Caniadau'r Allt/Y Castell
← Wele golofn ein tywysog | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Yn Nyffryn Clwyd → |
Y CASTELL.
Cyfodwyd y castell
Ym min y lli
Gan frenin na charai
Ein cenedl ni.
Nid digon oedd ganddo
Ei dir ei hun
Heb fynnu'n tir ninnau,
A'r ddau yn un.
Ond dewr oedd y Cymry
Yng Nghymru Fu;
Nid ofnent y brenin,
Na'i air, na'i lu.
A deuthant i fyny
O gymoedd gant
Yn erbyn y castell
Yn enw eu Sant.
A da fu i'r brenin,
A da i'w wŷr,
Wrth uchter y tyrau
A thrwch y mur.
Mae'r castell yn aros—
Hen gastell trais—
A'n cenedl yn aros,
Ond ple mae'r Sais?