Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen VII

Pen VI Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen VIII

PEN. VII.

Ei ymweliad cyntaf i'r brif-ddinas—Pigion helaeth o Ddydd-lyfr a gadwai tra yn aros yn Llundain—Llythyr at eglwys Llangeitho—Marwolaeth ei dad-yn-nghyfraith—Marwolaeth ei fam—Llythyrau ato ef oddiwrth y Parch. David Evans, Aberayron.

YN y flwyddyn 1818, ymwelodd am y tro cyntaf a'r brif-ddinas, i weinidogaethu yn mhlith ei gydwladwyr, perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yno; a chan ei fod wedi cadw dydd-lyfr tra chyflawn, am yr amser y bu yn Llundain, rhoddwn y pigion canlynol o hono ger bron ein darllenwyr, lle y canfyddir ei awydd cryf a’i ddiwydrwydd cyson, i ddefnyddio y cyfleusderau oedd o fewn ei gyrhaedd, i wneuthur ei hun yn adnabyddus âg holl amgylchiadau y byd crefyddol yn gyffredin. Geilw ef

DYDD-LYFR,

Neu hanes gywir a manwl o fy nhaith gyntaf i Lundain; fy arosiad yno, a'm dychweliad oddiyno adref; yn cynnwys cofnodau o'r pethau mwyaf hynod a gymerodd le yn mhob diwrnod.

"Mawrth, Iau, 16, 1818. . . . Daeth Mr. Owen Williams i'm cyfarfod i'r dyben o`m harwain i Hoxton Academy; bum am oriau gydag ef yn ei lyfr-gell; yna cefais y fraint o wrando Dr. Collyer yn pregethu yn nghapel Hoxton. Ei destun ydoedd Rhuf. x. 9. Deallais ei fod yn pregethu pur efengyl, a gorfoleddais yn fawr. Gwr o ddoniau mawr i draddodi ei feddwl, mewn iaith oruchel a manwl. ***** Sad. 28. Treuliais y prydnawn yn fy myfyrgell, ond och mor grwydredig fy meddyliau, mor wasgaredig, ac mor anhawdd eu cael at bethau ysbrydol! Gwelais bod mor anhawdd myfyrio yn y 'stafell ac ar yr heol, heb neillduol gynnorthwy. ***** Ebrill, Iau, 1. Yn y prydnawn aethum i Gapel Guildford Street, lle yr oedd cangen o'r Gymdeithas Feiblaidd Gynnorthwyol yn mysg y Cymru yn cyfarfod. Yma yr oedd un Mr. Davies yn y gadair, a llefarodd amryw ar yr achos yn Gymraeg a Saesoneg, ac yn eu mysg llefarais inau ychydig ar y modd mae i ni ddangos parch gwirioneddol i'r datguddiad dwyfol. Teimlais hwylusdra i ryw raddau yn y gwaith, a bu yn dda genyf fod yno. ***** 4. . . . .Aethum heddyw i weled y rhyfedd-beth hynod hwnw yn Leicester Square, sef darluniad o frwydr Waterloo yn y Panorama yno; ni welais ddim erioed i gystadlu ag ef; fe'm mawr synwyd wrth edrych arno, a meddyliais os oedd y creadur mor gywrain, pa beth oedd y Creawdwr? . . . . Treuliais y prydnawn i gyd oll yn fy myfyrgell, gan ymdrechu, trwy weddi a myfyr, i ymbarotoi ar gyfer y Sabbath oedd yn dyfod. ***** 5. Dyma'r trydydd Sabbath wedi gwawrio arnaf yn Llundain. Aethum gyda ychydig o'm cyfeillion i gapel bychan yn y Borough; yna llefarais oddiwrth Salm xlviii. 18. Holais yr ysgol, a chyfrenais yr Epistolau at y Rhufeiniaid a'r Hebreaid i'w dysgu. Yma cawsom gyfarfod gwerthfawr. Aethom oddi yma, a, chan fod amser yn caniatau, daethom i Gapel Surrey i wrando y Parch. Rowland Hill, a chawsom ei bregeth ef i gyd oll. Dychwel'som i Wilderness Row mewn cerbyd. Yn y prydnawn ymdrechais lefaru gair ar eiriolaeth Crist. Teimlais drymder mawr ar natur. Bedyddiais ddau blentyn ar y diwedd. Ar ol gorphwys ychydig, daeth odfa'r hwyr, a soniais am ogoniant Breniniaeth Crist. Profais radd o eangiad yn y gwaith. Yn y gymdeithas ddirgel derbyniwyd un wrthgil-wraig, merch ieuanc. Felly terfynodd y Sabbath gwerthfawr hwn, ar ol i mi gael bod bedair gwaith yn nhŷ Dduw, yn dysgwyl wrtho, a gobeithio y gallaf ddywedyd nad yn ofer. Bydded y mawl i'r Arglwydd, a'r llwch i minau.

