Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Bedd-argraff Mr Thomas Jones
← Yr Heidden | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Dyfodiad y Gwanwyn → |
BEDDARGRAPH
Y diweddar Mr Thomas Jones (Jones Bach).
IS hon, "Jones Bach"—y Cristion tangnefeddus,
A dawel orphwys wedi taith flinderus ;—
Y doeth fasnachwr a'r cymydog tirion—
Dirwestwr cadarn—priod tyner galon.
Y ffraethbert wr—ei wlad barha i'w gofio,—
'R oedd nôd ei chrefydd yn gerfiedig arno;
Os fel un bychan ei hadwaenid yma,
Mae'n mhlith y cedyrn ar orielau Gwynfa.