Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XV

Pennod XIV Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod XVI


PENNOD XV

Mr. Richard yn Aelod o'r Departmental Committee ar Addysg yng Nghymru—Erthygl Esgob Llandaff ac atebiad Mr. Richard—Ei Araeth yn y Senedd ar Achos Borneo.

(1880) Yn y flwyddyn 1880, darfu i Arglwydd Spencer wahodd Mr. Richard i fod yn aelod o'r Departmental Committee neu Ddirprwyaeth i chwilio i mewn i achos Addysg yng Nghymru. Arglwydd Aberdare oedd cadeirydd y pwyllgor, ac Arglwydd Emlyn, Proffeswr Rhys, Mr. Lewis Norris, a'r Canon Robinson o York oedd y lleill. Yr oedd yn beth newydd ar y ddaear, ebe y Parch. Daniel Rowlands, M.A., yn y Traethodydd am 1888, fod y fath bwyll-gor yn cael ei benodi i edrych i mewn i sefyllfa Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol yng Nghymru, ac y mae yn ddiameu na fu Prif Weinidog erioed yn y deyrnas, oddieithr Mr. Gladstone, ag y buasai y fath benodiad o dan ei lywodraeth yn bosibl. Yr oedd hefyd yn un o'r pethau rhyfeddaf gweled y fath wr a Mr. Richard yn cael ei benodi ar y fath bwyllgor. Nid, bid sicr, am ei fod yn ddifater am addysg, ac yn enwedig am addysg i Gymru; yr ydoedd hynny trwy ei oes wedi bod yn agos iawn at ei galon, fel y danghosai ei ymdrechion o blaid addysg elfennol, a thrachefn am flynyddoedd ynglŷn â Choleg Aberystwyth; ond y rhyfeddod oedd fod unrhyw lywodraeth Seisnig wedi gallu synied fod Ymneillduwr, ac Ymneillduwr Cymreig, yn meddu cymhwyster i osod ynddo unrhyw ymddiried o'r fath, Yr oedd ei benodiad iddo ef ei hunan hefyd yn destyn pryder, er i'r peth droi allan yn well na'i ofnau. "Pan wahoddwyd fi," meddai, mewn cynhadledd yng Ngwrecsam, "gan Arglwydd Spencer i ffurfio rhan o'r pwyllgor, yr oeddwn mewn cryn bryder am mai fi, y pryd hwnnw, oedd yr unig Ymneillduwr arno. O leiaf, nid wyf yn siwr o fy nghyfaill, y Proffeswr Rhys. Bu efe unwaith yn Ymneillduwr, ond mae yn Broffeswr yn Rhydychain yn awr, ac y mae arnaf ofn na allwn edrych arno ef, ar tir goreu ond yn unig yn amhleidiol." Ond cydnabyddai yn rhwydd iddo gael ei gyd-aelodau ar y pwyllgor yn foneddigion perffaith, a bod eu hargymhelliadau yn y diwedd yn dangos eu bod yn credu y rhaid i unrhyw gynllun addysgawl i Gymru, i fod yn llwyddiannus, fod mewn cysondeb a golygiadau corff mawr y bobl, ac i'r bobl gael bod yn ddehonglwyr