6. Yn yr hwyr cadwyd cymdeithas ddirgel yn W. R., yn yr hon yr ymddiddanwyd â dau berson ag oeddynt yn cynnyg eu hunain yn aelodau—un ydoedd wrthgil-wraig o'r wlad, a dyn ieuanc arall, dan raddau go fawr o argyhoeddiadau. Fel hyn terfynais y dydd hwn yn nhŷ Dduw, lle y dymunwn derfynu dyddiau mywyd.

7. Aethum y boreu hwn i eglwys Bartholomeus i wrando'r hen wr Mr. Wilkinson. Pregethodd oddiwrth Matt. xxviii. 19, 20, yn rhagorol o werthfawr; ar ffurf bedydd yr arosodd yn benaf. Gwrandewais ef gyda llawer iawn o hyfrydwch, a theimlais ddiolchgarwch nid bychan am gael y fraint. ***** 11. Aethum heddyw i synagog yr Iuddewon, lle yr oedd llawer o ugeiniau o honynt yn addoli; y cwbl yn wag a hollol ddisylwedd: nid rhyfedd wrth ystyried eu bod tan y llen hyd y dydd hwn. Dychwelais trwy'r Royal Exchange, y Bank of England, a St. Paul's; yma gwelais bethau tra rhyfedd, sef yn mhob un o'r lleoedd uchod: yn R. E. gwelais yr ysgrifenlaw gywreiniaf yn y byd; yn y llall gwelais drafod arian fel trafod ceryg; yn y trydydd gwelais gywreinrwydd mwyaf y celfyddydau. ***** 13. Treuliais y boreu hwn i ysgrifenu llythyrau at fy nghyfeillion yn y wlad. Ysgrifenais at y Gymdeithas yn Nghapel Gwynfil, &c. Derbyniais hefyd lythyr oddiwrth y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, mewn ffordd o atebiad i'r un a anfonais i ato ef; bu yn llawen iawn genyf ei gael. . . . Yn yr hwyr aethum i Jewin Street Chapel, i gyfarfod cymwynasgar i'r tlodion, lle yr oedd Dr. Collyer yn y gadair. Ni welais gyfarfod hyfrydach yn fy mywyd. Mawl i Dduw am gael bod ynddo!

14. Treuliais y boreu hwn gartref i ddarllen ac i ysgrifenu. Yna aethum ymaith gyda'r cerbyd i Greenwich a Woolwich. Yma ymdrechais lefaru am y sylfaen a osodwyd yn Seion. Cawsom gymdeithas neillduol, lle'r ymddiddenais â thri o'r brodyr. Annogais hwy i godi Ysgol Sabbothawl; i hyn cefais fwy o wrthwynebiad oddiwrth yr enw blaenor oedd yno na neb arall: fath beth gwael yw'r cyfryw heb zel a gostyngeiddrwydd. Gwelais fod pob gwaeledd yn rhwym o oresgyn yr eglwysi hyny sydd ag iddynt y fath flaenoriaid. O am ras cyfaddas i'r lle y galwodd Duw ni iddo, fel na byddom yn rhwystr i'r gwaith! ***** 16. Aethum y boreu hwn i dŷ yn Old Jewry, lle y mae yr ystafelloedd cenadwriaethol. Gwelais yma ryfedd-bethau a chywrein—waith o Africa, Asia, ac America, yn nghyd ag amryw greaduriaid, neu eu crwyn wedi eu llanw. Yma boddhawyd fy meddwl âg agos bob golwg a welais. Yn yr hwyr aethum i gyfarfod Beiblau yn Deptford: llefarodd yn nghylch pedwar-ar-ddeg i gyd. Cafwyd llawer o dangnefedd a chariad yn y cyfarfod.

