Caniadau'r Allt/Crair Serch

Cadw Noswyl Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Y Gweinidog Da


CRAIR SERCH.

Ynghadw yr oedd fel trysor
Ymysg y cywreinion hyn,
Ac wedi ei rhwymo'n serchus
A ruban o sidan gwyn.

Os brychion yw'r pedair dalen,
Os brau eu hymylon hwy,
Mae persawr y lafant arnynt
Ers deugain mlynedd a mwy.

O fewn y llun calon dehau
Mae enw morwynol 'mam,
Mewn llaw oedd yn annwyl ganddi
Os oedd yn ansicr a cham.

Ac yn y llun calon aswy
Mae enw bedydd fy nhad;
A dyma fotwm gwr ifanc,
O ardd ei gartre'n y wlad.

O, wynfyd i'r llanc penisel.
Fu dewis ei latai dlos,
A dodi'r ddau enw arni,
A'i danfon i'r llan liw nos.

A gwynfyd i'r eneth unig,
Ym merw y ddinas fawr,
Fu'i derbyn, a syllu arni
Ar fynych hiraethus awr.

Mae'r ddau yn cyd-orffwys heddiw,
Ar ôl eu ffyddlondeb hir,
Ond fy nghalon a ŵyr na ddarfu
Eu serch yn y distaw dir.

Nodiadau

golygu