Cân neu Ddwy/Hen Weinidog
← Steil | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Emyn → |
HEN WEINIDOG
Ni regodd fyd,
a welai weithiau fel pe’n stremp i gyd.
Ni chaeodd ef ei law
mewn sydyn orthrech braw
am chwip o eiriau pigog, llym,
er dyfod i'r gewynnau rym
rhyw ddicter dwyfol lawer gwaith ...
Edrychodd i'r blynyddoedd maith,
gan wybod yn ei galon fawr
y llithrai eto lewych gwawr
drwy'r niwl i gyd
ar dryblith byd.
Mae'n wir
na 'sgydwodd Gyrddau Mawr ar hyd y tir
ac na phesychodd ffordd i'r Cyngor Sir.
A phan aeth ef i'w olaf taith,
'd oedd neb o bwys yn ei angladd 'chwaith,
na dim ond nodyn digon tlawd
mewn papur newydd am barchus frawd
a ddaeth cyn pryd i ben ei rawd.
Ond gwn am rai ym Mryn-y-glo
a fuasai'n marw drosto fo.