Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Priodas Bryfdir

Yr Haul Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Yr Afal

PRIODAS BRYFDIR.

GYDA pharch y cyfarchir—yr hynaws
A'r awenol Bryfdir,
Cynhes iddo y cenir
Ddyn têg, gan feirddion y tir.

Ac iddaw alaw eilaf—ryw ganig
Bur gynes gordeddaf;
Ef a'i wenferch anerchaf
A'u mwyn oes dymuno wnaf.

Yn nghwmni mêl Mary Ellen,—mwyach
Ymhoewi wna 'i awen,
Dedwydd ysgydwa 'i haden
Yn uwch yn y farddol nen

Felly mwy y cyfaill mâd
Dreilio 'i oes drwy wawl o hyd,
Hufen ei oes a'i fwynhad
Fo'n serch ei geinferch i gyd.

Ffestiniog hoff os dawn cân
I'w noddi fedd—anedd fwyn,
Eilio'n awr wna mawr a mân—
Llwydd Bryfdir seinir a swyn.

Ar uniad yr awenydd—a'r feinir
Fwynaf yn ein broydd—
Côr serch yn cyweirio sydd
Delynau cyd lawenydd.


Nodiadau

golygu