Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XVIII
← Pennod XVII | Bywyd a Gwaith Henry Richard AS gan Eleazar Roberts |
Pennod XIX → |
PENNOD XVIII
Mr. Richard yn cael ei bennodi yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol ar Addysg—Ei lafur mawr arno, er ei afiechyd —Ei erthygl nodweddiadol ar Gymru yn y Daily News.
Gwasanaeth pwysig iawn arall a gyflawnodd Mr. Richard yn ei hen ddyddiau ydoedd dod yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol i chwilio i mewn i achos Addysg yn Lloegr a Chymru. Yr oedd hyn yn ystod Gweinyddiaeth fer Arglwydd Salisbury. Tarddodd y cynhygiad am y Pwyllgor oddiwrth Arglwydd Cross, amcan yr hwn, yn ol ei addefiad ef ei hun, ydoedd gosod yr Ysgolion Enwadol ar yr un tir, o ran cynhaliaeth oddiwrth y Wladwriaeth, a'r Bwrdd-ysgolion. Dymunai y Weinyddiaeth wneud ymddangosiad o degwch, ac felly penodwyd nifer o'r blaid arall ar y Ddirprwyaeth. Yr oedd yn gynhwysedig o 23 o aelodau, 15 o honynt yn erbyn gosod addysg o dan reoleiddiad y wlad, a'r gweddill—y lleiafrif—yn Rhyddfrydwyr neu yn Anghydffurfwyr. Nid ydoedd iechyd Mr. Richard yn dda ar y pryd, ond gan ei fod yn teimlo y perygl oedd i ni fel teyrnas gymeryd cam yn ol yn lle ymlaen yn Achos Addysg —cam ag y mae y Weinyddiaeth yn ei gymeryd y dyddiau hyn—ymgymerodd â'r gwaith, a dilynodd gyfarfodydd y Pwyllgor yn ffyddlon hyd y diwedd. Penodwyd y Ddirprwyaeth ar y 15fed o Ionawr, 1886, ond ni orffenwyd yr Adroddiad hyd Mehefin 27, 1888. Eisteddodd am 146 o ddyddiau—95 o honynt i wrando tystiolaethau 151 o dystion, a'r gweddill i ystyried yr Adroddiad. Gwnaeth Mr. Richard ei oreu i gael yr Adroddiad yn un mor dêg ag oedd yn bosibl Cymeradwyai bob peth yn yr Adroddiad ag oedd tueddu i wella ein cyfundrefn o Addysg. Un o'r pethau hynny ydoedd yr argymhelliad a ganlyn,—"Y dylid rhoddi caniatad yng Nghymru i gymeryd i fyny yr iaith Gymraeg fel testyn neilltuol; os dewisir, i fabwysiadu cynllun i'w chymeryd yn lle y Saesoneg fel testyn dosbarth, seiliedig ar yr egwyddor o osod cyfundrefn raddoledig i gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, i ddysgu Cymraeg gyda Saesneg fel testyn dosbarth; aco i gymeryd y Gymraeg i fewn ymysg yr ieithoedd ymha rai y gellir arholi ymgeiswyr am ysgoloriaethau y Frenhines, ac am drwyddedau." Nid oes raid dweud fod gan Mr. Richard law arbennig yn yr argymhelliad hwn. Mae ei fod wedi ei basio gan yr holl Ddirprwywyr yn brawf o'r cyfnewidiad ym marn y Saeson gyda golwg ar Gymru; a gwnaeth Mr. Richard fwy na neb y gwyddom am dano i ddwyn y cyfnewidiad hwn oddiamgylch. Gwnaeth wyth o'r aelodau ail Adroddiad yn nodi pethau yr oeddent yn methu cydsynio ynddynt yn Adroddiad y mwyafrif; ac yr oedd Mr. Richard yn un o'r wyth hynny. Yr oedd hefyd yn un o bump i dynnu allan drydydd Adroddiad, un maith a llafurfawr, ac yn myned ymhellach na'r ail, a'r hwn, ymysg pethau ereill, oedd yn dadleu dros Addysg Fydol. Credai Mr. Richard yn gryf nad oedd dim cyfaddasder yn y Llywodraeth i ymyraeth âg Addysg Grefyddol y bobl. Credai yn ysbrydolrwydd teyrnas Crist, ac yng ngallu caredigion crefydd i wneud eu rhan i ddysgu y grefydd honno i'r deiliaid. Yr oedd ei wybodaeth am, a'i gyllymdeimlad a'r gwaith mawr a wnaed yn wirfoddol gan Ymneillduwyr Cymru, yn dwfnhau y teimlad hwn yn ei ysbryd.
