Caniadau'r Allt/Yr Alltud
← Belgium | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Dos → |
YR ALLTUD.
Mae beddrod bychan, unig,
Yn erw fud fy nhref;
A llanc o Lydaw bell a gwsg
O dan ei laswellt ef.
Ni thaenir blodau arno
Ond gan y ddraenen wen;
Ac ni bu mam na mun erioed
Yn wylo uwch ei ben.
Wrth gofio'r llanc penfelyn,
Daw dŵr i'm llygaid i—
Wrth gofio'r llanc, a chofio'r llong
Aeth hebddo dros y lli.
A yw ei gwsg mor felys
A phe'n ei henfro'i hun?
Ai ynte mud freuddwydio mae
Am serch ei fam a'i fun?
Un peth a wn, pe gwyddai
Fod calon Ffrainc yn ddwy,
A bod y gelyn yn ei thir,
Na hunai ddim yn hwy.
1915