eu teimladau eu hunain. Parhaodd yr Ymofyniad hwnnw o Hydref, 1880, hyd Gorffennaf, 1881. Cynhaliodd 50 o gyfarfodydd yng ngwahanol rannau Cymru, o Gaergybi ym Môn i Gasnewydd ym Mynwy; arholwyd 275 o dystion, o arglwyddi ac esgobion i lawr i weithwyr; a gofynwyd tuag ugain mil o gwestiynau. Yr oedd corff mawr y tystiolaethau y fath fel ag i lwyr argyhoeddi yr holl aelodau, a pheri iddynt gytuno ar Adroddiad ag y teimlid ei fod yn berffaith deg i genedl y Cymry, pa mor siomedig bynnag y gallai fod i'r rhai a ddalient eu gafael mewn breintiau a fwynhaent ar draul y genedl, ond i'r rhai nad oedd ganddynt unrhyw hawl. Yr oedd Mr. Richard yn gwybod yn dda pa fodd i ofyn cwestiynau a ddygent yr holl sefyllfa yn glir a diamheuol o flaen y pwyllgor, a theimlai aml un o'r rhai nad oedd rhyw lawer o gymhwyster yn ei ffeithiau i ddal goleuni dydd, fod ei ddwylaw arno yn anghyfleus o drymion, Cyn dechreu ar waith mawr y Pwyllgor Addysg, aeth Mr. Richard gyda Mrs. Richard a Mr. a Mrs. Bishop ar daith i Switzerland, er mwyn cyfnerthiad i'w iechyd. Er ei fod, bellach, tua deng mlwydd a thriugain oed, nid oedd yn segura, hyd yn oed pan ar ei wyliau oddicartref. Ysgrifennai lythyrau, erthyglau ar wahanol faterion, ac astudiai y "Llyfrau Gleision" er mwyn ymgymhwyso at waith mwy yn y dyfodol. Ymawyddai i wasanaethu ei ddydd a'i genhedlaeth, gan deimlo fod y nos yn dynesu, "pan na ddichon neb weithio." Yr oedd ei orffwys ef, ebe un cyfaill, yn gymaint a llafurwaith dynion cyffredin. Byddai yn syndod i lawer pe gallem groniclo yr holl waith yr oedd yn gallu ei gyflawni tua'r adeg yma ar ei fywyd. Teimlai yn ddwys wrth weled y naill gyfaill ar ol y llall fu yn ymladd ochr yn ochr âg ef mewn brwydrau celyd o blaid rhyddid crefyddol a heddwch yn syrthio ymaith. Ymysg y cyfryw yr oedd Elihu Burritt, yr hwn fu yn cydlafurio âg ef yn y Cynhadleddau Heddwch ar y Cyfandir gynifer o weithiau. Un arall oedd ei hen gyfaill mynwesol, Edward Miall, yr hwn a safai wrth ei ochr yn ymladd o blaid egwyddorion Ymneillduaeth yn, ac allan o'r Senedd. Traddododd Mr. Richard anerchiad llawn o deimlad dwys, mewn iaith brydferth, ar ei angladd. Un arall oedd Syr Hugh Owen, enw yr hwn sydd yn perarogli mor esmwyth ymysg cymwynaswyr Cymru; ac un arall oedd gweinidog yr eglwys yr oedd Mr. Richard yn aelod o honi, sef Dr. Raleigh o Kensington.