17. . . . . Yn yr hwyr cynnygiais lefaru ar weddio yn ddibaid. Teimlais lawer iawn o ryddid a hyfdra meddwl; mi debygwn na byddai yn rhyfyg i mi feddwl i'r Arglwydd ganiatau dwyfol gymhorth yn y cyfarfod hwn. Bendigedig a fyddo ei enw mawr a rhyfedd, am ei fawr diriondeb i lwch mor wael! ***** 21. Treuliais y boreu hwn yn fy myfyr-gell; ysgrifenais at fy anwyl frawd, Ebenezer Morris, ac ychydig o bethau ereill. . . . . Yn yr hwyr aethum i Gapel Wilderness Row, lle yr oedd cyfarfod gan y Saeson yn achos y Feibl Gymdeithas, a Dr. Collyer yn y gadair. Trodd hwn allan yn gyfarfod tra gwerthfawr. Llefarodd yma lawer iawn ar yr achos, gyda llawer iawn o ddoniau areithyddol, ac ymddangosodd pethau tra rhyfedd yn wyneb yr areithiau. Terfynwyd trwy araeth gan y cadeiriwr.

22. Y boreu hwn, ar ol treulio amryw oriau yn fy myfyr-gell, aethum i Bedford Chapel, i wrando y Parchedig Daniel Wilson, a chefais bregeth o efengyl oddiwrth Jer. xxxi. 31-34; y gair olaf yn benaf, sef maddeuant pechod. Pregethodd yn dda odiacth, ac yn dra eglur a goleu. Yn yr hwyr, aethum i Dŷ'r Cyffredin (House of Commons) yn y senedd, lle y gwelais ryfeddodau, ac y clywais areithiau dawnus a hyawdl gan Mr. Wilberforce, Mr. Goulding, Mr. Grant, Sir Robert Peel, Sir Samuel Romilly, Sir James Macintosh, Mr. Marryatt, Mr. Brown, Mr. Smith, General Thornton, ac ereill. Arosais nes yr ydoedd wedi un-ar-ddeg o'r nos, yna dychwelais mewn cerbyd adref. ***** 24. . . . . Eisteddais yn y prydnawn i gael tynu fy llun; meddyliais am eiriau'r duwiol Hervey ar yr un achos, mae cysgod o gysgod oedd. . . . Yn yr hwyr, cynnygiais lefaru ychydig oddiwrth Col. iii. 11, sef mae Crist yw yr oll yn ein iachawdwriaeth ni. Teimlais raddau mawr o ryddid yn y gwaith. Bu fy meddwl yn dra hyfryd y tro presennol. Teimlais ei bod mor hawdd pregethu ag anadlu, pan y byddai'r Arglwydd yn gwenu. ***** Mai 1. Aethum y boreu i wrando Dr. Adam Clarke yn pregethu pregeth genhadol. Ei destun oedd, "Arglwydd y Lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd," &c. Dywedodd lawer o bethau da iawn. Ei ddull yn weddus, a'i alluoedd fel pregethwr oedd fawr. Wedi hyny i Freemason's Hall i gyfarfod yn achos y National School. Yma yr oedd y Dug o York, ac yn nghylch pymtheg o esgobion, heblaw arglwyddi ereill. Deallais i Archesgob Canterbury a York, Esgob Llundain, Arglwydd Harrowby, Sir T. Ackland, Wm. Wilberforce, Ysw., Arglwydd Kenyon, Sir Robert Peel, a rhai ereill, lefaru. Daethum adref yn y prydnawn i ymbarotoi erbyn y gwaith cyhoedd. Cynnygiais lefaru ychydig ar gnawdoliaeth Crist, a theimlais fod y son am dano yn adnewyddol felus: bu yn dda genyf gael yr odfa: llawer yn nghyd.

4. Cyfodais heddyw yn hytrach cyn pump; rhodiais allan ychydig, a dychwelais at fy moreufwyd. Wedi hyny aethum gyda chyfaill i'r Capel-ar-Nawf, (Floating Chapel,) can yr heddyw yr agorwyd ef i bregethu ynddo gyntaf. Yn y boreu pregethodd y Parch. Mr. Hill oddiwrth Gen. viii. 9, "Ac ni chafodd y golomen orphwysfa i wadn ei throed." Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog, a'r cyfarfod yn hyfryd iawn. Casglwyd at gynnal yr achos £80. Ymadawodd y gynnulleidfa heb neb yn cael dim niweid ar a glywais. Dychwelasom drachefn erbyn tri o'r gloch i'r Capel-ar-Nawf, lle y pregethodd y Parch. Mr. Roberts, o Friste, oddiwrth Titus ii. 11, 12. Nid wyf yn cofio yn fynych am y fath bregeth erioed. Dangosodd, I. Drueni morwyr yn eu meddwdod-tyngu, anlladrwydd, a dirmyg rhyfygus ar angau. II. Addasrwydd gras Duw, sef yr efengyl, ar eu cyfer. III. Rhwymedigaethau eglwys Duw i ymdrech ar eu rhan. O mor fywiog, nerthol, ac addas y llefarodd; ond yr oedd ei iaith yn uchel. Effeithiodd ei araeth efengylaidd ar y dyrfa, a chasglwyd £48 yn ychwaneg.

