Can newydd yn rhoddi hanes dienyddiad Richard Lewis
← | Can newydd yn rhoddi hanes dienyddiad Richard Lewis gan Richard Williams (Dic Dywyll) |
→ |
CAN NEWYDD,
YN RHODDI HANES DIENYDDIAD
RICHARD LEWIS,
Yr hyn a ddygwyddodd y 13 o Awst, 1831,
yn Nghaerdydd, Swydd Forganwg; am y
troseddau y cafwyd ef yn euog o'i gwneuthur
yn y cynnwrf diweddar yn Merthyr Tydfil.
Cenir ar y "Don Fechan."
1
HOLL drigolion de a dwyrain,
Gorllewin, goglodd dewch i'r unman,
Rhyw hanes dwys yw hon i'w 'styried,
Yn awr y gwir yn glir gewch glywed.
2
Casglodd naw mil yn lled afrywiog,
I sefyll allan am fwy o gyflog,
Rhai heb waith a'r lleill yn cwynfan
A'r bwyd yn ddryd a chyflog fychan.
3
Trwm yw adrodd am y dychryn,
Yr ail a'r trydydd o Fehefin,
Pan aeth y gweithwyr yn aflonydd,
Bydd rhai mewn galar hir o'i herwydd.
4
Hwy ddychrynasant rhai o'u gwely,
Gan waeddi codwch, peidiwch oedi,
Ni chewch ch'i lonydd i aros yma,
Dewch bawb i uno gyda'r dyrfa,
5
Hi aeth yn derfysg mawr yn Merthyr,
Gorfod gyru ffwrdd am filwyr,
Pan ddaeth rhai fynu o Abertawe
Fe aeth gwyr Merthyr ffwrdd a'u harfau.
6
Ond fe ddaeth milwyr o Aberhonddu,
Hi aeth yn rhyfel pan ddaeth y rheini,
Ac fe lladdwyd o wyr Merthyr,
Un ar ugain yn y frwydyr.
7
Yr oedd yr olwg drist yn aethlyd,
A'r llais i'w glywed yn ddychrynllyd,
Rhai yn griddfan ac yn gwaeddi,
Yn eu gwaed yn methu a chodi.
8
Rhai wedi tori eu haelodau,
Rhai wedi saethu trwy eu calonau,
Rhai yn glwyfau yn methu symud,
Yno yn griddfan am eu bywyd.
9
Yr oedd dwy o'rhain yn wragedd tirion,
A'r lleill i gyd yn wyr a meibion,
Fe waeddai'r tad mewn clwyfau dygn
Ffarwel, ffarwell fy anwyl blentyn.
10
Yr oedd swn y tadau a'u plant tirion
Yn ddigon i hollti unrhyw galon,
Yn gwaeddi deuwch wrth ymadael,
O dadau a mamau i ganu ffarwel.
11
Swn y gwragedd trwy Ferthyr Tydfil
Oedd am eu gwyr eu priod anwyl,
'Roedd llais y gwr yn galw yn galed
O fy ngwraig a mhlant ymddifaid.
12
Saethwyd benyw yno'n farw..
Yn nrws ei thy, O ddyrnod chwerw,
A lladdwyd un yn mysg y dynion,
Wrth edrych am ei phlentyn tirion.
13
Gwelwyd gwraig, mae'n alar d'wedyd,
Ar y d'wrnod mawr dychrynllyd,
Yn cario corph ei phlentyn hawddgar,
I ffwrdd o'r frwydyr, O'r fath alar.
14
Bu raid i'r mobs i roddi fynu,
A llawer iawn ga'dd eu carcharu,
Pan ddaeth y Sessiwn, er mawr alaeth,
Fe'u barnwyd oll yn ol y gyfraith.
15
Hwy gawsant oll eu bywyd gweddus
I gyd ond un sef Richard Lewis,
Er cymmaint oedd am safio hwnw,
Yn ngrog ar bren efo ga'dd farw,
16
Un mil ar ddeg a mwy o ddynion,
Oedd am ei safio o eigion cu calon,
Er cymmaint geisiau pawb o'u gwirfodd,
Yn y diwedd dim ni lwyddodd.
17
Ca'dd bedwar dydd ar ddeg o amser,
Drwy Squire Price, yr hwn glodforer,
Ac yn y diwedd gorfu fyned,
I rodio'r ffordd nad oes dychweliad.
18
Tra bu ef yn y carchardy,
'R offeiriad oedd yn ei cynghori,
I geisio Crist yn geidwad iddo,
Gobeithiwn i'w gynghorion lwyddo:
19
Y tryddydd dydd ar ddeg i'w enwi,
O Fis Awst, mae'n drist fynegi,
O dan y crogbren fe ga'dd fyned,
A miloedd lawer oedd yn gweled.,
20
Cyn iddo ef i gael ei symud
O'r byd hwn i drag'wyddolfyd,
Taer weddiai ar yr Iesu,
Am roi 'ddo ran yngwlad golenni.
21
Ei wraig ef nawr sydd yn galaru,
Ddydd a nos yn mron gwallgofu,
Wrth feddwl fod ei phriod gwiwlon,
Yn gorfod marw ar y crogbren.
22
Arglwydd, cadw dir Brytaniaid,
A'th gyfraith bur o fewn pob enaid,
Dy ddeddfau blaner yn ein calon,
Rhag bod ein bywyd yn llaw dynion.
—— R. W.
W. Williams, Argraphydd, Aberhonddu.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.