(1882) Yn 1882, ymddanghosodd erthygl yn y Church Quarterly Review gan Dr. Ollivant, Esgob Llandaff. Math o ymosodiad oedd erthygl yr esgob ar Mr. Richard yn bersonol am yr hyn a wnaeth ar y Departmental Conmittee. Atebwyd yr erthygl gan Mr. Richard yn y British Quarterly Review; a chan fod yr erthygl hon yn rhoi syniad i ni am y gwaith pwysig a gyflawnodd ar y pwyllgor, y mae yn werth gwneud talfyriad o honi. Cawn ynddi amddiffyniad Mr. Richard ei hun yn erbyn cyhuddiadau yr esgob, a dengys i ni mor gryf oedd y rhagfarnau y gorfu iddo weithio yn eu herbyn.

Dechreua trwy ddweud fod boneddwr yn perthyn i Goleg yng Nghymru wedi ysgrifennu unwaith at Aelod Seneddol i ofyn a oedd dim modd cael casgliad cyflawn o bapurau Seneddol yn dwyn perthynas a Chymru. Yr atebiad oedd, nad oedd dim papurau o'r fath mewn bod. Ni fyddai dim anhawster i gael digon o bapurau mewn perthynas i'r Iwerddon, Afghanistan, neu Twrci, Affrica Ddeheuol, neu Syria, neu lle bynnag y bu terfysg neu wrthryfel. Dywedir mai dedwydd yw y wlad nad oes iddi hanes; ond yr oedd hynny ar y dybiaeth nad oedd gan hanes ddim i'w wneud ond â rhyfeloedd. Er fod Cymru yn amddifad o'r pethau hyn, yr oedd ganddi ei hanes er hynny. Yr oedd am ganrif a hanner wedi bod yn ymddatblygu yn ddistaw mewn amgylchiadau allanol ac mewn cynnydd meddyliol. Gwnaeth gynnydd mawr mewn addysg; yn ei hysgolion Sabothol—y rhai perffeithiaf mewn unrhyw wlad—ac yn ei hysgolion dyddiol. Yn ystod y 30 mlynedd blaenorol yr oedd wedi gwario dim llai na 150,000p ar ysgolion a cholegau. Yr oedd hefyd wedi ychwanegu at ei llenyddiaeth yn ddirfawr. Yn ol cyfartaledd y boblogaeth, dengys Mr. Richard, trwy ystadegau, fod gan Gymru fwy o gymaint arall o gyfnodolion na Lloegr, un a hanner mwy nag Ysgotland, a chymaint bedair gwaith a'r Iwerddon. Ac allan o'r 32 o gyfnodolion Cymreig, nid oedd gan yr Eglwys Sefydledig ond 4.

Ond o'r diwedd cafodd Cymru "Lyfr Glas" yn cynnwys mwy na mil o dudalennau yn gyfangwbl iddi ei hunan ar sefyllfa addysg uwchraddol yng Nghymru. Ar ol galw sylw at gyfansoddiad y pwyllgor, a'r ffaith, fel y sylwyd, nad oedd ond un Ymneillduwr arno, dywed nad oedd neb a fedrai gyhuddo y pwyllgor o fod yn rhy bleidiol i Ymneillduaeth. Os oedd lle i gwyno hefyd, fel arall yr oedd yn hollol. Gwnaeth y pwyllgor ei waith, pa fodd bynnag, a derbyniwyd ei Adroddiad gan y Senedd a'r wlad yn dra ffafriol. Derbyniwyd ef hefyd gyda chymeradwyaeth gan y Dywysogaeth. Yr unig eithriad ydyw rhyw ddosbarth o glerigwyr, y rhai a flinid yn fawr oherwydd presenoldeb Anghydffurfiwr[1] ar y pwyllgor. Mae teimladau y cyfryw wedi eu datgan yn y Church Quarterly Review mewn modd tra hynod, ond nid mewn modd tra chrefyddol. Rhaid i ni esbonio tipyn ar gwynion y bobl, druain, erlidiedig hyn. Mae'n ymddangos fod Mr. Richard wedi ymgymeryd a'i waith ar y pwyllgor ar yr egwyddor fod y Cynllun Addysg a gynhygid i Gymru i fod, nid yn unig yn un effeithiol, ond yn un a gymeradwyid gan Gymru. Hyd yn hyn yr oedd yr Ysgolion Gwaddoledig bron i gyd wedi syrthio i ddwylaw yr Eglwyswyr. Er bod 35,000 allan o 49,000 poblogaeth Sir Fôn yn Ymneillduwyr, nid oedd un Ymneillduwr ar Ysgol Waddoledig Beaumaris. Nid oedd modd y byddai yr Ymneillduwyr yn foddlawn, ac y mae Adroddiad y Pwyllgor wedi profi hynny. Danghosai tystion lawer fod yr Eglwyswyr wedi gwneud ymdrechion i broselytio y plant ir Eglwys, lle yr oedd "athrawiaethau amryw a dieithr" wedi eu dwyn i mewn. Yn awr y, gwyn yn erbyn Mr. Richard ydyw ei fod wedi gofyn cwestiynau i'r tystion o flaen y Pwyllgor ag oedd yn dwyn y ffeithiau anghysurus hyn i'r amlwg. Ond pa fodd y gallai lai, heb fod yn anffyddlon i'w ymddiriedaeth? Beth oedd y ffeithiau a ddygwyd i'r golwg? Cafwyd fod 15,700 o fechgyn yng Nghymru a Mynwy eisieu Addysg Uwchraddol. Ar eu cyfer yr oedd 27 Ysgolion Gwaddoledig gyda gwaddol o 12,788p.; nad oedd ond 1,540 o fechgyn yn yr ysgolion hyn; bod dwy ran o dair o'r rhai hynny yn blant Eglwyswyr; a bod plant Anghydffurfwyr yn cael eu danfon i ysgolion ymhell, ar gost fawr, yn hytrach na'u bod yn cael eu danfon i'r Ysgolion Gwaddoledig yn eu cymdogaeth eu hunain. Onid oedd ffeithiau fel hyn o bwys mawr, ac onid oedd Mr. Richard yn gwneud gwasanaeth mawr wrth eu dwyn i'r amlwg? Yn wir, yr oedd cyfarfodydd wedi eu cynnal yng Nghymru i ofyn ar fod sylw yn cael ei alw at y ffeithiau hyn.

