Bywyd a marwolaeth Theomemphus o'i enedigaeth i'w fedd
O iechydwriaeth gadarn, O iechydwriaeth glir!
Fu ddyfais o’th gyffelyb erioed ar fôr na thir ;
Mae yma ryw ddirgelion, rhy ddyrus ynt i ddyn,
Ac nid oes all eu dadrus ond Duwdod mawr ei hun.
Nid oes un peth a ennyn y fflam angerddol gref,
Addewid neu orchymmyn fel ei ddioddefaint ef ;
Pan rhodd ei fywyd drosom, pa beth a ball ef mwy;
Mae myrdd o drugareddau difesur yn ei glwy.
O ras didrangc diderfyn tragwyddol ei barhad,
Ynghlwyfau’r Oen fu farw yn unig mae iachad;
Iachad oddi wrth euogrwydd, iachad o ofnau’r bedd,
A chariad wedi ei wreiddio ar sail tragwyddol hedd.