Do, bum yn Ffrainc. A'r dydd yr aem
O'r gwersyll pell, clod pawb a gaem;
'Duw'n rhwydd a glywem ar bob min,
A chofio'r gair draw yn y drin
Wnai'r gwan yn ddewr, a'r dewr fel duw,
A marw'n gyfuwch braint â byw.
Do, bum yn Ffrainc, o ffos i ffos,
A'm nos fel dydd, a'm dydd fel nos—
Ynghlâdd ym mhridd a sialc ei thir,
Dair blynedd oedd fel teiroes hir;
Ac effro oeddem bob mab dyn
Fel caffech chwi ddiofal hun.
Hyn oll, a mwy na hyn a wnaem
O gariad, a phob clod a gaem:
A phan ddychwelem-fawrwyrth Duw—
O blith y meirw yn ddynion byw,
Caem groesaw arwyr, mawl pob min,
A gwên rhianedd uchel lin;
Ac nid oedd blasty yn y fro
Na chaem ein derbyn dan ei do:
Nyni oedd pen-arglwyddi 'r tir—
Caem seibiant byr, a moliant hir.
Undydd a blwyddyn prin y sydd,
Ond darfu'r mwynder hael a rhydd
Fel tegwch enfys! Nid oes blas
Heddyw a'm derbyn i a'm tras:
Dros dalm y bu'r cariadus rith,
A phwy a leinw'r swyddi blith?
O, gwyn eu byd, y meddal wŷr,
Hwynthwy na chawsant glod na chur.