Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen I
← Cynnwysiad | Bywyd y Parch. Ebenezer Richard gan Henry Richard a Edward W Richard |
Pen II → |
BYWYD
Y
PARCH. EBENEZER RICHARD.
PEN. I.
Genedigaeth Mr. Richard—Ei rieni, a'u cymeriad—Ei febyd—Tirfa y Ffrancod yn Pencaer—Cân Mr. R. ar yr achlysur—Ei symudiad Bryn-henllan—Ei argyhoeddiad dygn, &c.
EBENEZER RICHARD, gwrthddrych y cofiant hwn, ydoedd fab hynaf Henry Richard[1] o ei ail wraig Hannah. Ganwyd ef ar y 5ed o Ragfyr, 1781, mewn pentref bychan a elwir Trefin, yn Sir Benfro, lle preswylfod ei rieni.
Yr oedd ei dad yn wr hynod dduwiol a dichlynaidd yn ei ymarweddiad. Bu yn bregethwr defnyddiol a derbyniol yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd am driugain mlynedd. Ei fam hefyd ydoedd enwog yn ei chymeriad crefyddol, yn wraig hynod o ran ysbrydolrwydd profiadau, a manylrwydd cydwybodol yn nghyflawniad pob dyledswydd, priodol i'w sefyllfa. "Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd."
Yn eu dull o ddwyn i fynu eu teulu, dangosent y gofal mwyaf i gynnefino meddyliau eu plant yn ieuainc a gwirioneddau pwysig yr efengyl-i fagu ynddynt barch diffuant at holl sefydliadau a moddion crefyddol, a thrwy hyfforddiadau tyner, ynghyd a gweddiau taerion a dibaid, i'w harwain yn foreu i ffordd cyfiawnder a thangnefedd, "fel pan yr heneiddient, na ymadawent a hi." Ac fel gwobr am eu hymdrechiadau llafurus a duwiol, cawsant yr hyfrydwch o weled eu plant yn dyfod yn brydlawn i adnabod Duw eu tadau. Fel engraifft o'r effeithiau dymunol hyn, gellir crybwyll yma yr hanesyn canlynol mewn perthynas i wrthddrych y cofiant hwn, yr hyn a gymerodd le yn amser ei febyd. Gellir ei rhoddi yn ngeiriau y gŵr parchedig[2] a'i coffaodd, ar ol ei farwolaeth: 'Clywais un yn adrodd ydoedd yn bresenol ar y pryd, iddo pan yn chwech mlwydd oed estyn ei law ar y Sabbath cymundeb, a derbyn y bara; yna ei fam a'i canfu, ac a'i rhwystrodd i dderbyn y cwpan, a phan aeth allan hi a'i ceryddodd, gan ddywedyd, Fy anwyl blentyn, pa'm y gwnaethost hyn? Yntau yn doddedig a atebodd, Pa'm y gwnaethoch chwi hyn? WEle cofio yr oeddwn i am angeu mâb Duw, ebe hi. Hyny oeddwn inau yn ei wneuthur, ebe y plentyn hawyddgar." Ychydig, o angenrheidrwydd, yw'r cofion sydd genym mewn perthynas i'w ddyddiau boreuaf. "Pan yn blentyn,” medd ei frawd, "yr oedd o dymher add fwyn, wylaidd, ac ofnus, ac yn ieuanc yn dueddol iawn i ddysgu, a darllain, ac yn naturiol o gynneddfau cyflym a chadarn." Gellir crybwyll yma hefyd ei fod pan yn fachgen yn hoff iawn o wrando yr efengyl, a chymaint oedd ei awydd i hyn fel y byddai yn arferol o ganlyn rhai o weinidogion enwog a phoblogaidd y dyddiau hyny i lawer hyny i lawer o fanau, yn olynol, pan y byddent yn ymweled a'r rhan hono o'r dalaeth, a byddai yn hoff o adgoffa mewn math o ymffrost ddigrif yr amgylchiadau hyny, fel prawf o zel a gwroldeb ei ieuenctyd.
Nid oes dim neillduol yn mhellach i hysbysu am dano hyd y flwyddyn 1796, pan y goddiweddwyd ef gan afiechyd trwm a pheriglus, o ba un y bu yn annhebyg iawn i gael ei adferu, ac am yr hwn y dywed efe ei hun, yn un o'i bapurau boreuol, "bu'm glaf yn agos i angeu;" ond gofalodd yr hwn oedd wedi ei nodi, heb yn wybod i ddoethineb ddynol, i fod yn "llestr etholedig" iddo ei hun, i amddiffyn a chadw bywyd ag ydoedd i gael ei ddefnyddio i'r fath ddybenion helaeth a godidog. Yn fuan ar ol ei wellâd o'r afiechyd hwnw, ymddengys iddo ymroddi ei hun i gyflawn aelodaeth yn eglwys Dduw.
