Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Cadeiriad Elfyn
← Marwolaeth a Chladdedigaeth Moses | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Bedd-argraff Dr. Edwards → |
CADEIRIAD ELFYN
Yn Eisteddfod Dalaethol Pwllheli, 1895.
FILIAF i "Fardd yr Afon,"—un greodd
Groywaf gynghaneddion,
Ei genedl yn ddigwynion
Fwynha lif ei awen lon.
Drwy ei gân i GADAIR GWYNEDD—y daeth
Hyd i wir anrhydedd,
A rhoi clod, tra'n gweinio'r cledd
Wneir i odlwr hyawdledd.