Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Mae Cymru yn deffro

Castell Deudraeth (Cartref A. O. Williams, Ysw) Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Daeth yr awr

MAE CYMRU YN DEFFRO.

MAE Cymru yn deftro,
Bu'n hir yn breuddwydio,
Bydd wedi dinystrio pob gormes cyn hir;
Bu Hengist a'i deulu
Yn hir yn anelu
Ei fwa i saethu pob dirmyg i'n tir.

Mae Cymru yn deffro,
Mae'n cael ei goleuo,
Mae'n dyfod i deimlo ei safle'n y byd;
Bu oesau mewn cyffion
A blinion dreialon
Mae lleisiau ei dewrion yn gliriach o hyd.

Mae'r nefoedd yn gwenu
Ar gymoedd hen Gymru,
I'w chodi i fyny yn uwch, uwch o hyd;
Mae iaith ei henwogion,
Athrylith ei meibion,
Fel tyrfau ergydion yn ysgwyd y byd.

Mae Cymru yn deffro,
Mae addysg yn llwyddo,
A'i meibion yn dringo mewn mawredd a bri;
I fyny mae'r "Wyddfa,"
I fyny bo "Gwalia,"
Fel seren ddisgleiria am oesoedd diri.'

Boed nodded y nefoedd
Ar Gymru'n oes oesoedd,
Yw gweddi fy nghalon tra byddaf fi byw.


Nodiadau

golygu