Y mae yn hysbys i lawer o'n darllenwyr fod arferiad ragorol, yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, i ddwyn i fynu eu plant o dan ofal arbenig yr eglwys, a'u hystyried fel plant yr eglwys, ac o ganlyniad, a'r fraint ganddynt i fod yn bresenol yn ei chyfarfodydd neillduol, hyd oni ddifreiniont eu hunain, trwy ryw gam-ymddygiad; ac yn unol a'r rheol hon, gellir dweyd i wrthddrych y cofiant hwn gael ei eni yn nhŷ Dduw, a thrigo yno yn hawl ei rïeni, hyd oni welodd yn dda i Arglwydd y tŷ ei gymeryd ef yn bersonol, a'i gyflogi i'w wasanaeth. Y mae'n debyg i'r afiechyd rhag-grybwylledig gael ei fendithio i ryw raddau, i'w ennill i benderfyniad "i ysgrifenu a'i law ei hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac i ymgyfenwi ar enw Israel."
Yn fuan wedi hyn, yn nechreu y flwyddyn 1797, digwyddodd amgylchiad tra nodedig, yr hwn achosodd gynnwrf, a dychryn nid bychan, yn y rhan hono o'r wlad lle y preswyliai efe. Yr amser hwnw yr oedd y rhyfel ar y cyfandir yn ei boethder mwyaf. Yr oedd Bonaparte yn bygwyth er ys talm i wneuthur ymgyrch gelynol yn erbyn ein hynys. Gyda'r bwriad hyny yr ydoedd wedi cynnull byddinoedd mawrion ar ororau Ffrainc, ac o ganlyniad yn peri pryder, ac anesmwythder parâus, i'r wlad hon.
Yn y flwyddyn rag-grybwylledig ymddangosodd llynges fechan o Ffrancod ar for-gyffiniau Sir Benfro, yr hon a diriodd mewn lle a elwid Pencaer, ger llaw Abergwaun, ar y 22ain o Chwefror. Nid ydyw yn hysbys hyd y dydd hwn pa beth ydoedd tarddiad na dyben yr ymosodiad dyeithr yma. Ymddengys mae llu o ddrwg-weithredwyr oeddynt, wedi eu dilladu yn ngwisgoedd milwraidd byddinoedd Ffrainc. Ond pa un a oeddynt wedi eu danfon tan awdurdod a gorchymyn y llywodraeth, neu nid oeddynt, sydd yn guddiedig eto. Ond pa fodd bynag am hyny, parodd yr amgylchiad gythrwfl dirfawr drwy yr holl dywysogaeth, er na lwyddodd i lwfrâu, eithr yn hytrach i ennyn gwroldeb greddfol trigolion y wlad. Brysient ynghyd yn finteioedd o'r holl barthau, pob un yn ymarfogi ei hun a'r offeryn nesaf at law, ac yr ydoedd yr holl wlad yn dangos drych gwrthwyneb i'r hyn a ddarlunir gan y prophwyd, "Y bobloedd yn troi eu sychau yn gleddyfau, a'u pladuriau yn waywffyn." Trwy hyn, ynghyd a rhyw ddychryn ac annhrefn rhyfeddol a syrthiodd arnynt, ymostyngasant yn fuan, a rhoddasant eu harfau i lawr o flaen y Prif-Raglaw, Arglwydd Cawdor. Yr oedd yn naturiol i amgylchiad o'r fath hwn wneuthur argraff dwfn ar feddwl mor fywiog a theimladwy ag eiddo gwrthddrych y cofiant hwn; ac, i osod allan ei deimladau ar yr achlysur, cyfansoddodd gân o ddiolchgarwch, yr hon a argraffwyd yn yr un flwyddyn. Er nad oes nemawr o gywreinrwydd prydyddawl i'w ganfod yn y pennillion hyn, eto dangosant fwy o addfedrwydd meddwl, a difrifoldeb ystyriaeth, nag a gyfarfyddir a hwy yn gyffredin mewn "bachgenyn pymtheg mlwydd oed."
Gan eu bod yn awr allan o'r argraff er ys llawer o flynyddau, ac yn anadnabyddus y mae'n debyg i'r rhan fwyaf o'n darllenwyr, efallai hoffai rhai i weled engraifft o honynt yma.