5. Dyma foreu hyfryd-yr hin yn deg odiaeth. Aethum heddyw i St. Anne, Blackfriars, lle yr oedd Professor Farish i bregethu yn mhlaid y Church Missionary Society, a phregethodd oddiwrth Luc xi. 2; i'm tyb i, yn dra rhagorol a da. Yma cyfarfum a'm cyfaill Owen Williams, ac aethom yn nghyd tua Freemason's Hall, lle'r oedd y gymdeithas yn cynnal ei chyfarfod blynyddol. Yma yr oedd Arglwydd Gambier yn y gadair. Ar ol darllen hanes gweithrediadau'r gymdeithas am y flwyddyn a aeth heibio, gan y Parch. Mr. Pratt, llefarodd y gwŷr canlynol ar yr achos —J. Thornton, Ysw., Esgob Caerloyw, —— Stevens, Ysw., Esgob Norwich, W. Wilberforce, Ysw., Admiral Sir—— Dr. Thorpe, &c.

6. Dyma foreu yr ydwyf wedi bod yn hiraethu er ys blynyddau am ei weled, sef Cyfarfod Blynyddol y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Cymerodd rhai cyfeillion eu boreufwyd gyda ni; yna aethom yn nghyd i Freemason's Hall, ar ol yn gyntaf lenwi'r llogellau yn dra llwythog. Bu y tocynau yn werthfawr i ni heddyw; cawsom le tra chyfleus. Yma gwelais Mr. Griffiths, Hawen, &c. yn y gymanfa. Am 12, daeth y gwir anrhydeddus gadeiriwr, Arglwydd Gambier, yn mlaen, a llefarodd ychydig wrth gymeryd y gadair yn weddus ac yn hyfryd iawn. Darllenwyd gweithrediadau'r gymdeithas am y flwyddyn a aeth heibio gan y Parch. Mr. Deltry. Yna llefarodd y gwŷr canlynol:-canghellwr y drysorfa, Esgob Cloyne, y cenadwr Americanaidd, Iarll Harrowby, Arglwydd Teignmouth, y Llyngeswr Sir James Saumarez, Mr. Wardlaw o Glasgow, Esgob Norwich, Esgob Caerloyw, Parch. Robert Newton, cenadwr, Prince Hesse Homberg, Sir Thomas Ackland, Dr. Henderson o Russia, J. Thornton, Ysw., Esgob Derry, W. Wilberforce, Ysw., y Parch. J. Owen, Professor Farish, &c.: ac felly terfynodd y cyfarfod enwog hwn.

7. Gwrandewais y boreu heddyw un Mr. Cooper, yn Christ Church, Newgate Street. Ei destun oedd Heb. xiii. 9, rhan gyntaf. Ei fater oedd dangos gwerth y llyfr gweddi cyffredin a homiliau, gan eu bod yn gadwraeth rhag athrawiaethau amryw a dyeithr, &c. Yn y prydnawn aethum gyda fy nghyfaill Mr. O. W. i Hoxton, lle y cefais y fraint fawr o wrando'r Parch. Mr. Wardlaw, o Glasgow. Ei destun oedd 1 Tim. i. 15. Dyma wir a phur efengyl; ac fel y sylwodd un gwr boneddig wrth ddyfod allan, yn ngeiriau Dr. Simpson, "Yr oedd yma bwysau da."

