Caniadau'r Allt/Aelwyd y Gesail

Mab y Mynydd Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Melinydd y Pentref


AELWYD Y GESAIL.

Ryw noson fel heno, a'r lluwch ar y mynydd,
A'r cesair yn curo ffenestri y fro,
Mi droais i 'mochel i gegin y Gesail,
Roedd tân ar yr aelwyd, a phawb o dan do:
Mor wyn oedd y sialc dan y dodrefn o'm deutu,
Mor glyd oedd ystlysau'r hen simdde fawr;
A'r dysglau o biwtar ar silffoedd y dresal
Fel llygaid o dân yn ysbio i lawr.

Caf droi pryd y mynnwyf i aelwyd y Gesail,
Os oes yno glicied, nid oes yno glo;
A mwyned fy nghroesaw nes peri im feddwl
Mai haelaf y galon po lymaf y fro.
Eisteddai fy ewyrth fel derwydd cil pentan,
Fy modryb gyferbyn â'i gwieill yn gwau;
A chrochan y llymru, treftadaeth y teulu,
Ynghrôg yn y simdde, dan ofal y ddau:
Roedd Rheinallt y gwas yn saernio pren rhaffau,
A'r ci dan y naddion yn cysgu gerllaw;
A Megan y forwyn ar fainc fel corn lleuad,
Ei serch ar y mynydd, a'i gwaith yn ei llaw.

Caf Serch a bodlonrwydd ar aelwyd y Gesail,
A phawb ar ddechreunos a gorchwyl i'w wneud;

Os mud fydd yr alaw, bydd gan yr hen bobol
Ryw goel, neu draddodiad, neu rywbeth i'w ddweud.
Cyn hir daeth yn amser i daenu y swper,
A rhaid ydoedd cymryd fy lle wrth y bwrdd,
I wneud fel y mynnwn â'r llaeth ac â'r llymru,
'Doedd wiw i mi feddwl am fyned i ffwrdd:
'Rôl swper, cyrhaeddodd fy ewyrth y Beibl,
Hen Feibl cyn hyned ag yntau ymrón;
Mewn symledd darllenodd, mewn symledd gweddiodd,
Ei lin ar y garreg, a'i bwys ar ei ffon.

Caf droi pryd y mynnwyf i aelwyd y Gesail,
Ond ni chaf ymadael heb fendith a bwyd;
Gŵyr llawer anghenus am gelwrn fy modryb,
A llawer pererin am fwrdd Ifor Llwyd.

Nodiadau golygu