Cadeiriau Enwog/Cadair Angel
← Cadair yr Aelwyd | Cadeiriau Enwog gan Robert David Rowland (Anthropos) |
→ |
CADAIR ANGEL
"Ar ei ol, cyfododd Robert Roberts. Yr oedd difrifoldeb ofnadwy ar ei wynebpryd. Darllenodd ei destyn. Ymddangosai ar y cyntaf braidd yn bryderus. Siaradai yn llai manwl nag y byddai yn arfer gwneyd. Yn raddol, y mae ei ddawn yn rhwyddhau, ei lais yn clirio, a'r olwg arno yn dyfod yn fwy-fwy difrifol. Y mae yn myned rhagddo, ac yn cymeryd gafael yn enaid yr holl gynulleidfa,—y mae rhai yn llewygu, y lleill yn gwaeddi, ac yntau a'i lais fel udgorn Duw yn treiddio drwy y lle. Ar hyn, neu rywbryd yn ystod yr oedfa, dyna y bachgen arall yn troi at Elías Parry, ac yn gofyn iddo, a'i wynebpryd yn welw fel corph marw,— Dyn ydi o, fachgen, ynte angel? Ond angel, fachgen, wyddet ti ddim? Na wyddwn i, yn wir; bobl anwyl, ond ydi angel yn well pregethwr o lawer na dyn!'"—O. Thomas, D.D.
"Fel angel yn rhodio dros fwa y cwmwl,
A'i fys yn cyfeirio yn union i'r nef,
A'i fantell fel boreu o aur ar y nifwl,
A nerthoedd y nefoedd i gyd wrth ei lef:
Fel hyny y rhodiai y pennaf areithydd
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed,
A coed i rychwantu y duon wybrennydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed."—Islwyn.
DRO yn ol, ymddangosodd hanes haf-daith i Glynnog mewn cyhoeddiad misol. Adolygwyd yr ysgrif gan henafgwr o Arfon, a dywedai ei fod wedi ei daro â syndod oherwydd nad oedd ynddi un crybwylliad am "Robert Roberts," y seraph-bregethwr a roddodd fawredd anniflanedig ar bentref tawel Clynnog. Yr oedd y sylw yn cynwys beirniadaeth deg, er mai pwrpas llenyddol yn fwyaf neillduol oedd i'r ysgrif. Ac eto nid "Clynnog" yr ymdeithydd damweiniol hwnnw ydoedd "Clynnog" Robert Roberts, yn ystyr fanwl y gair. Mae'n wir fod ei farwol ran yn gorwedd yn mynwent Beuno, ond treuliodd ei yrfa fer, hynodlawn, ar un o lechweddau y fro, yn y fangre wledig a adwaenir fel "Capel Uchaf;" ac yno y cedwir y relic sydd yn cael ei gyfleu mewn darlun gerbron y darllenydd ar y dalennau hyn,—
CADAIR ROBERT ROBERTS.