'Ry'm ni yma am wneud coffa
Am yr amser tywyll du,
Pan yn safn anferth angeu,
Y bu miloedd o honom ni;
Yno'n hongian uwch ein beddau,
Heb un gobaith o ryddhâd,
Wedi'n dal gan ofnau creulon,
Byddai i ni golli'n gwa'd.
Yr oedd angeu gwedi dyfod,
A'n hamgylchu o bob tu,
O'mewn a maes, yn heol a'r mynydd,
Gwaeddi obry, gwaeddi fry;
R'oedd ein llefau a'n hochneidiau
Yn ofnadwy ac yn drist,
Yn gwaeddi allan, O na buasem
Oll yn credu yn Iesu Grist.
Yn Pen-caer o faes y cernydd,
R'oeddent yn llettya o hyd,
Ninau'n disgwyl gwel'd eu lluoedd
'N tanu allan i'r holl fyd;
Buant yno un diwrnod,
A dwy noswaith, yn mha rai
Yr oedd llefau ac och'neidiau
Yr holl amser yn parhau.
Cawsom waredigaeth hynod,
Gwaredigaeth loyw lân,
Gwaredigaeth nad oedd ynddi
Swn bwledau, na thwrf tân!
Ein cadernid oll fu'n sefyll
'N unig ar ei ysgwydd gref,
Yn y man lle mae yn pwyso,
Daear gron ag uchder nef.
Ni ddianghasom tan dy gysgod,
Tan dy aden dawel wiw,
Yno cedwaist ni'n ddiogel,
Fel y iar o ddeutu ei chiw;
Ni appeliwn attat heddyw,
Mai tydi yn unig yw
Ein diogelwch ynmhob stormydd,
Attat rhedwn ni, ein Duw.
Ac 'rym ninau bron a meddwl
Y bydd anthem braf maes law,
Am y waredigaeth gafwyd,
Heb un arf ac heb un llaw;
Dim ond rhyw anfeidrol allu
A ymladdodd ar ein rhan,
Ac fe'u rhwymwyd fel na's gall'sent
Fudo mymryn bach o'r fan.
Ond meddyliaf mae y soldiers,
Ag oedd yn y frwydr hon,
Wedi ymgasglu ynghyd, oedd teulu,
Nef y nefoedd oll o'r bron:
Michael, a'i angylion cyflym,
Ydoedd yn y frwydr fawr,
I wrth'nebu'r ddraig a'i milwyr,
Ac i'w taflu oll i lawr.
Ein henaid a ddihangodd,
Fel rhyw dderyn bachi ma's,
Maes o rwydau yr adarwr,
Yr hen ddiafol cyfrwys câs;
Do, fe dorodd fil o faglau
Ag oedd am ein henaid gwan,
Ninau a ddianghasom ymaith,
Tan dy gysgod yn y fan.
Mewn cryn ysbaid ar ol hyn (nid ydyw yr amser pennodol yn hysbys) symudodd o breswylfod ei rieni i le a elwir Brynhenllan, rhwng Tref-draeth ac Abergwaun, i gadw ysgol. Yn y rhan flaenaf o'i arosiad yno, nid ydym yn gwybod am ddim neillduol teilwng o sylw, oddieithr i ni grybwyll digwyddiad tra chyffrous, yr hwn a achlysurodd ofid nid bychan i'w deulu. Rhyw fenyw ddichell-ddrwg oedd yn arfer crwydro ar hyd y wlad, o dra drygioni, a alwodd yn nhŷ ei rieni, gan dystio, a threm alarus, fod eu mhab yn glaf iawn ar drancedigaeth, os nad wedi marw. Cychwynodd yr hen bobl yn y fan, mewn pryder a thristwch dirfawr, i fyned ato, ac, wedi teithio trwy gydol y nos, cyrhaeddasant ben eu taith, mewn llawn ddysgwyliad i weled dim ond corph difywyd eu plentyn. Hawddach dirnad na darlunio y teimladau amrywiol ac angerddol—syndod, gorfoledd, a phetrusder—a gynhyrfai yn eu mynwes pan welsant eu bachgen yn dyfod ei hun i'w cyfarfod, mewn cyflawn fwynhad o'i iechyd cynefin. Ymddangosai iddynt fel pe buasent wedi ei dderbyn drachefn oddi wrth y meirw, "o ba le y cawsant ef hefyd mewn cyffelybiaeth." Syrthiodd ei fam ar ei wddf, gan ei gofleidio, a'i gusanu, ac edrych arno yn wyllt a gorphwyllog, gofynai drachefn a thrachefn, "Ai Eben wyt ti?”