Ond yr oedd rhai clerigwyr yn honni nad oedd un lle i gwyno oherwydd fod Ymneillduwyr yn gorfod danfon eu plant fel hyn i Ysgolion Eglwysig. Gan nad oedd yr esgid yn gwasgu eu traed hwy, nid oedd yn gwasgu o gwbl. Nid oeddent hwy, medd y clerigwyr hyn, wedi clywed neb yn cwyno! Yr oeddent mor ffol a thybied mai atynt hwy yr aethai yr Ymneillduwyr i ddweud eu cwynion! Yr oedd Mr. Richard wedi meiddio gofyn i rai o'r tystion Eglwysig hyn sut y buasent hwy yn teimlo pe gorfodasid hwy i ddanfon eu plant i Ysgolion Ymneillduol? Wrth gwrs, yr oedd hwn yn gwestiwn anhyfryd iawn oddiwrth aelod o'r Pwyllgor ei hunan.

Ond yr oedd Mr. Richard wedi digio yr Adolygydd yn y Church Quarterly Review mewn dau beth arall. Un ydoedd ei fod wedi pleidio fod addysg grefyddol yn yr ysgolion dan sylw i gael ei hymddiried yn gyfangwbl i rieni a dysgawdwyr crefyddol y plant, a hefyd bod y Cymry mor grefyddol fel nad oedd yn debyg yr esgeulusid y rhan hon o'u haddysg, gan eu bod, yn ystod y can mlynedd blaenorol, wedi codi 3,500 o gapelau, ac yn gwario tua 400,000p. yn y flwyddyn ynglŷn â hwynt. Yr oedd hyn yn blino yr adolygydd yn enbyd. Codwyd y capelau, meddai, oddiar gau ddibenion, yr oeddent mewn dyled fawr, nid oedd dylanwad yr Ysgolion Sabothol wedi bod yn iachus, ond, yn hytrach, wedi cynhyrchu marweidd-dra ysbrydol ac oferedd crefyddol. Mae Mr. Richard yn dangos y modd twyllodrus y mae yr adolygydd yn ceisio profi y gosodiadau hyn, sef pigo dywediadau dynion da, yma ac acw, am yr angenrheidrwydd oedd am lafurio yn fwy gydag achos dirwest a phurdeb. Ie, mwy. Yr oedd yr adolygydd yn ddigon haerllug i honni fod y drygau hyn y cwynid o'u herwydd yn ffrwyth Ymneillduaeth yn unig. Mae Mr. Richard yn dangos y modd yr oedd y gwŷr hyn yn duo cymeriad eu cydwladwyr, i'r diben o wasanaethu eu plaid, ac yna y mae yn amddiffyn cymeriad y Cymry yng ngwyneb y cyhuddiadau hyn gyda'i ddeheurwydd arferol. Dywed fod rhywbeth anwrol yn eu dull o bardduo eu cydgenedl fel hyn. Nid yng Nghymru y gwneid hyn; ac nid yn yr iaith Gymraeg, onide buan y mygid eu haeriadau gan atebion diwrtheb; ond gwneid y cyhuddiadau mewn papurau Seisnig, lle yr oedd y gwenwyn yn treiddio, a lle nad oedd yn bosibl i'r gwrthwenwyn gael dod i mewn.