Tra yr oedd y Ddirprwyaeth yn gwneud ei gwaith, bu raid i Dr. Dale fyned i Awstralia i gynrychioli yr Anibynwyr Seisnig yn eu Jiwbili yn Hydref, 1887. Gofidiai Mr. Richard oherwydd hyn, ac ysgrifennai ato i ddatgan ei obaith y deuai adref cyn cyflwyniad Adroddiad y Ddirprwyaeth.
"Yr wyf," meddai, yn teimlo yn fwy awyddus am fy mod yn yn wybodol o fy ngwendid cynhyddol, ac o fy anallu i wneud cyfiawnder âg Achos Addysg Anenwadol. Mae'r afiechyd sydd yn fy mlino yu cynhyddu o ddydd i ddydd, ac yn fy analluogi yn fwy-fwy i wneud llawer o waith."
Dychwelodd Dr. Dale ym mis Ionawr, 1888. Terfynodd y Ddirprwyaeth ei gwaith, fel y dywedwyd, ym mis Mehefin. Y mae Dr. Dale yn rhoi tystiolaeth uchel iawn i'r modd y cyflawnodd Mr. Richard ei waith ar y Ddirprwyaeth. Dywed y byddent ill dau yn aml yn esgyn y grisiau gyda'u gilydd, ac am fisoedd lawer nid esgynnai Mr. Richard heb gymeryd y cyfferi angenrheidiol er atal ymosodiad yr anhwyldeb a fu yn angeu iddo yn y diwedd, sef clefyd y galon. Mynych y canfyddid, pan godai i gymeryd rhan mewn dadl, ei fod yn dioddef oddiwrth yr anhwyldeb, a bod siarad am bum munud neu ddeg wrth ryw ugain o foneddwyr, yn beryglus iddo. Gwyddai yntau hynny yn dda, a llawer gwaith y soniai am hynny. Ond yr oedd yn penderfynnu gwneud hynny o waith a allai tra byddai byw. Eisteddai ar y Ddirprwyaeth fel Arweinydd yr Anghydffurfwyr yn y Senedd, ac fel Cynrychiolydd Buddiannau Addysgawl Cymru. Teimlai bwysigrwydd ei sefyllfa. Deuai yn gynnar, ac arosai yn hwyr. Talai y sylw mwyaf i'r tystiolaethau, ac yr oedd yn graff a manwl iawn. Yr oedd yn foesgar ac ystwyth bob amser; ond yn anhyblyg fel y dûr mewn cwestiwn o egwyddor. Wedi unwaith gael gafael ar y gwirionedd, yr oedd yn anichonadwy ei symud. Efe oedd yr un a ysgrifennodd rai o'r brawddegau goreu yn Adroddiad y lleiafrif. Fel ei hen gyfaill, Mr. Miall, edrychai yn ol gyda gradd o ofid fod y wlad yn ymadael oddiwrth y gyfundrefn wirfoddol o Addysg. Yn wir, yr oedd Dr. Dale yn petruso a oedd wedi ei argyhoeddi yn llwyr fod cynhorthwy y Llywodraeth yn angenrheidiol, a'i fod yn credu y buasai Addysg, er y cynhyddasai yn fwy araf, yn gwneud hynny yn fwy diogel heb arian y Llywodraeth. Ond os oedd rhaid cael arian y Llywodraeth, teimlai yn gryf y dylai yr ysgolion fod o dan reolaeth rhai yn cynrychioli y bobl yn gyffredinol, ac na ddylid ceisio dysgu crefydd enwadol ynddynt. Mae yn amhosibl teimlo gormod o barch i Mr. Richard am ei lafur yn yr achos hwn, pan gofiom ei henaint a'i wendid ar y pryd.
Yn ystod yr holl amser hwn, yr oedd Mr. Richard yn parhau i fod yn Ysgrifennydd Mygedol y Gymdeithas Heddwch, ac ysgrifennai erthyglau arweiniol i'r Herald of Peace, a chyfansoddai Anerchiadau galluog iawn dros y Gymdeithas. Darllennodd bapur yn y Gyn- hadledd i ddiwygio a threfnu Cyfraith Ryng- wladwriaethol ar y 26ain o fis Gorffennaf, 1887, papur ag oedd yn dangos ôl llafur ac ymchwil- iad mawr.
