Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Galanas y Fellten
← Bedd-argraff Dr. Edwards | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Y Mynydd → |
GALANAS Y FELLTEN.
Y Gerddoriaeth gan Mr. E. D. Lloyd, R.A.M., Organydd, Bethesda.
MEWN bwthyn clyd yn Nghymru lân
Roedd teulu'n ymgom wrth y tân,
Son am helyntion mân y dydd
Yr oedd pob un yn llon a rhydd.
Ond dyma fellten oleu'n gwau
Ac am y teulu mae'n amgau
Tramwya'r fflam hyd nen y ty
Ac ysu'r oll mae'r elfen hy'.
Y tân ddiffoddwyr ddaeth i'r lle
Gan chwyrn garlamu draw o'r dre',
Yn ffroenau'r meirch'roedd arogl tân,
Tra hwy mewn rhwysg yn myn'd yn mlaen.
Os gwenu bu'r nefoedd, mae'n gwgu yn awr,
A'r 'storm mewn enbydrwydd ymdywallt i lawr,
Mae eirchion y teulu yn esgyn trwy'r dellt
At Dduw am eu noddi yn nghanol y mellt,
O Arglwydd! ti rwymaist adenydd y fflam,
A chedwaist yn ddiogel y teulu dinam
O cadw ni, Arglwydd, a cadw ni 'i gyd
Rhag byth gael ein difa gan fflamau dy lid,
Ymddyrch y fflamau hyd y nef
Ac ynddynt mae y weddi gref
Yn esgyn hyd at orsedd Duw
Am ddwyn o'r tân y teulu yn fyw.
Galanas erch y fellten wnaeth
Ond Duw a gadwodd hon yn gaeth
Rhag peri niwed i'r rhai hyn.
Anfonodd Duw ei angel gwyn.
Aeth heibio'r storm ar noswaith brudd
Ar danau'r awel fin y dydd,
Mae anthem waredigol fyw
Yn esgyn fry at orsedd Duw.