Ar ol ateb y cyhuddiad mewn perthynas i ddyledion y capelau a phethau ereill, dengys mor ddisail ydoedd y cyhuddiad a wneid gan yr adolygydd am anghymedroldeb Cymru. Yr oedd yr adolygydd wedi cael rhyw un i gyfrif y nifer a fynychai dafarnau neilltuol yn Abertawe a Merthyr, ac yna yn eu lluosogi hwy â holl nifer y tafarndai, a thrwy hynny yn gwneud allan fod un o bob pump o drigolion swydd Morganwg yn mynychu tafarndai ar y Saboth! Treulir gweddill yr erthygl gampus hon i drin cwestiwn moesoldeb y Cymry yn gyffredinol, a therfyna trwy ddweud nad oedd dim yn fwy effeithiol i ddwysau a phrysuro y cri am ddatgysylltiad nag ymosodiadau tebyg i'r un yn y Church Quarterly Review.

Gwelwn oddiwrth yr erthygl rymus hon y fath fantais fawr ydoedd i Gymru fod gŵr o wybodaeth ac anibyniaeth Mr. Richard ar y Pwyllgor Addysg ac nad oedd efe byth yn esgeuluso un cyfleustra a gaffai i amddiffyn cymeriad ei wlad yng ngwyneb ymosodiadau, o ba gyfeiriad bynnag y deuent.

(1882) Ar y 17eg o Fawrth, 1882, traddododd Mr. Richard araeth yn Nhŷ y Cyffredin ar achos Borneo, ynys oedd tua 284,000 o filltiroedd ysgwar, yn Ynysfor India. Ymddengys fod y Sultan Brunei, Sultan Soloo, ac un Tumougong, wedi gwerthu eu taleithiau i un o'r enw Mr. Dent, ar ran Cwmni Masnachol, yn cynnwys yr oll o Ogleddbarth Borneo, talaeth fwy na'r Deyrnas Gyfunol, gan fod y Cwmni wedi ymrwymo talu y swm blynyddol o tua phum mil o bunnau am danynt. Cadarnhaodd Llywodraeth Prydain y Cytundeb. Yr oedd telerau y Cytundeb yn cyfreithloni cymeryd buddiannau a thiroedd ychwanegol trwy unrhyw foddion cyfreithlon. Yr oedd Mr Richard, a rhan fawr o'r wlad ag oedd wedi deall y cwestiwn, yn condemnio y Cytundeb hwn. Gwadai Mr. Richard hawl y llywiawdwyr hyn i werthu eu teyrnasoedd a'u poblogaeth fel hyn, fel pe gwerthid darn o dir, a datganai ei syndod fod y Llywodraeth yn cymeradwyo y peth heb ganiatad y Senedd. Galwai Mr. Richard sylw yn yr Herald of Peace at y ffaith fod Llywodraeth Prydain eisoes wedi danfon 150 o dunelli o offer rhyfel i'r Cwmpeini.

