuon disail Syr Bartle Frere o blaid y rhyfel. Pwy, gofynnai, fuasai yn dychmygu mai un o honynt oedd fod y Zuluiaid yn cadw byddin sefydlog o ddynion dibriod, y rhai oeddent o ganlyniad yn beryglus ini! Ac, oherwydd hynny, yr oeddem ninnau yn danfon allan fyddin sefydlog cyffelyb i'w rhoi i lawr! Dywedid wrthym, meddai Mr. Richard, gan rai yn y Tŷ, mai y rhai a ddadleuant o blaid Heddwch "am unrhyw bris" oedd perygl mwyaf y deyrnas. Nid oedd neb o'r cyfryw i'w cael ond y "Cyfeillion,” y rhai a honnent fod rhyfel yn groes i Gristionogaeth, a heriai efe yr holl Fainc Esgobol i wrthbrofi eu gosodiad. Y deymas mewn perygl oddiwrth y cyfryw blaid, yn wir! Meddylier am ein gwahanol ryfeloedd er y flwyddyn 1816. Yr oeddent yn 73 mewn 63 o flynyddau; ac eto fe ddywedid fod y wlad mewn perygl o gael ei llygru gan blaid oedd, meddid, yn dadleu dros Heddwch!

Gofynnodd Mr. Richard gwestiynau lawer, yn ystod y rhyfel yn Zululand, ond nid oedd dim ond atebion cwta i'w cael, ac weithiau atebion nad oeddid yn siwr y gellid ymddiried ynddynt. Yr oedd Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield yn un ag oedd wedi dwyn cymeriad ein gwlad i lawr raddau lawer. Nid rhyfedd i Mr. Richard ddweud, mewn araeth yn Leeds, ym mis Ionawr, y flwyddyn hon, fod amser wedi bod pan y gellid ymddiried i air Gwladweinydd Prydeinig, "Ond," meddai, "y mae gennym Brif Weinidog yn ben ar y wlad ag y mae yn anichonadwy ei binio i lawr wrth unrhyw air a ddywed, ac y mae wedi heintio ei gydswyddogion â'r un anghywirdeb." Cyhuddiad pwysig ydoedd hwn, ond yr oedd yn rhy wir, ac y mae lle i ofni fod rhywbeth tebyg yn bod yn awr pan ydym yn ysgrifennu?

Na thybied neb fod y rhyfeloedd Prydeinig o angenrheidrwydd yn cael eu cario ymlaen bob amser yn unol â rheolau gwareiddiad, fel y gwelwn oddiwrth y dyfyniad canlynol allan o'r Natal Mercury, dyddiedig Ebrill 3lain, o eiriau un Captain D'Arcy,—

"Drannoeth, daeth ein brodyr duon ymlaen, ac ymosodasant ar y gwersyll i'r nifer o 20,000 i 23,000, ac ar ol ymladd am chwe awr cymerasaut y traed. Lladdasom dros 2,300, ac yna aeth y gwŷr meirch ar eu holau am wyth milltir, gan gigyddio y bwystfilod (butchering the brutes) ym mhob man. Dywedais wrth y dynion,— 'Dim arbed, fechgyn; cofiwch ddoe!' Ac fe ddarfu iddynt eu curo o gwmpas, gan eu lladd yn ddiarbed."

Darllenwyd y dyfyniad hwn gan Mr. Justin McCarthy yn y Senedd, ac nis gellid gwadu y ffaith; ond y cwbl a ddywedai Syr Michael Hicks-Beach oedd, fod Cadben D'Arcy yn gyfrifol i'r Swyddog oedd drosto! Pa bryd y daw y bobl i sylweddoli y ffaith mai peth barbaraidd yw rhyfel bob amser, ac mai ofer son am ei ddwyn ymlaen yn unol âg egwyddorion gwareiddiad?[2]

Nodiadau

golygu
  1. Gweler y penderfyniad hwnnw ar tudalen 113.
  2. Honnid gan ei bleidwyr fod y rhyfel diweddar yn Affrica yn cael ei ddwyn ymlaen yn y modd mwyaf dynolgar ag oedd bosibl, tra y dywedai ereill fod Prydain yn arfer" moddion barbaraidd." Ffromodd newyddiaduron Germani yn aruthr am i Mr. Chamberlain dweud fod y Germaniaid wedi arfer moddion cyffelyb, os nad gwaeth, yn y rhyfel rhyngddynt a Ffrainc yn 1870-1. Ond y mae yr Anrhydeddus Aubern Herbert yn y Contemporary Review, (Gorffennaf, 1902), mewn erthygl o dan y penawd, How the pot called the kettle black, yn dangos fod cyhuddiad Mr. Chamberlain yn hollol wir. Un peth ydyw pasio penderfyniadau mewn cynhadledd yn ymrwymo i ymgadw rhag arfer creulondeb dianghenraid mewn rhyfel, ond peth arall ydyw cario y penderfyniadau hynny allan pan y mae y nwydau anifeilaidd wedi eu cyffroi. Mae yr hyn a gymerodd le yn Neheudir Affrica, yn China, ac yn Ynysoedd y Philippine, yn eglur ddangos hynny. Na, peth barbaraidd ydyw rhyfel o angerrheidrwydd.