Cyn gwneyd dim sylw pellach ar y dodrefnyn oedranus, ond dyddorol hwn, manteisiol fyddai crybwyll ychydig o ffeithiau cysylltiedig â hanes y gŵr fu unwaith yn berchen y gadair,
a osododd y fath fri arni, fel y mae caredigionyr achos wedi ei chadw yn barchus er's yn agos i gan' mlynedd, er cof am dano. Ganwyd ef yn mis Medi, 1762, yn Ffridd-bala-deulyn, annedd ddiaddurn yn un o gymoedd Nantlle. Yr oedd yn un o dri-ar-ddeg o blant. Chwarelwr oedd ei dad, ac yn gynar iawn ar ei oes, gorfu i'r bachgen ddechreu ennill ei fywioliaeth yn nghloddfa y Cilgwyn. Cafodd hyfforddiant crefyddol da ar aelwyd ei nain, ond wedi tyfu'n llanc collodd y dylanwadau hyn eu gafael, am ysbaid, ar ei feddwl. Ymollyngodd i fywyd penrydd ac anystyriol. Ni pharhaodd y cyfnod hwn yn hir. Yn y flwyddyn 1779, daeth yr efengylydd pereiddfwyn "Jones. o Langan" i bregethu i Frynrodyn, ar nawngwaith yn yr haf. Pregethai ar destyn tra nodweddiadol o'i ysbryd a'u ddawn." Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol." Yr oedd Robert Roberts, wedi dod i'r oedfa, trwy berswâd ei frawd, John (y Parch. John Roberts, Llangwm, wedi hyny). Aeth saeth oddiar fwa gwirionedd i'w galon. Bu am wythnosau yn mhangfeydd argyhoeddiad, ond fe droes i'r "amddiffynfa," a gwawriodd cyfnod newydd ar ei fywyd. Cefnodd ar y chwarel, ac ymsefydlodd fel gwas fferm yn Eifionydd. Ymaelododd yn Eglwys Brynengan. Nid oedd wedi cael dim manteision addysgawl, ond yn y blynyddau hyn ymroddodd i ddiwyllio ei feddwl, ac i gymhwyso ei hun, yn ddiarwybod, ar gyfer y dyfodol dysglaerwych oedd yn ei aros. "Yr oedd yn ymroddi i ddarllen; yn hoff iawn o wrando pregethau; yn arfer ysgrifennu y pregethau a wrandewid ganddo, o'i gof, yn fanwl ar ar ol myned adref; yn myned yn gyson, ddwywaith neu dair neu bedair yn y flwyddyn, i Langeitho, gyda hen grefyddwyr eraill o gymydogaeth Brynengan, i wrando Mr. Rowland, ac i'r cymun sanctaidd; ac yn cofio, yn ysgrifennu, ac yn adrodd ei bregethau braidd yn gyflawn."
O ran ei ddyn oddiallan, yr ydoedd, yn yr adeg hon, yn ŵr ieuanc tal, lluniaidd, ystwyth-gryf, a dysglaerdeb athrylith yn pelydru yn ei lygaid. Ond daeth cyfnewidiad drosto,—cyfnewidiad a effeithiodd ar ei ymddangosiad dros weddill ei oes. Gostyngwyd ei nerth ar y ffordd. Yn nghanol ei ireidd-dra a'i nerth, ymaflwyd ynddo gan afiechyd blin. Bu yn dihoeni, rhwng bywyd a bedd, am fisoedd, a phan ddaeth yn abl i symud o'i orweddfa, prin y gallai ei gydnabod gredu mai yr un gŵr ydoedd. "Yr oedd golwg ryfedd arno; yr oedd rhyw grebychiad ar ei ewynau, ac ar amwydyn ei gefn, nes ei wneyd yn grwcca hollol o ran ei gorph; ac felly y bu holl ystod ei weinidogaeth, ac hyd ddiwedd ei ddyddiau."
Ond er llygru y dyn oddiallan, ac er colli yr addurn a feddai gynt, yr oedd llewyrch ei athrylith eneiniedig, i wedd-newid y tabernacl daearol i'r fath raddau, nes y byddai dynion, ar brydiau, yn meddwl mai angel Duw oedd yn llefaru wrthynt. Wedi ei wisgo â'r nerth o'r uchelder, byddai rhyw ogoniant anghydmarol yn disglaerio yn ei wynebpryd, ac yn trydanu ei ymadroddion.
Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1787, pan ydoedd yn 25 mlwydd oed, yn nghanol gwres diwygiad. Yn ystod blynyddau cyntaf ei weinidogaeth, bu yn cadw ysgol Gymraeg mewn amryw barthau yn Eifionydd, ond yn herwydd y galwadau lluosog oedd yn y wlad am dano, rhoddes yr ysgol i fyny, ac ymsefydlodd yn nhy'r capel,—Capel Uchaf, Clynnog, ac yno y bu hyd derfyn ei oes. "Fe dynodd ei weinidogaeth, braidd ar unwaith, sylw cyffredinol, a daeth yn fuan y pregethwr mwyaf poblogaidd yn Nghymru. Yr oedd rhywbeth ynddo fel pregethwr ag y mae yn amhosibl ei ddarlunio, a rhywbeth nas gallwn ni . . . . . ffurfio prin un dychymyg am dano. Tystiolaeth pawb ar ai clywsant yw, na chlywsant neb cyffelyb iddo. Yr oedd y fath rwyddineb yn ei ddawn, y fath angerddoldeb yn ei deimlad, y fath fywiogrwydd a nerth yn ei ddychymyg, y fath amrywiaeth yn ei lais, a'r fath allu ganddo i'w daflu ei hunan yn gwbl i'r mater a fyddai ganddo dan sylw, nes y byddai yr effeithiau ar y cynulleidfaoedd yn hollol drydanol. Ar adegau felly, byddai golwg ryfedd arno ef ei hunan,—byddai dan gynhyrfiadau ofnadwy. Weithiau byddai ei lygaid yn melltenu nes gwneyd braidd yn amhosibl edrych arno; weithiau fe'i canfyddid yn sirioli nes rhoddi gwên ar bob wyneb; ac, yn amlach, byddent yn ffynonau o ddagrau, nes cynyrchu wylo cyffredinol drwy y gynulleidfa. Pa beth bynag fyddai pwnc y bregeth, fe'i datguddiai ei hunan yn agweddau ei wynebpryd, yn ysgogiadeu ei gorph, yn nhôn ei lais, yn gystal ag yn netholiad ei eiriau, a ffurfiad ei frawddegau, nes peri i'r gwrandawyr nid yn unig ei ddeall, ond ei deimlo."
Dywed yr un awdwr yn mhellach, wrth symio i fyny ei ddesgrifiad godidog o "seraph-bregethwr Cymru,—" Pymtheg mlynedd a fu parhad ei dymhor gweinidogaethol; ac yn yr ysbaid byr hwnnw, er holl anfanteision amgylchiadau isel, amddifadrwydd hollol O ddysgeidiaeth athrofaol, ac ymddangosiad allanol eiddil ac anolygus, fe adawodd argraph mor ddwfn ar feddwl ei genedl, fel y mae ei enw yn air teuluaidd hollol gan filoedd lawer ohonynt, yn mhen 70 mlynedd [95 mlynedd, bellach], wedi ei gladdu. Yn y bywyd, y teimlad, y grym,-ac yn enwedig yn y dull drychebol, neu pa air Cymraeg a gawn am dano (dramatic), tra effeithiol, ag sydd i fesur yn hynodi y Pulpud Cymreig eto, yr oedd arbenigrwydd neillduol yn ngweinidogaeth Robert Roberts, Clynnog."
Ië, dim ond pymtheg mlynedd o fywyd cyhoeddus, ac eto i gyd, wedi cerfio ei enw yn anileadwy ar hanes pulpud a chrefydd Cymru. Bu farw yn mis Tachwedd, 1802, yn 40 mlwydd oed. Nid oes ond careg las, seml, ar ei feddrod yn mynwent y plwy', ond y mae'n gerfiedig arni bedair llinell gynwysfawr o eiddo Eben Fardd, llinellau sydd yn grynhodeb o nodweddion y gwr y bydd Cymru am lawer oes yn chwenych ei anrhydeddu:—
Yn noniau yr eneiniad,—rhagorol
Fu'r gwr mewn dylanwad;
Seraph, o'r nef yn siarad,
Oedd ei lun yn ngwydd y wlad.