Yn ei araeth yn y Tŷ ar yr achos, dywedai ei fod yn ymddangos y gallai rhyw is-swyddog, neu y neb a fynnai, gymeryd meddiant o diriogaethau, a gosod y draul o'u cynnal ar gefn pobl Prydain. Honnid, mae'n wir, nad oedd Prydain yn rhwym o amddiffyn y Cwmpeini hwn, ond fel y byddai yn amddiffyn Prydeinwyr yn gyffredin. Y drwg, er hynny, oedd fod yr "ond" hwn yn cynnwys bron bopeth. Yr oedd y "Llyfrau Gleision" ar y mater ymhell o fod yn rhai hyfryd i'w darllen. Yr oedd Holland, ac Yspaen, a Lloegr yn ymgrabinio am gael meddiant o wlad nad oedd yn perthyn iddynt. Os na syrthiai y rhai hyn allan â'u gilydd, byddent yn siwr o syrthio allan â'r trigolion. Felly y bydd y Saeson bob amser yn gwneud. Fel rhai yn ennill trefedigaethau trwy orthrech nid oedd neb tebyg iddynt, ond fel llywodraethwyr da yr oeddent yn aflwyddiannus. Yn wir, yr oedd arwyddion o anghydfod posibl yn ymddangos eisoes. Wrth ysgrifennu o Labuan, Ionawr, 1878, dywedodd y Consul Cyffredinol, Treacher, os ceid llong gynnau, yn achlysurol, gan y wlad hon, na fyddai fawr o drafferth gyda'r brodorion. Nid oedd efe (Mr. Richard) yn credu mewn llywodraethu trwy longau arfog. [Yma, fe waeddodd Mr. Gladstone, "Clywch, clywch, ac eto y mae y cenhadon yn galw am danynt yn barhaus."] Atebodd Mr. Richard, "Wel, y mae yn wir ddrwg gennyf glywed fod cenhadon yn anghofio eu cymeriad fel gweision Tywysog Tangnefedd, ac yn gofyn am longau rhyfel." Aeth Mr. Richard ymlaen i ddangos nad oedd pobl Borneo, a drosglwyddwyd fel hyn, yn meddu un llais yn y peth. Gwyddent hanes Rajah Brooke. Cafodd yntau ran o Borneo, fel y Cwmni hwn, a chwerylodd â'r brodorion, a chafodd help llong rhyfel ag oedd gerllaw, heb ddim i'w wneud, a chymerodd un o'r cyflafannau mwyaf creulon le ag a groniclir mewn hanesyddiaeth, a thalasom ni 20,000p. i'r swyddogion a'r dynion am eu gwaith. Ond er gwaethaf datleniad Mr. Richard, gan fod y peth wedi ei wneud, cymeradwywyd y Freinlen i'r Cwmni trwy fwyafrif o 125 yn erbyn 62. Fel y dywedodd Mr. Richard lawer gwaith, anhawdd iawn ydyw cael gan y Llywodraeth gondemnio gweithredoedd ein milwyr neu ein llyngeswyr am unrhyw weithred ar ol eu cyflawni, yn enwedig os buont yn llwyddiannus. Y mae ein darllenwyr wedi sylwi ar gyfryngiad Mr. Gladstone yn yr araeth uchod. Mewn cysylltiad â hyn, y mae Mr. Richard, mewn erthygl olygyddol yn yr Herald of Peace (Ebrill 1, 1882), yn crybwyll ei fod wedi clywed fod cyfarwyddwyr un Bwrdd Cenhadol, ychydig cyn hynny, wedi danfon at Fwrdd Cenhadol arall i ofyn a wnaent ymuno â hwynt i ofyn i'r Llywodraeth am amddiffyniad milwrol iddynt yng nghyflawniad eu gwaith; ac y mae Mr. Richard yn datgan ei lawenydd fod y Bwrdd hwnnw wedi gomedd cydsynio. Gresyn fod unrhyw Gymdeithas Genhadol yn awyddus i ategu eu gwaith trwy nerth arfau "cnawdol." Nid fel hyn, yn ddiau, y bwrir cestyll paganiaeth i'r llawr. "A ydyw yn bosibl," gofynnai Mr. Richard, "fod y cyfryw rai wedi anghofio geiriau eu Meistr, pan y gofynnodd ei ddisgyblion anwybodus, ym mebyd eu haddysg Gristionogol, a gaent ddwyn tân o'r nefoedd ar y Samariaid am eu bod yn gwrthod derbyn, ac yn barod i erlid, eu Meistr, —Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw.' Pa ryfedd fod anturiaethwyr masnachol mor barod i dywallt gwaed anwariaid pan y mae Cristionogion sydd yn proffesu ceisio eu troi, mor barod i wneud yr un peth?"

Nodiadau

golygu
  1. Mr. Richard.