Coeden Afalau Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Llan-y-Dŵr

ACTOR
(Lyn Joshua)

Milwr, morwr, tincer, teiliwr,
Rhyw goegyn ffôl, neu waeddwr ffair­—
Ni waeth beth fyddai, haeddai'r actor:
"Ardderchog, Lyn, bôi, gwych bob gair!"

Weithiau, llusgo tua'r stiwdio
Ac yn ei wedd y nos ddi-hun;
Cellwair, canu, actio, chwerthin,
A thwyllo pawb ond ef ei hun.

"Well, so long, boys" meddai'n siriol
Wrth droi un nos i'r gwynt a'r glaw:
Dim ond ef ei hun a wyddai
Nad actio 'r oedd wrth ysgwyd llaw.