Dichon y daw ton o frwdfrydedd cyn bo hir, yn nglyn ag enwogion Arfon, ac y codir cofgolofn hardd i fytholi hanes Robert Roberts, megis y gwnaed eisoes â rhai o'i gyd-oeswyr. Yn y cyfamser, boed i bobl dda Clynnog gadw gwyliadwriaeth serchog ar ei orweddfa. Na chaffed adfeiliad nac esgeulusdra hacru beddrod gwr Duw.
Ond er mai yn Nghlynnog y gorphwys ei weddillion, nid yno yr oedd ei gartref, eithr mewn ardal lonydd ar y bryniau cyfagos, a adwaenir fel Capel Uchaf. Y mae yn agos i ganrif er hynny, ac nid ydyw Capel Uchaf y dyddiau diweddaf hyn yn debyg i'r hyn ydoedd yn ei amser ef. Nid oes yno ddim o'r braidd yn tystiolaethu am dano,—dim cof-len ar y mur, dim llyfr nac ysgrif—dim ond y dodrefnyn yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano —cadair y prophwyd. Nis gwyddom am ba hyd y bu yn ei feddiant, na pha faint o ddefnydd a wnaeth efe ohoni. Yr ydoedd yn treulio llawer o amser oddicartref, ar deithiau pregethwrol, ond pan yn ei gynefin, yn darllen ac yn parotoi ar gyfer y pulpud, deallwn mai dyna ei gadair ddewisol ar yr aelwyd. Ar y cyfrif hwn, y mae yn gräir (relic) gwerthfawr. Y mae amryw o enwogion Cymru, o bryd i bryd, wedi bod yn ei gweled, ac nid oes un amheuaeth am ei dilysrwydd. Dilynwn eu hesiampl, a cheisiwn gynorthwy gwerthfawr y camera i'w dodi, fel y mae, gerbron y darllenydd.
Cyrhaeddasom bentref Clynnog ar foreu tyner yn Medi, 1897. Yr oedd gwenau yr "haf bach" yn sirioli y llechweddau. Cawsom gwmni a hyfforddiant "esgob" presennol Capel Uchaf, a dechreuasom ddringo'r bryn. Yr oedd y mwyar duon yn dryfrith ar ochrau y clawdd, ac anhawdd oedd gwrthsefyll y demtasiwn i wledda arnynt, yn hytrach nac ymlwybro ymlaen. Wedi dringo encyd, ar hyd ffordd gul, a'r hin yn frwd, daethom i ben y bryn, ac yr oedd yr awel mor falmaidd, fel yr oedd yn rhaid gorphwys, oherwydd yr oedd. yr esgob eisioes yn lluddedig gan y daith. Aethom ymlaen eilwaith, ac wedi pasio rhai amaethdai bychain, taclus, daethom i olwg y Capel." Saif ar fin y ffordd, ac y mae nifer o dai annedd gerllaw. Dyma'r trydydd addoldy er adeg dechreuad yr achos yn yr ardal neillduedig hon. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1761—blwyddyn cyn geni Robert Roberts. Nid oes dim o'r addoldy hwnnw yn aros er's llawer dydd. Ond dywed traddodiad yr ardal fod y capel hwnnw a'r ty capel yn un adeilad— yr un muriau oedd i'r oll. Cynwysai y ty capel ddwy ystafell—un yn gegin ac yn barlwr, a'r llall yn ystafell wely. Yr oedd y ddwy ar yr un llawr, ac uwchben yr oedd math o oriel perthynol i'r capel. I'r ty capel hwn y daeth Robert Roberts i fyw yn gynar ar ei oes weinidogaethol. Yma y bu hyd y diwedd. Nid ydoedd ond lle digon cyffredin a diaddurn—dim ond dwy ystafell ar lawr. Pa le yr oedd y study, tybed? Hawdd credu mai