Yn y Daily News am yr 17eg o fis Ionawr, 1888, sef tua saith mis cyn ei farwolaeth, ymddengye erthygl gan Mr. Richard ar y cynnydd yr oedd Cymru wedi, ac yn ei wneud. Mae yr erthygl yn dra nodweddiadol o'i hoffter mawr at wlad ei enedigaeth, o'i syniadau arbennig, o'i arddull o ysgrifennu, ac o'r wythien o wawdiaeth oedd yn ei gymeriad; a chan ei bod wedi ei hysgrifennu hefyd yn y flwyddyn olaf o'i fywyd, credwn y bydd y darllennydd yn ddiolchgar i ni am roddi cyfieithiad llawn o honni yn y fan hon. Mae yr erthygl fel y canlyn,—
"Mae Cymru yn dod i'r rhes flaenaf yn gyflym. Ceis-iodd rhai o honom, flynyddau yn ol, alw sylw pobl Lloegr at sefyllfa a hawliau y Dywysogaeth. Darfu rhai dynion eangfryd ac yr oedd Mr. Gladstone yn un —dalu sylw i'r hyn a ddywedasom. Ond ar y cyfan, yr oedd gan John Bull ofalon ereill yn pwyso ar ei feddwl, a gwaith arall lonaid ei ddwylaw. Yr oedd yn gorfod gwylio dros a gwastathau 'cydbwysedd gallu' yn Ewrob; yr oedd raid iddo ddal i fyny Anibyniaeth a chyfanrwydd' Ymherodraeth Twrc, a sefydlu yr hyn a elwir yn scientific frontier yn Afghanistan. Yr oedd raid iddo ddarostwng y Boeriaid yn y Transvaal o dan awdurdod Lloegr, gorchfygu Cetewayo, a rheoleiddio achosion Zululand. Rhaid oedd iddo danbelennu Alexandria, llywodraethu yr Aifft, a lladd miloedd o Arabiaid yn y Soudan. Mewn gair, yr oedd yn gorfod cario allan Wladweiniaeth Dramor rymus a nerthol ym mhob parth o'r byd; ac mewn cynhariaeth i'r anturiaethau ardderchog hyn, pa hawl oedd gan ryw filiwn a hanner o Gymry i ddisgwyl y buasai efe yn gostwng ei glust i'w cwynion a'u hapeliadau hwy, nac yn wir yn talu nemawr o sylw i'w achosion ei hun?
Fel y mae yn digwydd bob amser yn ein hanes politicaidd, yr oedd yn rhaid i Gymru wneud ei hunan yn flinder, cyn y caffai sylw. Gorfu arni godi ei llais yn lled uchel ar gwestiynau yn dwyn perthynas â'r Tir, a'r Eglwys, a hen ofergoelion ereill, cyn gorchfygu dideimladrwydd ei chymdogion. Ond wedi iddi ddechreu dychrynnu y dosbarthiadau mewn awdurdod, y mae wedi dod i feddu lle mwy na mwy amlwg ym meddyliau ac areithiau dynion. Addefir, yn awr, ei bod yn meddu hanfodiad gwahaniaethol, ac nad yw i'w hystyried bellach yn fath o labed wrth gynffon Lloegr. Mae Prif Weinidogion, a rhai a fu yn Brif Weinidogion, a phob math o Wladweinwyr ac Areithwyr wedi troi llewyrch eu hwynebau arni, ac wedi ennill ei phobl trwy lais eu hudoliaeth. Mae wedi cael Dirprwyaeth Ymchwiliadol gan y Llywodraeth, a hynny i gyd iddi ei hun. Bu ei hachosion o dan sylw parchus mewn Pwyllgorau a Chynhadleddau. Gwnaeth ei llais yn glywadwy hyd yn oed yn y Senedd, er pob ymgais a wnaed yn ddiweddar i'w distewi. Canlyniad naturiol hyn oll yw, fod llawer yn cyniwair gan siarad ac ysgrifennu am y Dywysogaeth; ac os nad yw gwir wybodaeth yn amlhau, mae yr hyn sydd yn proffesu bod yn wirionedd yn cael ei daenu. Ymwrolodd rhai newyddiaduron anturiaethus gymaint, fel ag i ymwthio i mewn i'r terra incognita hwn. Aethant i'r parthau hynny o'r wlad lle y drwedir wrthym 'fod y bobl wedi eu hysgaru oddirrth wareiddiad Seisnig,' pa beth bynnag y mae hynny yn ei feddwl. Fel canlyniad y gwibdeithiau anturiaethus hyn, llanwyd y newyddiaduron â phob math o adroddiadau cyffrous, mwy neu lai amheus, o'r hyn a welsant ac a glowsant, a phortreadwyd cymeriadau personau a dosbarthiadau mewn math o anferthlyn beiddgar ag sydd mewn rhan wedi difyrru, ac mewn rhan wedi llidio y bobl y buont yn treio eu llaw arnynt, a chwynant gyda phwyslais pendant, eu bod wedi eu camddarlunio a'u henllibio. Un o'r pethau y mae yr ymchwilwyr hyn wedi ei ddarganfod, a'r hyn y maent yn ei gyhoeddi i'r byd gyda diniweidrwydd plentynaidd, ydyw y ffaith mai Cymraeg ydyw iaith ymddiddan cyffredin ymysg saith o bob deg o drigolion y 'wlad dywell' hon; datguddiad sydd ynddo ei hun yn ddigon i daro y Philistiad Seisnig & dychryn, gan fod yr argyhoeddiad yn llechu yn ei fynwes, er na feiddia ei grybwyll, nad oes dim modd i unrhyw bobl fod yn bobl wir wareiddiedig, os na fyddant yn siarad Saesneg.
