Caniadau'r Allt/O wynfyd Serch, O ddolur Serch

Fy Nhad Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Rhwng Dwy Ffair


"O WYNFYD SERCH, O DDOLUR SERCH."

(Atgof am fy chwaer.)

I


Ar fore hirfelys
I'm hanuwyl a mi,
Cofiaf di'n dyfod
O'th dref ger y lli:
Dyfod ar adain
I'th gyntaf oed
A rhywun na welsit
Mo' i wyneb erioed.

Hoffit ei lygaid,
A rhosliw ei rudd,
A charu y buoch
Eich dau trwy y dydd:
Am dano y sonnit
O hyd ac o hyd,
Fel pe na bai nai
Gan neb arall o'r byd.
A phob tro y gelwit, a thi yn iach,
Ni flinit gusanu 'i ddwy wefus fach.

II


Ar fore o Fai,
Ond bore heb wawr,
Cofiaf di 'n dyfod
O'r ddinas fawr:

A chennyt yr ydoedd
Cyfrinach fud,
Wnai dy galon yn drom,
Er d'ysgafnder i gyd.

Gerllaw'r oedd fy mychan,
Fy nelw a'm llun,
Oedd iti mor annwyl
A'th enaid dy hun;
Ceisiai dy gusan,
O fynwes ei fam;
Ond ni roist un iddo,
A gwyddem paham.

Ni pheidit â'i garu, a'th galon yn ddwy,
Ond ei garu 'n rhy fawr i'w gusanu byth mwy.

1911.

Nodiadau

golygu