y capel ei hun oedd llyfrgell ac efrydfa y pregethwr seraphaidd. Yno yr ydoedd yn gallu galw y gynulleidfa ger ei fron, pan y mynnai, ac yr oedd ei fyfyrdodau wedi eu bwriadu, nid i'w hysgrifenu yn gymaint, ond i'w traethu, i'w tywallt yn rhaiadrau crychwyn ar gydwybodau y gwrandawyr. Gwelwyd llawer golygfa gofiadwy yn yr hen gapel, gyda'i feinciau celyd, a'i lawr pridd. Clybuwyd yno lais gorfoledd a chân,—swn diwygiadau grymus y ganrif o'r blaen. Adgofiai yr hen wrandawyr am Robert Roberts, fwy nac unwaith, yn cael ei orchfygu gan yr olygfa, yn disgyn o'r pulpud, yn gorfoleddu ar lawr y capel, ac yn cael ei gludo, mewn haner llesmair i'r gadair fraich yn nhy'r capel. Bu y babell gyntaf yn sefyll am hanner canrif, pryd y gwelwyd yn anghenrheidiol i estyn y cortynau. Adeiladwyd yr ail deml yn 1811, yn mhen naw mlynedd wedi marw Robert Roberts. Yr oedd 1811 yn un o flynyddau mawr y Cyfundeb Methodistaidd. Dyna flwyddyn yr ordeinio cyntaf yn y Bala. Ni chafodd seraph Clynnog weled gwawr y cyfnod hwn yn hanes ei enwad. "Pregethwr" yr Efengyl, ac nid "gweinidog" sydd ar gareg ei fedd. Cafodd efe ei urddo, nid drwy osodiad dwylaw, ond drwy nerth y Bywyd anherfynol oedd ganddo i'w gyhoeddi i'r byd. "Yn noniau yr Eneiniad" y cafodd efe ei arwisgo, a'i wneyd yn weinidog cymhwys y Testament Newydd.
Ond son on yr oeddym am yr ail addoldy. Bu y saint yn mynd a dyfod i hwnnw am yr ysbaid o 69 mlynedd, hyd 1870, pan y codwyd y capel presennol. Ond ni chafodd yr ail deml ei chwalu fel y gyntaf. Y mae yn aros hyd y dydd hwn, ac wedi ei gwneyd yn "dy capel." Mewn parlwr bychan, o fewn y ty hwn, y cedwir y "gadair," fel yr "arch" yn nhy Obededom gynt, ac y mae pob pregethwr—bydded fach neu fawr, yn cael y fraint o eistedd yn nghadair Robert Roberts. ***** Tra byddo ein cyfaill "Zenas, y cyfreithiwr " yn gwneyd trefniadau i ddod a'r gadair i'r awyr agored, ac yn gosod y camera yn ei le, awn allan i fwynhau yr olygfa. Y mae'r nawn yn deg, a'r awyr yn glir. O un cyfeiriad yr ydym yn gweld y mynyddau,—cadwen yr Eryri. Y mae'r Wyddfa'n ddiorchudd, a mwg yr agerbeiriant yn cyrlio ar hyd ei hystlysau, ac uwchben ei cheunentydd. Anhawdd meddwl am lecyn mwy manteisiol i weld y Wyddfa, pan y bo yn ddigon graslawn i ddatguddio ei hun. Yn y pellder y mae Moel Siabod fel pyramid pigfain. Gorwedda y Mynyddfawr ar yr aswy. Ar y dde, y mae y Migneint, ac onibae am y Foel sydd yn codi ei hysgwyddau o'n blaen, buasem yn canfod Dyffryn Nantlle. O gyfeiriad arall yr ydym yn gweled ardal boblog Penygroes, a gwastadeddau coediog Llandwrog, yn nghyda darn glasliw o gulfor Menai. Golygfa gyfoethog, amrywiaethol, mewn gwirionedd, golygfa fuasai'n ysbrydoli unrhyw un allai deimlo oddiwrth ddylanwadau Anian. Ac y mae hon yn aros fel yr oedd yn nyddiau