"Ond nid dyma'r cyfan; oblegid cawsant allan ymhellach fod nifer fawr o newyddiaduron a chyhoeddiadau ereill yn dod allan yn yr iaith Gymraeg, a'u bod i fesur dychrynllyd yn nwylaw Anghydffurfwyr; hefyd ac y mae hyn yn cyrraedd pwyut uchaf ofnadwyaeth-eu bod yn cael eu golygu gan Weinidogion Ymneillduol, a chan nad yw Gweinidogion Ymneillduol nemawr well na dyhirod fit for treason, stratagems, and spoils; caniateir i'r darllennydd crynedig i ddychmygu y perygl y gellir dwyn ein sefydliadau iddo, pan y mae y fath ddynion yn trin offeryn mor ofnadwy, a hynny mewn iaith na ddeallir mo honni gan wylwyr gwareiddiad Seisnig. Beth ydyw yr holl gymdeithasau dirgelaid, a chyfarfodydd canol-nosawl, a chyngreirwyr ffugweddol, mewn cymhariaeth i'r perygl sydd yn llechu o dan yr iaith anadnabyddus hon, er fod, neu fe ddylai fod, ym mhob plwyf gyfarthgi gofalus, rhan o waith yr hwn ydyw gwylied a rhoddi rhybudd amserol i'r awdurdodau, mewn byd ac eglwys, o'r cynllwynion drygionus yn erbyn cyfraith ac iawn drefn sydd yn llercian o dan orchudd yr iaith Gymraeg? I ychwanegu yr ofnadwyaeth, cymerir darnau detholedig wedi eu difynnu i ddibenion cyffrous, a chyfieithir a chyhoeddir hwynt fel engreifftiau o'r Wasg Gymreig. Gwneir esboniadau arnynt gyda'r amcan i beri fod pob un a'u darllenro i gael ei ddychrynnu gymaint, fel y byddo ei wallt yn sefyll ar ei ben, like quills upon the fretful porcupine. Diau fod llawer o bethau ffol a gwyllt yn ymddangos weithiau yn y papurau Cymraeg, fel y maent yn ddigon aml yn y papurau Saesneg. Ni fyddai dim yn haws i ryw un feddai ddigon o amynedd a hoffter at ddrygsawredd, na dethol allan hyd yn oed o dudalennau papurau sydd yn proffesu digllonedd at y Wasg Gymreig, ddarnau na fyddent yn gynlluniau perffaith o synwyr da a chwaeth dda, os na fyddent yn wir, yn ffiaidd oherwydd eu heithafiaeth a'u gwrthuni.
