Caniadau'r Allt/Ieuan Gwynedd

Cân Coroni'r Bardd Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Cainc yr Hen Delynor


IEUAN GWYNEDD.[1]

Oni chafodd rhwng y bannau
Ansigledig siglo 'i grud?
Oni wybu fel ei dadau
Arwed sang caledi 'r byd?
Oni channwyd ei wynepryd
Gan y dreigiau, gan y wawr?
Oni ddug i wersyll bywyd
Gymorth o'r mynyddoedd mawr?

Cerddodd o'r unigedd allan
Gan adduno 'n enw ei Dduw
Na chai Cymru fod yn fudan
Tan ysgórn y Sais a'i ryw:
Glew ei fro oddefus ydoedd,
Marchog ieuanc dros y gwir;
Rhoes ei lef, a llef y cymoedd
Aeth yn daran deuddeg Sir.

Pwy na ŵyr am ing ei gariad
Yng nghad Gamlan moes ei wlad?
Mellt a deigr oedd yn ei lygad—
Gwae a fu i Drioedd Brad:
Trioedd rhaith y Llyfrau Gleision,
Arnynt rhoes anfarwol daw;
Os oedd cleddyf yn ei galon,
Roedd un llymach yn ei law.

Bu yn borth i werin Cymru,
A rhianedd bro ei fam;
Beth os oedd fel llin yn mygu?
Gwnaeth eiddigedd oes yn fflam;

Nwyd yn cynneu yn yr awel,
Gan dynghedu llan a thref,
Fel yr hen goelcerthi rhyfel,
Oedd ei genedlgarwch ef.

Gŵyr fy nghenedl iddo syrthio
Er ei mwyn, fel Arthur Fawr;
Gŵyr mai byw ei ysbryd eto—
Oni lysg o'i mewn yn awr?
Ym mhob cad dros foes a rhyddid,
Ym mhob Cymro a Chymraes,
Fyth yn anterth ei ieuenctid
Erys yntau ar y maes.

Os anaml yw ein breiniau,
Mae pob un yn werth ei waed;
Ac ysgymun fyth fo enwau'r
Sawl a'u mathro dan eu traed:
Os anghofiwn Ieuan Gwynedd
A'i arwriaeth dros y gwir,
Duw faddeuo inni'r camwedd—
Collwn fwy na cholli'n tir.

Nodiadau

golygu
  1. Evan Jones (Ieuan Gwynedd 1820-1852)