Robert Roberts,— "aros mae'r mynyddau mawr." Os mai cyffredin oedd annedd y seraph—bregethwr, er nad oedd ganddo nemawr ddim o foethau celfyddyd, —dim darluniau costfawr ar furiau ei ystafelloedd dim cywreinion o wledydd pell,—pa wahaniaeth? Nid oedd raid iddo ond ymlwybro ychydig o'i fyfyrgell i weled golygfa nad yw byth yn heneiddio. Gwelai arddunedd cread Ior. Edrychai ar y wawr yn tori ar grib y mynydd, ac yn ymwasgaru i'r dyffrynoedd. Gwelai ogoniant machlud haul yn goreuro y weilgi, a ser y cyfnos yn pefrio ar y gorwelion pell. Hawdd yw son am gyfleusderau y dref, a manteision y llyfrgelloedd cyhoeddus, ond fel mangre y gryfhau egnion corph a meddwl, ac fel lle i weled gweledigaethau Duw, anhawdd fuasai synio am le mwy cymwys na'r llanerch fu un adeg, yn gartref Robert Roberts. Y mae mynwent, ar lecyn heulog, gerllaw y capel. Bellach, y mae llu o bererinion yr ardaloedd yn gorphwys o dan ei phriddellau. Tyf blodau gwylltion yn mysg y beddau, tywyna yr haul yn danbaid ar y meini, nes y mae'n anhawdd credu ambell funud ein bod yn rhandir angeu. Yn mysg y bedd-rodau gwelsom. eiddo y Parch. William Roberts, Hendre bach,—William Roberts, Clynnog. Esboniodd lawer ar y prophwydoliaethau, a bu yn dadleu'n gryf ar Fedydd, gyda'r diweddar Barch. Robert Jones, Llanllyfni. Bu farw yn y flwyddyn 1857, yn 84 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am dros haner canrif. Cerfiwyd englyn o eiddo Eben Fardd ar ei fedd. Dyma fe:—
Pregethwr, awdwr ydoedd,—agorwr,
Geiriau glân y nefoedd;
Pur hoff yw dweyd.—proffwyd oedd,
Yn llewyrch ei alluoedd.
Yn 1863, bu farw John Owen, Henbant bach, yn 93 oed. Yr oedd yn gyd—weithiwr â Mr. Charles o'r Bala, ac yn sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn yr ardaloedd. Dyna'r dystiolaeth sydd ar ei fedd, wedi ei saernïo gan Dewi Arfon:—
Y Selyf hwn fu'n sylfaenu,—yn ein bro
Gyda'r brawd Charles fwyngu,
Yr Ysgol Sabothol: bu
Enaid hon wedi hynny.
Yma hefyd, y gorphwys y ffraethbert a'r gwreiddiol Owen Owens, o Gorsywlad, Bwlch Derwyn. Y mae ugeiniau o'i ddywediadau yn aros ar gof gwlad. Bu farw yn 1877—yr un oed a'r ganrif —wedi gwasanaethu y swydd o ddiacon am haner cant o flynyddoedd. Cyfansoddwyd ei feddargraph gan Tudwal, fel y canlyn :—
Gwas gwiw Iesu gwsg isod, —ef oedd wr,
Feddai eiriau parod;
Gwres ei ddawn wnai'r "Gors" ddinod,
Yn amlwg mewn gloew glod.
Y mae y golofn wenlliw sydd yn nghwr uchaf y fynwent yn bytholi coffadwriaeth gwraig garedig,—diweddar briod y Parch. J. Jones, Bryn'rodyn. Nid oes beddfaen eto ar orweddfa Hugh Jones, Bronyrerw, ond ceir yr englyn canlynol, o eiddo Hywel Tudur, ar y garreg lle yr huna dau o'i feibion:—
O Fron-yr-erw i Fryn-hir-aros,—aethant
I fan bythol ddiddos:
O waelni a hir wylnos,
I le gwych, di-nych, di-nos.