8. Bum yn fy myfyrgell yn ysgrifenu hyd ddeg o'r gloch; aethum wedi hyny i St. Paul's, Covent Garden, i wrando Mr. Simeon yn pregethu dros y Gymdeithas i daenu Crist'nogrwydd yn mhlith yr Iuddewon. Ei destun oedd Ezec. xxxvii. a'r chwech adnod gyntaf. Oddiwrth hyn dangosodd, yn I. Gyflwr presennol yr Iuddewon. II. Dyledswydd Cristionogion tuag atynt. Ac yn III. Yr annogaethau i hyny. Pregeth ragorol ar yr achos! Wedi ciniaw daethom i Freemason's Hall i gyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod, lle yr oedd Sir Thomas Baring yn y gadair, a chlywsom y gwŷr canlynol yn llefaru: Darllenodd Mr. Hawtry y Report; yna gwnaeth y Parch. Basil Wood araeth, a dygodd ddau-ar-bymtheg-ar-hugain o blant i'r areithfa, y rhai yn hyfryd iawn a ganasant, "Canys bachgen a aned i ni," &c. yn Hebraeg, a "Hosanna i Fab Dafydd," yn Saesoneg. Yna tynasant yn ol, bob yn un ac un, a llefarodd Esgob Gloucester ar yr achos, a darllenodd Basil Wood, ar ei ddeisyfiad ef, rai annodau ar gân o gyfansoddiad Iuddew Germanaidd. Yna cyfododd Admiral Sir James Saumarez ar ei ol ef yn hyglod, W. Wilberforce, Ysw., Parch. J. Owen, ac ereill.

***** "11. Aethum y boreu hwn i Guildford Street i gymanfa'r Anymddibynwyr, lle llefarodd Ebenezer Jones yn Saesoneg, a minau yn Gymraeg; ni'm gadawyd yma, diolch! Yna dychwelais gydag O. W. i dŷ Mr. Roberts, Brick Lane, i giniaw. Yma cefais gyfarfod â'r Parch. Matthew Wilks, a threuliais ran o'r prydnawn gydag ef, ond nid oeddwn yn cyd-olygu âg ef am athrawiaeth maboliaeth Crist. Wedi iddo ef ein gadael, aethom yn nghyd, O. W. a minau, i'r Babell (Tabernacle,) lle y clywsom bregeth tra rhagorol gan un Mr. Warr, o Cheshunt; pregeth o bur efengyl; pechadur yn ddim, a gras yn bob peth. Fe'm llonwyd yn fawr yn yr odfa hon, ac aethum i'm ffordd yn llawen, fel un wedi cael ysglyfaeth. ***** "13. Aethum y boreu heddyw i Gapel Surrey, lle yn rhagluniaethol iawn y cefais le i eistedd heb braidd ei ddysgwyl. Ar ol i'r Parch. Mr. Hill ddarllen y gwasanaeth, pregethodd y dyn anwyl hwnw o Glasgow, Mr. Wardlaw, oddiwrth Act. xvii. 16. O mor bwysig, O mor rhagorol oedd! Dychwelais i giniaw, ac, heb hir oedi, aethom i'r Babell, ond yr oedd y lle yn fwy na llawn, a methais ond prin gwthio i mewn. Yma pregethodd y Parch. Mr. Cooper, o Ddublin, oddiwrth Esaia xlii. 6, 7; a phregethodd un arall o'r tu allan ar unwaith ag ef, oherwydd lluosogrwydd y dorf; dwy bregeth ragorol, ond rhaid rhoddi'r flaenoriaeth i'r gyntaf: nid oedd y llall yn ateb i ddysgwyliadau neb.

14. Aethum erbyn chwech y boreu hwn i'r City of London Tavern, lle yr oedd cyfarfod blynyddol y Tract Society, Joseph Reyner, Ysw., yn y gadair. Darllenodd Pellatt, Ysw., yr hanes flynyddol, a llefarodd y gwŷr canlynol ar yr achos: H. Marten, Ysw., Parch. Meist. Waller, Leigh Richmond, Dr. Henderson, Wardlaw, Saunders, H. F. Burder, &c. Yr oedd hwn yn ddiau yn gyfarfod tra rhagorol. Dychwelais gyda brys i Spa Fields, lle'r oedd y Gymdeithas Genhadawl yn cadw ei chyfarfod blynyddol; T. A. Hankey, Ysw., y trysorwr, yn y gadair. Darllenwyd yr hanes gan y Parch. G. Burder a'i fab; yna llefarodd y gwŷr canlynol: Dr. Bogue, Mr. Wardlaw, Mr. Wray, Dr. Henderson, Mr. Bunting, (Wesleyad,) J. Wilks, Ysw., &c.

15. Aethum am chwech i gymeryd boreu-fwyd yn City of London Tavern, lle yr oedd yr Hibernian Society yn cyfarfod; Samuel Mills, Ysw., yn y gadair. Darllenodd ef yr hanesiaeth, yna llefarodd y gwŷr canlynol: T. Haldane, Ysw., Parch. Leigh Richmond, —— Stevens, Ysw., Mr. Wardlaw, Dr. Thorpe, ac ereill. Bu hwn yn gyfarfod gwerthfawr iawn. Aethom, sef O. W. a minau, yn y prydnawn i Gapel Sion, lle yr oedd gwerin fawr wedi ymgasglu i gydgymuno. Dr. Bogue wrth y bwrdd. Yma rhaid i mi addef nad oeddwn yn gweled dim mawredd ar y gwaith; yr oedd yn ymddangos i mi yn gnawdol a gwael.