Ond nid yn hir ar ol hyn, a thra yr oedd yn cartrefu yn yr un lle, daeth i ben yr amgylchiad mwyaf nodedig a difrifol yn ei holl fywyd, pa un a'i ystyriwn hynodrwydd ei natur, neu helaethrwydd ei ganlyniadau. Yr ydym yn cyfeirio yma at yr argyhoeddiad dygn ac anarferol a ruthrodd oddeutu yr amser hwn fel tymhestl danllyd tros ei ysbryd, nes iddo yn mron ddifa ei nerth a'i synwyr. Nid yw yr achos enwedigol o'r cyffroad hwn yn adnabyddus i ni yn bresenol, ond pa fodd bynag am hyny, mor llym a dychrynllyd ydoedd, fel y gorfu arno roddi i fynu ei alwedigaeth, a dychwelyd adref at ei rieni, lle y bu am ryw gymaint o amser, yn crwydro ar ymylau anobaith. Mewn perthynas i'w deimladau ar y noswaith olaf o'r gwewyr poenus hwn, dywed mewn un o'i ysgrifenadau boreuol, nawr ger ein bron.
Gorphenaf laf, 1801.—Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mae ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn arno byth." Bu am dymmor yn ymdrechu mewn ing dirfawr i ddystewi gofynion deddf Duw, trwy osod i fynu ei gyfiawnder ei hun, mewn ymprydiau, gweddiau, a phenydiau poenus, ddydd a nos. I'r dyben o gyflawni hyn yn fwy perffaith, ymneillduai o gymdeithas ei gyfeillion, a chauai ei hun i fynu yn ei ystafell, neu yn addol-dŷ y lle. Ond ar y noswaith y cyfeiria efe ati yn y sylw-nod uchod, torodd y wawr ar ei enaid, trwy iddo gael golwg ddisymmwth o drefn yr efengyl yn Heb. vii. 25. "Am hyny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachâu yrhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Byddai efe ei hun yn arferol, yn ol llaw, o rybuddio ereill rhag coleddi dymuniadau rhyfygus, am ryw argyhoeddiad hynod ac echryslon. "Gwnaethum i felly," ebe fe," a chefais fy neisyfiad yn wir, ond dyoddefais tano loesion ac arteithiau, na ewllysiwn weled ci na sarph byth yn dyoddef eu bath."
Ar ol i'r rhyferthwy hwn fyned trosodd, dychwelodd drachefn i Bryn-henllan yn ddŷn newydd, a buan y daeth hynodrwydd ei ddoniau a'i dduwioldeb yn amlwg i bawb. Gellir dwyn i mewn yma yr hyn a ddywed cyfaill caredig, mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrtho. "Yr amser cyntaf yr adnabyddais eich tad oedd pan y preswyliai yn Dinas (neu Bryn-henllan), ac oddi ar yr hyn a adroddodd yno mewn cymdeithas neillduol, am ei brofiad crefyddol, teimlais byth wedi hyny y parch mwyaf diffuant iddo fel Cristion gwirioneddol. Cyfarfyddais ag ef yn fynych ar ol hyny yn eglwys Nevern, lle y cyrchai efe yn aml, yn enwedig suliau y cymundeb. Yr wyf yn cofio un tro neillduol, pan wrth fwrdd yr Arglwydd yno, fod ei feddwl wedi ei ddyrchafu mewn modd hynod wrth syllu ar farwolaeth ei Iachawdwr. Yr wyf yn cofio y geiriau a ganai efe, gan eu mynychu drachefn a thrachefn, {{center block|
"Swm ein dyled mawr fe'i talodd,
Ac a groesodd filiau'r nef."
Wedi hyn byddai arferol ar gais cyfeillion crefyddol y lle o ddechreu yr odfaon trwy ddarllen a gweddio o flaen rhai o'r gweinidogion dyeithr a ymwelent a'r eglwys yno, ac mor hynod mewn nerth ac ysbrydolrwydd oedd ei ymdrechiadau fel y synai pawb ar a'i clywsent ef. "Yr wyf yn cofio," medd y gweinidog parchedig a goffawyd o'r blaen, "y byddai llefarwyr yn arfer sôn am dano wrth fy nhad, pan ydoedd yn cadw ysgol yn Bryn-henllan, gan sylwi am dano wedi ei glywed yn gweddio, fel y dywedwyd am Ioan Fedyddiwr, "Beth fydd y bachgen hwn?"