Ond y mae y "gwawl—arlunydd" yn barod. Gosodwn y gadair yn nghyntedd yr addoldy, a chaiff yr "esgob" sefyll fel gwyliedydd gerllaw i sicrhau dilysrwydd y drafodaeth! Dyma hi. Cadair ddwyfraich ydyw, wedi ei gwneyd o dderw du Cymreig. Ysgafn, yn hytrach, ydyw ei gwneuthuriad, ac y mae ol llaw gelfydd ar y cefn, y breichiau, a'r traed. Rhaid ei bod dros gant oed, ac eto nid ydyw arwyddion henaint wedi ymaflyd ynddi. Erys yn gadarn a hardd: nid oes pryf na phydredd wedi cyffwrdd â'i choed. Gall y duwinydd trymaf yn Arfon eistedd ynddi yn ddiberygl; ac i bob golwg gall ddal am ganrif eto heb fod nemawr gwaeth. Onid yw yn haeddu cael tynu ei llûn? Gofidia edmygwyr Robert Roberts nad oes darlun ohono ef ar gael yn un man. Tra y mae genym ddarluniau gweddol o'r Tadau Methodistaidd-Howell Harris, Daniel Rowland, Williams Pantycelyn, Jones Edeyrn, Charles o'r Bala, &c., nid oes cymaint a lled llaw ar len na maen i ddynodi ffurf gorphorol, na mynegiant gwynebpryd y seraph o Glynnog. Rhaid i arlunydd y dyfodol ddibynu ar ddesgrifiadau yr "hen bobl," fel y maent wedi eu corphori yn ysgrifau Michael Roberts, Eben Fardd, Dr. Owen Thomas, a Dr. Griffith Parry, yr hwn sydd yn un o ddisgynyddion Robert Roberts.
Dan yr amgylchiadau hyn, pan y mae y creiriau mor brinion, yr ydym yn dirgel feddwl y bydd yn ddymunol gan y darllenydd gael darlun o "gadair" y prophwyd, ac os metha y darlun a llwyr foddhau ei gywreinrwydd, yr ydym yn gwbl foddlawn iddo fynd ar bererindod i Gapel Uchaf, Clynnog, a cheisio gwneyd ei well!
Yno y mae y gadair" hanesyddol wedi cael llety hyd yn hyn. Nid ydyw wedi mudo ond ychydig latheni o'r llecyn lle y defnyddid hi gan ei pherchen hyglod, ac yr ydym yn hyderu mai yno y cedwir hi yn y dyfodol. Cawsom ar deall fod ymgais wedi ei wneyd i'w phrynu, a'i chymeryd i le arall. Na foed i'r frawdoliaeth yn Capel Uchaf ildio i'r demtasiwn. Nis gellir ei phrynu. Y mae yn rhan o hanes yr achos yn y lle. Gall ei phresenoldeb yno fod yn fendith i lawer. Rhaid i ddyn fod yn gwbl ddi-farddoniaeth os na theimla ryw ias o gysegredigrwydd yn ymgripio drosto yn ymyl "cadair" y gwr fu yn ysgwyd cenedl â'i hyawdledd, ac a barodd i'w wlad ei gofio fel pregethwr "hynotaf" ei ddydd.
Y mae "cadeiriau enwog" Cymru wedi lluosogi er ei amser ef. Er y pryd hwnnw, y mae cadair llenyddiaeth wedi ymgodi i uchel fri, a gallwn ymffrostio yn nghadair yr athrofa a'r brif-ysgol. Ond er amledd cadeiriau anrhydedd ac awdurdod drwy Ogledd a De, yr ydym yn credu y bydd lle arhosol yn nheml crefydd Cymru Fydd i'r gadair yr ydym wedi ceisio ei darlunio, ac adrodd ei hanes,—
CADAIR ROBERT ROBERTS, CLYNNOG.