Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Llinellau o gydymdeimlad â Llew Meirion

Tuchangerdd—"Y Teithiwr wrth raid" Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Castell Deudraeth (Cartref A. O. Williams, Ysw)

LLINELLAU O GYDYMDEIMLAD
Â'r cyfaill Mr. Owen Richard Owen (Llew Meirion), yr hwn sydd
mewn cystudd trwm er's amser maith. Wedi eu hymddangosiad
gwnaed Cyngherdd rhagorol i'r cyfaill O.R.O.


NI gawn y byd yn barod iawn
I gofio'r llawn—cyfoethog;
Ond caua 'i lygaid fel mewn gwawd
Uwchben y tlawd anghenog.

Mae eisiau rhywbeth ar y byd
Heblaw ei ddrud drysorau;
Diwerth a brau yw rhai'n mi wn
I'r hwn sydd mewn cystuddiau.

'Rwyt tithau bellach, Owen bach,
Yn afiach er's cryn enyd;
Cei lawer cysur, dyna 'm cred,
Mewn gweled hen wynebpryd.

'Does dim yn fwy ond gwella'r clwy
Pan yn yr adwy yma—
Na chydymdeimlad—dyma falm
A ddeil am dalm i'w goffa.

Llareiddia'r boen a thyn ei fin,
Gwna'r cystudd blin yn fwynder;
Er dyfned yw y dyn dan bla,
Ymdeimla fel mewn hoender.

Diamheu teimli lawer awr
Unigrwydd mawr a thristwch;
Ond pan gei gydymdeimlad llu
Bydd hyn i ti'n ddiddanwch.

Mae llydan fwlch yn "nghylch y gân,”
Dy lais mwyneiddlan dawodd;
Mae'r hen alawon bron yn rhŵd,
A'n cwmwd fel mewn anfodd,


Datgenaist lawer gyda "hwyl,"
A disgwyl 'r y'm am 'chwaneg;
Gobeithiwn daw dy delyn dlos
I 'mddangos yn ddiattreg.

Hyderwn os yw'th gorph yn llesg
Mai dilesg yw dy delyn;
I'r byd cerddorol gwn bydd hyn
Yn wledd o gryn amheuthyn.

Dy lais edmygais lawer tro
(Nid wy'n gwenieithio iti;)
Pan dewaist ti mae'r "gân dan sêl,"
A phawb fel wedi tewi.

Dy hen gyfeillion rif y ser—
Diddenaist lawer arnynt,
A gydymdeimlant mewn dwfn gri
Trwy holi am dy helynt.

Mae'r byd yn gwaeddi am dy gael
O afael pob afiechyd;
Ewyllys nef fo'n eilio'r cais.
Mewn adlais eglur hefyd.


Nodiadau

golygu