Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Bay of Bisgay

Dyfodiad y Gwanwyn Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Sais-addoliaeth

Y "BAY OF BISGAY."
(Cyfieithiad.)

CROCH rua'r erch daranau, daw'r gwlaw yn llif i lawr,
A holltir y cymylau gan fellt o fflamllyd wawr,
Mor erch a du yw'r nos, a'n llestr eiddil wan
Mor ddi—hedd uwch oer fedd yn y "Bay of Bisgay O!"

Y tonau arni gurent, dirgryna drwyddi draw,
Y dyfroedd iddi ruthrent, a llenwir pawb a braw,
Pob morwr yn y fan, gais ddringo'r hwylbren ban
Tra mae'r llong ar y dón, yn y "Bay of Bisgay O!"

O'r diwedd gwawria'r boreu, y disgwyliedig ddydd,
Yn ddistaw yn eu trallod pawb ocheneidiai'n brudd ;
Y gandryll long islaw, a leinw bawb a braw
Tra mae hon ar y dón yn y "Bay of Bisgay Ο!"

Mae'r llong ar fin ymhollti, mae'n gwegian ar y dón,
Ond enfyn nef ymwared, o'i hen drugaredd lon
Mae hwyl i'w gwel'd fan draw, ymwared i ni ddaw,
Hyfryd iawn forio wnawn, hwnt i fôr y "Bisgay O!"


Nodiadau

golygu