"Yn awr, nid ydyw ond teg fod pobl Prydain yn cael gwybod am yr ystrywiau hyn sydd yn cael eu cario ymlaen ar gost pobl Cymru trwy gyfrwng rhan o'r Wasg Seisnig. Heb hynny, byddai yn anhawdd deall pa fodd y mae dynion sydd yn proffesu bod yn Gymry, ac yn wir yn Wladgarwyr Cymreig aiddgar, yn gwneud eu goreu i osod yn destynau gwawd a ffieiddiad, sefydliadau a dosbarthiadau o ddynion y rhai sydd yn cael eu parchu gan y rhan fwyaf o'n cydwladwyr. Beth ydyw ystyr yr ymosodiad a wneir yn erbyn enwadau Ymneillduol, Gweinidogion Ymneillduol a Newyddiaduron Ymneillduol ? Mae yn bur hawdd esponio. Mae Cymru yn Rhyddfrydol mewn materion gwladwriaethol, a chan fod yr Anghydffurfwyr yn cyfansoddi asgwrn cefn y blaid Ryddfrydol, yr amcan mawr yw camliwio ac enllibio yr Anghydffurfwyr gymaint ag a ellir. O ganlyniad, taenir ar led yr haeriadau a'r cyhuddiadau mwyaf disail, y rhai sydd nid yn unig yn adychu anwybodaeth dybryd, ond llwyr anallu i ddeall a gwerthfawrogi nodweddion symlaf Cymdeithas Gymreig, neu yn wir, i ddeall yn iawn y ffeithiau symlaf sydd yn gorwedd ar y wyneb. Er esiampl, fe ddywedir wrthym drachefn a thrachefn, fod nifer y Sectau Anghydffurfiol yn lleng,' y 'ceir capelau yn perthyn i bob sect posibl ym mhob man.' Mae amcan y cyfryw haeriadau yn ddigon eglur, sef peri dirmyg a chreu rhagfarn. Os cyrhaeddir yr amcan hwn, nid yw o un pwys eu bod yn hollol groes i ffeithiau. Oblegid fe wyr pob dyn nad yw yn meddu ond y wybodaeth fwyaf arwynebol am Ymneilltuaeth Gymreig, mai ychydig iawn yw nifer sectau Cymru, gan fod corff mawr yr Anghydffurfwyr yn cael eu gwneud i fyny o'r pedair canlynol, sef Methodistiaid Calfinaidd, Anibynwyr, Bedyddwyr, a Methodistiaid Wesleyaidd. Ymysg y rhai hyn y mae llawer llai o amrywiaeth athrawiaeth ac eiddigedd nag sydd ymysg y Sectau o fewn Eglwys Loegr, am y rhai y dywedwyd wrthym gan y Times, ei fod yn ddigon hysbys y gall clerigwr yn yr Eglwys honno ddysgu unrhyw athrawiaeth nad oes ond y mwyaf cyfarwydd a all ei gwahaniaethu oddiwrth Babyddiaeth, Calfiniaeth neu Ddeistiaeth.
“Dywedir wrthym hefyd fod yr holl enwadau Ymneillduol yn sefydliadau politicaidd, llawn o elyniaeth wenwynig at yr Eglwys;' haeriadau sydd nid yn unig yn anwireddus a sarhaus, ond yn ffol i'r eithaf. Nid oes neb ag sydd wedi bod yn bresennol mewn cymaint ag un o Gynhadleddau neu Gymdeithasfaoedd yr Anghydffurfwyr a all syrthio i'r fath gamgymeriadau ynfyd a gwarthus, os na fyddant yn cael eu cynhyrfu gan falais blaenorol, yr hyn nad wyf yn ei honni. Credaf fod y cam-ddarluniadau hyn a'u cyffelyb, yn codi o'r ffaith fod dynion yn anturio trin materion tu allan i gylch eu gwybodaeth a'u crmhwysder i'w deall. Y mae digon o sefydliadau politicaidd grymus yng Nghymru, ond y maent y tu allan i'r Eglwysi.