16. Aethum y boreu hwn i Albion Tavern, Aldersgate Street, i gyfarfod blynyddol y Gymdeithas er Amddiffyn Rhyddid Gwladol a Chrefyddol, (The Society for the Protection of Civil and Religious Liberty;) Dug o Sussex yn y gadair. Lefarodd J. Wilks, Ysw., ar yr achos, a Dr. Bogue, Mr. Townsend, Mr. Hill, Mr. Wilson, Alderman Wood, ac amryw ereill. ***** 20. Cymerais foreu-fwyd gyda y Parch. Mr. Howells; daeth yn fwyn iawn i fy ngheisio. Aethum gydag ef i alw ar Mr. Hill; ni chefais ef gartref, am hyny dychwelais yn fuan. . . . . Yn yr hwyr traddodais fy nghenadwri am y tro olaf yn Wilderness Row; y testun oedd Dat. xxii. 21. Daeth cynnulleidfa anarferol yn nghyd, a chefais raddau anarferol o ryddid yn y gwaith. Teimlais fy meddwl yn dra diolchgar am y nodded, y tiriondeb, y rhyddid, a'r hynawsedd a gefais oddiwrth Dduw a dynion. Treuliais lawer o fy amser i ffarwelio a fy anwyl gyfeillion a'm cydnabod y Cymry."

Yn ysbaid ei arosiad y tro hwn yn Llundain, bu yn bresennol mewn un-ar-hugain o gyfarfodydd cyhoeddus, a gwrandawodd chwech-ar-hugain o bregethau yn yr iaith Saesoneg.

Tra yn y brif-ddinas, yn ol taer ddeisyfiad eglwys Llangeitho, ysgrifenodd atynt lythyr: rhan o hono yn unig sydd ar gael yn bresennol.

Llundain, Ebrill 13, 1818.

At holl aelodau'r Gymdeithas arferol o ymgynnull yn enw'r Arglwydd yn Nghapel Gwynfil.

"ANWYL FRODYR A CHWIORYDD YN YR EFENGYL,

Nid anghof o honoch, ac nid anffyddlondeb i'm haddewid, ydyw yr achos na buaswn wedi ysgrifenu atoch cyn hyn, ond diffyg amser a chyfleusdra. Mewn perthynas i'r gwaith yn y ddinas fawr hon, yn mhlith ein cydgenedl y Cymry, mae yma dorfeydd mawrion yn ymgynnull, cannoedd lawer ar unwaith bob Sabbath, a'r gwrando yn astud a hardd. Mae yma gynnulleidfa fawr o aelodau proffesedig, mewn cyfammod eglwysig a'u gilydd yn yr Arglwydd; llawer o sancteiddrwydd a heddwch yn mhlith y brodyr, a theyrnas Iesu yn ennill tir. Yr ydwyf yn hyderu y gallaf ddywedyd heb wag-ymffrost fod yr hyfrydwch a'r rhyddid yr ydwyf yn ei fwynhau yn ngwaith yr Arglwydd, yn peri i mi ar brydiau fod yn ddiedifeiriol am gefnu ar fy anwyl berthynasau a'm cyfeillion hoff yn Nghymru, a dyfod i'r lle hwn; gadawaf y canlyniad i'r Arglwydd y llafur sydd i mi, a'r llwydd, y clod, a'r gogoniant iddo yntau. Frodyr caredig, y mae dau beth ag sydd o'r gwerth a'r pwys mwyaf i bob cangen o eglwys Crist ar fy meddwl, sef sancteiddrwydd a heddwch; am hyny y cynghora yr Apostol at yr Hebreaid, ‹ Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd.'

