Aderyn Branwen Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Y Di-waith

I FARDD

Pinwydd pell yn olaf aur yr hwyr,
Huodledd mud y maen a wybu'r cŷn,
Lôn yn Eifionnydd, hufen y traeth yng Ngŵyr,
Neu fwng y niwl ar benrhyn llwyd yn Llŷn,
Chwerthin plant, llonyddwch beddau ...
Ond pam nad aethost i'r cynadleddau
a dioddef curo o'r gwaed
cyn codi ar dy draed
i gynnig neu i eilio,
codi yn ddi-feth
i gynnig neu i eilio
'd oedd dim gwahaniaeth beth?

Drws agored ac arno fflam
O aelwyd gynnes gyda'r nos,
Llyn dan y lloer, rhyw ffŵl mewn ffos
Yn feddw gorn ...
Ond dyna, pam
na fedret tithau fforddio hwrdd
o is-bwyllgora ar ryw Fwrdd
a cherdded adref â'r gohebydd
gan gofio cofio'r darn o gywydd?

Llwybr yn wyn fel ffrwd drwy'r ffridd,
Dryslyd ddwylo rhyw henwr llwm,
Afonydd dyfroedd, aroglau hen y pridd,
Neu fysedd oer y gwynt hyd gern y cwm ...
Ond pan na ddeuai cân neu gywydd,
anghofiaist yrru i'r papur newydd
bwt o air yn cau dy ddwrn
a haeru bod y peth yn fwrn—
treuliau gwŷr y Cyngor Sir,

neu druenusrwydd radio'r tir,
neu rywbeth bach i ddeffro’r miloedd
a dwyn dy enw o flaen y cyhoedd.

Llygaid yn marw wrth wely gwaeledd,
Rhwd y rhedyn, hoen rhianedd
Ond ni fynychaist, ŵr anniddig,
seiadau moethus hyd Amwythig
a pham na welodd y dyrfa syn
esgud gam dy 'sgidiau gwyn?

Na hidia: fe ddaw dydd rhag blaen
y codir ar dy fedd aruthrol faen
o farmor gwyn,
a chyrch minteioedd war y bryn
i weld dy fwrdd a'th lyfrau a'th bin dur
a thorri eu henwau'n ddwfn ar lech y mur.

Cymer gysur:
fe ddaw'r gŵr prysur
o ganol holl drafferthion maer a moeth
i roi pesychiad hir, gofalus, doeth,
ac araith ddwys o dan dy fargod
a chadwyn aur yn sgleinio ar ei wasgod.
Ef a gyhoedda i'r byd yn hy,
cyn dadorchuddio'r dabled ar y tŷ,
na fu erioed, ond yn y Beibl hen,
hm ... fardd mor fawr mewn unrhyw lên,
ddim un, gyfeillion, na, dim un,
a naddodd eiriau'n harddach llun
o bob rhyw wên a phob ochenaid
a wybu ac a ŵyr ... hm ... enaid.

Â'r bys i gyfeiriad y marmor hardd,
Y llais a darana—"Wele fardd!"