Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Dr. Roberts (Isallt)

Siaradwch yn dyner Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Y Mwswgl

DR. ROBERTS, U.H., (Isallt).

I FRODOR clodforedig—daionus
Fu'n Ffestiniog ini;
Gwas in, eto, frenin o fri
Gwau i hwnw wnaf ganig.

Gwiw feddyg, efe haedda—ein mawl llon,
Mel lles a gyfrana:
Archoll blin ac erchyll bla
A'i law addfwyn a leddfa.

Naturiolaf wr trylen—fwyneiddiaf
Foneddwr llawn awen;
Ei law hael a'i siriol wen
Leiha ing teulu angen.

Gwron mewn cyfeillgarwch—yw ISALLT,
Asiwr llawn prydferthwch';
Athraw yw, a barn lawn ei thrwch
Ac addurn i Fainc heddwch.

Ynad enwog llawn doniau—a noddwr
Llenyddiaeth a'r celfau;
Coethaf saer caeth fesurau
Deheuig wydd ydyw i'w gwau.

Ei ymson sydd bob amser—yn gweini
I gynydd meib Gomer;
Awen Gwalia byncia'n ber—ei glodydd
Ar wawl adenydd ei fri ledaener.


Nodiadau

golygu