Caniadau'r Allt/Ffarwel yr Hwsmon

Cysegr y Coed Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Cân y Gŵr Llwm


FFARWEL YR HWSMON.

Gwerfyl, fy mun, ti oeddit fy mherl,
Pan oeddem blant yn y meillion;
Hoffais dy olwg pan welais di,
Ac aethom ein dau yn gariadon:
Canai y gog yn y fedwen las
A chalon ymhlith y blodau;
Mwyn oedd cael casglu llygaid y dydd.
I ddwylo mor wyn â hwythau.

Gwerfyl, fy mun, Gwerfyl, fy mun,
Heulwen y cwm a'r bythynnod,
Deuaf ar ganiad y gog bob haf
I'th ddisgwyl, fel yn fy mhlentyndod.

Gwyn oedd fy myd ym mhersawr y maes,
Neu gydag eddi'r perllannau;
Tithau, fy rhiain, yn degwch bro,
A'th wallt o felynder afalau:
Gwyddai yr adar mewn llwyn a pherth,
A meillion pob dôl am danom;
Clywsent, yn effro neu trwy eu hun,
Bob llw ac adduned a wnaethom.

Gwerfyl, fy mun, Gwerfyl, fy mun,
Heulwen y cwm a'r bythynnod,
Deuaf ar ganiad y gog bob haf
I'th ddisgwyl, ond nid wyt yn dyfod.

Cofiaf dy weld yn taenu y gwair,
Yna'n ei hel at ei gario;
Nid oedd dy lanach ar ôl y llwyth,
Na'th lanach ar faes yn cribinio:

Cofiaf dy weld yn cynnull yr yd,
Yna yn rhwymo 'r ysgubau;
Tynnach na hynny yng nghwlwm serch,
Y rhwymit fy nghalon innau.

Gwerfyl, fy mun, Gwerfyl, fy mun,
Heulwen y cwm a'r bythynnod,
Deuaf ar ganiad y gog bob haf
 llygaid y dydd ar dy feddrod.

Nodiadau

golygu