Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Shon Ifan y Cybydd
← Cymru Newydd | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Y Maen Llog → |
SHON IFAN Y CYBYDD.
MI wyddoch am Shon Ifan,
Gwn yn siwr.
Sy'n byw yn Fotty Wylan,
Gwn yn siwr.
Mi wyddoch hefyd amcan,—
Ei fod yn werth cryn arian,
Neu fod o'n bur dda allan,
Gwn yn siwr!
Ni chadwai 'i arian adref,
Felly'n wir,
Ond yn Bank Jones y pentref,
Felly'n wir.
Ond holai hwyr a bore,
Am le i gael mwy o loge,
A chododd hwy oddiene,
Felly'n wir!
Fe glywodd gan gydymaith,
Ie'n siwr,
Am le ca'i gymaint deirgwaith,
Ie'n siwr.
Yr oedd o'n hapus wedyn,
A'i het ar dop ei goryn.
Yn disgwyl am ben blwyddyn,
Ie'n siwr!
Fe godai cyn brecwesta,
Diar mi,
I ddisgwyl am y lloga,
Diar mi.
Ond druan o Shon Ifan,
Daeth newydd hefo'r "weiran"
I ddweyd nad oedd dim arian,
Diar mi!
Daeth newydd gwaeth na hyny.
Gwarchod pawb!
"Cymdeithas wedi tori!"
Gwarchod pawb!
'R oedd golwg ar Shon Ifan,
O dan y boen yn gruddfan,
Y gwrthddrych mwyaf truan,
Gwarchod pawb!
Gwybydded pob darllenydd,
Mai dyma stori'r cybydd,
Boed hon dros byth yn rhybudd.
Bobol bach!