Caniadau'r Allt/Yn yr Ing

Calendr Serch Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Fy Nhad


YN YR ING.

Gerllaw yr oeddit, Men,
Yn nes na'r un carennydd;
A'th law o dan fy mhen
Fel manblu fy ngobennydd.

Gwell oedd dy dirion wên
Na balm y meddyg yno;
A'th air, iachâi y boen
Na wyddai ef am dano.

A gwell na'r newydd win
Yng nghariad-wledd ieuenctid
Oedd hen, hen win dy serch.
Yng nghyfyng oriau 'ngofid.

Na ad fi mwy, fy Men,
Ond boed dy lygaid arnaf
Fel sêr sefydlog serch,
Pan fo fy nos dywyllaf.

Ac aros di, fy Men,
Rhwng deufyd yn fy ymyl;
A'th law o dan fy mhen
Yn nes na dwylo 'r engyl.

Nodiadau

golygu