Caniadau'r Allt/Erddygan Hun y Bardd

Nos Galan Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Pleser Plant


ERDDYGAN HUN Y BARDD.

Udai'r gwynt yng nghoed ei ardd,
Uchel leisiai dros y dref;
Ond ni allai'r uchel wynt
Anesmwytho'i drwmgwsg ef.

Hunai'r bardd mewn melys hedd,
Wedi hirddydd diwyd oes;
Wedi canu ei olaf gerdd,
Wedi dwyn ei olaf groes.

Hunai'n bêr, heb wybod dim
Am wybodau mân y byd;
A heb wybod am yr ofn
A ofnasai'i enaid cyd.

Cofiem am ei eiriau ffraeth,
Chwarddem, a phob grudd yn wleb:
Hunai y parota'i air,
Heb na gair na gwên i neb!

Ni symudai'r dirion law
Rannai'i dda mor rhwydd, mor hael;
A digymorth oedd y gŵr
A fu gymorth hawdd ei gael.

Cyn y wawr, y ddistaw wawr,
Ust yr hydref lanwai'r ardd;
Ond yr ydoedd dwysach ust
Yn ystafell hun y bardd.


Heddyw, nid yw yn ei dŷ,
Na hyd lwybrau tlws y fro;
Ond ei eiriau sydd yn fyw,
A'i weithredoedd sydd mewn co'.

Huned yn Nenio[1] draw,
Gyda'r ddau fu'n disgwyl cŷd:
Un ym meddrod ydynt mwy,
Fel mewn bywyd. Gwyn eu byd.

Nodiadau golygu

  1. Cwyn coll am Cynhaearn. Bu farw Hydref 22ain, 1916, Claddwydd ef ym meddrod ei dad a'i fam ym mynwent Denio, Pwllheli. Cyrhaeddasai oedran teg. Gw: Y Bywgraffiadur Cymreig—Thomas Jones ('Cynhaiarn '; 1839 - 1916), cyfreithiwr a bardd