"Diamheu fod llawer o Ymneilltuwyr, yn eu cymeriadau dinasyddol, yn cymeryd rhan neilltuol yn y sefydliadau hyn. Pa fodd y gall fod yn angen, pan y maent mewn rhif, deall, a dylanwad, yn cyfansoddi rhan fwyaf pwysig y boblogaeth? Y mae yn wir hefyd, pan y mae cwestiynau cyhoeddus o bwys yn cyffroi y wlad, fod rhai o'r enwadau Anghydffurfiol yn pasio penderfyniadau yn dwyn cysylltiad a mwy neu lai â'r cwestiynau hyn. Ond y maent yn gyffredin yn gwneud hyn gyda phetrusder ac anewyllysgarwch, fel pe yn gresynu fod yn rhaid troi am foment oddiwrth eu gwaith ysbrydol at y fath faterion bydol. Rhoddaf un engraifft o'r modd y maent yn arfer trin y fath faterion, Gwarthruddir y Methodistiaid Calfinaidd yn neilltuol fel rhai yn gwneud crefydd yn ddarostyngedig i boliticiaeth. Mewn erthygl alluog a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Traethodydd, o dan law ei olygydd parchus a galluog, y Parch. Daniel Rowlands, yntau yn aelod parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, nodir y ffeithiau canlynol, Mewn Cymanfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddeufis neu dri yn ol, a'r hon oedd yn cynrychioli holl Eglwysi Methodistiaid Gogledd Cymru, derbyniwyd cenhadwri oddiwrth un o'r Cyfarfodydd Misol yn cynghori ar fod rhyw sylw yn cael ei wneud o bwnc y Degwm, ag oedd y pryd hwnnw yn cyffroi y wlad. A pha beth a wnaed? Datganodd y Parch. Dr. Owen Thomas, un o'r gweinidogion mwyaf parchus a dylanwadol yn y Corff, deimlad cryf yn erbyn y priodoldeb o ymadael oddiwrth y rheol a ffynnai yn y Cyfundeb o'r dechreu i beidio dwyn cwestiynau y gellid mewn un modd eu hystyried yn rhai politicaidd i'r Cymanfaoedd hyn. Yr oedd cydsyniad cyffredinol yn cael ei ddatgan gan y frawdoliaeth i'r syniad hwn. Ond wrth edrych ar sefyllfa neilltuol y wlad, barnwyd yn ddoeth i benodi is-bwyllgor i ystyried y mater, a dwyn ymlaen benderfyniad, i un o'r cyfarfodydd dilynol. Yr oedd y penderfyniad hwnnw, yr hwn a dynwyd allan gan Dr. Thomas ei hun, a'r hwn a gefnogwyd gan yr aelod pres- ennol dros Sir Fôn, fel y canlyn,—'Ein bod ni fel Cymanfa yn dymuno datgan ein cydymdeimlad dyfnaf âg amaethwyr ein gwlad, oherwydd yr iselder mawr yr oeddent wedi eu dwyn iddo yn y blynyddoedd diweddaf; ein bod yn gofidio yn neilltuol oherwydd yr anghydfyddiaethau gofidus a gymerasant le mewn rhai mannau mewn perthynas i'r degymau; ein bod yn gobeithio yn fawr y trefnir pethau yn fuan fel ag i rwystro pob achlysur i'r cyfryw anghydfyddiaethau, trwy ddefnyddio y degymau i ddibenion cenhedlaethol. Yn y cyfamser, yr ydym yn taer gynghori ein holl aelodau, pa faint bynnag fyddo y temtasiynau y byddant yn agored iddynt, tra yn arfer pob moddion cyfreithlon i gael yr hyn a ystyrient yn iawnderau gwladol, i wneud hynny yn y fath fodd ag a dueddo er anrhydedd eu crefydd, ac er harddu yr Efengyl a broffesant.'
Cyhuddiad arall a ddygir yn erbyn Anghydffurfwyr Cymru ydyw hwn,—Eu bod yn troi eu pulpudau yn llwyfannau politicaidd, ac yn lle pregethu yr Efengyl, eu bod yu areithio wrth y bobl mewn iaith wyllt ac anghynedrol ar gwestiynau y dydd. Yr wyf yn gwadu y cyhuddiad brwnt enllibus hwn yn bendant. Tybiwyf fod gennyf hawl i ddwyn fy nhystiolaeth bersonol ar y mater. Clywais gannoedd o bregethau o bulpudau Cymru, ac yn arbennig eiddo y Methodistiaid Calfinaidd, ymysg y rhai y magwyd fi. Traddodid rhai o honynt ar adeg o Etholiad, pan oedd y Tlad mewn berw politicaidd gwyllt. Ni chlywais un ag oedd yn y radd leiaf yn bregeth boliticaidd, neu yn cynnwys y cyfeiriad lleiaf at bynciau y dydd, y rhai oedd yn cynhyrfu meddyliau y bobl. Nid yn aml y byddaf yn myned i wasanaeth yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru, ond y tro diweddaf y gwnaethum hynny, clywais bregeth hollol boliticaidd, ac nid oedd yn llai hynod am ei bod yn cael ei lluchio at ben Mr. Gladstone, yr hwn oedd yn bresennol ar y pryd."
Nid yn hawdd y gellir prisio gwerth erthygl fel hon yn y Daily News, a hynny oddiwrth un o ddylanwad Mr. Henry Richard, er rhoddi taw ar y rhai oeddent mor barod bob amser i lychwino cymeriad y Cymry trwy gyfrwng y Wasg Seisnig.