Mae llys fy mabandod fel cynt,
A'r eiddew ar bared y ty;
Ond nid fy nghyfoedion yw'r plant,
Ac nid yw'r hen aelwyd fel'bu,
Na'm croesaw mor bêr ag y bu:
'Does neb yn fy nisgwyl fel cynt,
Na neb yn adnabod fy ngham;
Ac nid oes un annwyl dan gapan y drws,—
Fe wyr pob amddifad paham,
A'm calon a ŵyr paham.
Pa le, O na wyddwn pa le,
Mae'r llaw a'm derbyniai bob pryd—
Yr wyneb a welwn fel serch ei hun,
A chusan dirionaf y byd,
A'r oreu o famau'r byd:
Melysach na'r mêl oedd ei llais,
Goleuni fy myd oedd ei gwên;
A byth nid anghofiaf wynepryd 'mam,
Ai'n harddach wrth fynd yn hen,
Ai'n hoffach wrth fynd yn hen.
'Rwy'n alltud ynghanol fy mro,
'Rwy'n wylo lle chwerddais cyhyd;
Ond ni ddaw fy maboed yn ôl,
Na'r fam fu yn siglo fy nghrud,
Fu'n hwian uwch ben fy nghrud:
Na, nid yw'r hen aelwyd fel cynt,
Na'r mwynder mor fwyn hebddi hi;
Tywynned yr haul fel y mynno trwy'r dellt,
Ond nos yw'r goleuddydd i mi,
A'r annedd fel bedd i mi.