Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Elusen
← Y Llusern | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Priodas y Duc of York a'r Dywysoges May → |
ELUSEN.
Buddugol yn Eisteddfod Cefnmawr, Nadolig, 1891.
HAEL gordial melus ydyw Elusen,
Wna le annedwydd yn lawen Eden
Hon dyn y rheidus dan ei haur aden,
O, rôdd garuaidd! oeraidd ddaearen
A welir o dan heulwen;—ffy niwloedd,
Edwina ingoedd cadwynau angen.