"Ond yn 1af, Am sancteiddrwydd. Mae hwn, fel y dywed y Salmydd, yn gweddu i dŷ'r Arglwydd byth; ac, os yw yn weddus ei fod, pa mor anweddus yw bod hebddo! Nid oes dim yn wir yn gweddu i'r tŷ hwn ond sancteiddrwydd: gwarthruddo y tŷ mae pob peth croes i hyn. Mae perchen a phennaeth y tŷ yn sanctaidd, yn hanfodol, yn hollol a thragywyddol sanctaidd; mae holl waith y tŷ yn sanctaidd, ac y mae holl gyfreithiau y tŷ hwn yn berffaith sanctaidd. Mae sancteiddrwydd yn gweddu i'r pregethwr yn y pulpit, ac i'r gwrandawyr tano. Mae yn gweddu i'r plant, y gwŷr ieuainc, a'r tadau. Mae yn gweddu nid yn unig yn y tŷ, ond i'r tŷ, pa le bynag y byddom, a pha beth bynag a wnelom; ac nid yn unig yr oedd yn gweddu gynt, ond y mae yn gweddu yn bresennol, ac fe fydd yn gweddu byth. Tŷ Brenin yw hwn, fy mrodyr, a dyma'r lifrau a berthyn i weision y Brenin, sef sancteiddrwydd, sancteiddrwydd yn egwyddorol yn y galon ac yn ymarferol yn y bywyd; am hyny bydded yr argraff hon arnoch oll, Sancteiddrwydd i'r Arglwydd. "2il. Heddwch, heddwch fyddo o fewn dy rag-fûr di, Llangeitho."

"Hyd yma," medd y cyfaill caredig, a'i danfonodd i ni, "y mae ar gael, er ein cywilydd a'n colled." Yn mhen ychydig amser ar ol ei ddychweliad o Lundain, bu farw ei dad-yn-nghyfraith, Mr. William Williams o Dregaron, yr hwn er priodas Mr. Richard a fu yn byw yn ei deulu ef. Dygwyddodd hyn o fewn ychydig ddyddiau ar ol marwolaeth un o'i blant, baban ieuanc, yr hwn a fu farw yn mhen ychydig oriau ar ol ei enedigaeth. Wrth goffâu yr amgylchiadau hyn mewn cof-lyfr a gedwid ganddo, ac a alwai "The Family Register," dywed ar yr 8fed o Awst fel y canlyn:—Ar ol desgrifio arwyddion afiechyd ei dad-yn-nghyfraith am amryw ddyddiau yn flaenorol, ysgrifena, "Y boreu heddyw, am saith o'r gloch, efe a'n gadawodd ni am fyd arall a gwell. Heddychol yn ei fywyd, felly hefyd yr oedd yn ei farwolaeth: nid oedd ganddo ddim i'w wneuthur ond marw, oblegid gan ei fod wedi ei gyfiawnhau trwy ffydd, yr oedd ganddo heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.' Fel hyn, mewn llai na bythefnos, ymwelodd angeu ddwy waith â'n teulu bychan, a chymerodd yr ieuangaf a'r hynaf, yr hên-wr a'r baban;' y naill oddeutu tair awr a hanner, a'r llall yn cyfrif 86 o flynyddau." Ar y 23ain o'r un mis, derbyniodd hefyd y newydd galarus am farwolaeth ei fam, ac aeth i lawr yn ebrwydd i Drefin erbyn y claddedigaeth; "a dyma," medd efe, "un don drachefn, oblegid y mae wedi bod yn ddiweddar yn don ar don yn curo arnom. Heddyw (24) y cyflwynasom i'r bedd gorph marwol ein hanwyl fam, yn ymyl arch ein hanrhydeddus dad."

Dilys yw genym mae nid annerbyniol gan lawer fydd gweled yma y pigion canlynol o lythyrau a dderbyniodd oddiwrth y gwas ffyddlon hwnw i Grist, y Parch. David Evans, o Aberayron, yr hwn y mae ei goffadwriaeth yn barchus ac yn anwyl gan gannoedd hyd y dydd hwn.

Yr oedd yr ysgrifenydd y pryd hwnw yn gwasanaethu yn eglwys Gymraeg Wilderness Row, Llundain. Ymddengys fod yr eglwys yr amser hwnw yn dra helbulus a therfysglyd, oherwydd rhyw amgylchiadau anghysurus mewn perthynas i rai o'r aelodau, ac am hyny y mae rhai pethau yn cael eu crybwyll yn y llythyrau nad ydym yn barnu yn ddoeth eu gwneuthur yn gyhoedd.

Llundain, Medi 24ain, 1821.

ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,

"Mae yn dda genyf gael y cyfleusdra i'ch hannerch â'r ychydig linellau canlynol, gan obeithio y bydd iddynt eich cael chwi a'ch teulu yn iach; a, thrwy fawr drugaredd a thiriondeb yr Arglwydd, nid wyf finau ddim yn waeth fy iechyd na phan ddaethum oddi cartref. Mi fum yn bur wael yr wythnos gyntaf ar ol dyfod yma, ond yn awr, trwy drugaredd, yr wyf yn llawer gwell. Mi gefais gyfeillion siriol a charedig yn fy nerbyn pan ddaethum yma, er hyny trymaidd ac isel yw fy meddwl y rhan fwyaf o'r amser. Yr unig beth sydd radd yn cynnal fy meddwl gwan i fynu, yn ngwyneb pob tywydd, yw hyny, sef mae ar gais a dymuniad fy anwyl frodyr y daethum yma, a bod yr achos y daethum o'i herwydd yr achos mwyaf yn y byd; ac mi debygwn ambell funud mae y fraint fwyaf yn y byd yw cael bod gyda'r achos hwn. Nid oes genyf fawr i'w ddywedyd yn bresennol am amgylchiadau yr eglwys yn y lle hwn. Mae yma ryw bethau gofidus yn mron bob society er pan ddaethum yma. Ond yn nghanol y pethau gofidus hyn, yr ydym yn cael peth achos i lawenhau weithiau fod yr Arglwydd mawr yn gofalu am ei achos, oblegid y mae rhai yn troi eu hwyneb atom o newydd. Mae ofn a chryndod yn fy meddwl rhag i'r Arglwydd fy ngadael yn y lle hwn yn gwmwl tywyll a diddwfr. Cofiwch am danaf yn aml o flaen gorsedd gras. Yr ydwyf yn dymuno fy nghofio at y cyfarfod misol yn garedig, a dyma fy neisyfiad penaf ganddynt, sef, O frodyr, gweddiwch drosof.' Os gwelwch yn dda, cofiwch fi at gymdeithasau Tregaron a Llangeitho, ac at Mrs. Richard, a'r rhai bychain oll; a gobeithio y bydd i chwi feddwl am Ffos-y-ffin ben y mis nesaf. Nac anghofiwch ysgrifenu ataf; bydd yn dda iawn genyf glywed oddiwrthych, a chael pob hanes o'r wlad.

Ydwyf eich annheilwng frawd,

D. EVANS

Y llall oedd mewn ateb i lythyr a anfonasai Mr. Richard ato ef, yr hwn, y mae yn ddrwg genym, sydd wedi myned ar ddifancoll.

Llundain, Hydref 17eg, 1821.

FY ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,

Nis gallaf gael geiriau i osod allan y llawenydd a'r gorfoledd oedd genyf gael clywed oddiwrthych chwi a'ch teulu, a chael gwybod am amgylchiadau'r achos yn y wlad, yn nghyd a'r cynghorion gwerthfawr a buddiol a gefais. Teimlais fy ysbryd yn adfywio gronyn, a'm meddwl gwan yn cael ei gadarnhau a’i loni, yn ngwyneb mil o bethau sydd. ar fy llethu ynof fy hun, ac oddiwrth amgylchiadau ereill. . . . . Ni bu yn yr eglwys hon y fath bethau yn canlyn eu gilydd er ys llawer o flynyddau, a gobeithio na bydd mwy. Yr ydwyf yn wyneb yr holl bethau hyn yn mron llewygu a digaloni yn lân. Fy mrawd anwyl, cofiwch am danaf o flaen y drugareddfa, yn ngwyneb fy amgylchiadau cyfyng, yn y tònau garw, yn cael fy chwythu gan wyntoedd creulon. Mae hiraeth arnaf am i'r diwrnod ddyfod i fynu i gael troi fy ngwyneb tua ngwlad fy hun, at fy nheulu ac at fy anwyl gyfeillion. Nid wyf eto wedi prynu y llyfrau a nodasoch, ond byddaf yn sicr o wneud cyn ymadael, os ydynt i'w cael ym Llundain.

"Dymunaf fy nghofio yn y modd mwyaf caredig at bawb o'r brodyr, ac yn neillduol at eich anwyl gyd-mares, y plant oll, a'r ddwy Miss Evans o Argoed.

"Mae yr eglwys hon oll yn dymuno eu cofio yn garedig atoch.

Hyn yn fyr iawn oddiwrth eich brawd gwael, sydd o flaen y gwyntoedd gwrthwynebus,

DAVID EVANS.

Yn ystod y blynyddau hyn ganwyd iddo amryw blant, y rhai a fuont feirw yn ieuainc iawn, oddigerth dwy ferch, Mary a Hannah, y rhai ydynt fyw yn bresennol.

Nodiadau

golygu