Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Crwydryn
← Yr Ysgrif-bin | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Y Gwyfyn → |
Y CRWYDRYN.
(Darn i'w adrodd.)
AR foreu oer un gauaf du
Daeth crwydryn tlawd at ddrws fy nhŷ;
'R oedd creithiau stormydd ar ei wedd,
A'i ben a ŵyrai tua'r bedd.
Yn araf iawn adroddai 'i gais,
'R oedd swn gofidiau yn ei lais;
Bu gwawd ac anmharch a phob sen
Yn gwlawio dirmyg ar ei ben.
O!'r crwydryn llwm—gwrandewch ei gri,
Areithia 'i ddagrau wrthym ni;
A d'wed ei wisg mewn eglur iaith
Mai dyn yw ef sydd ar ei daith.
Ni fedd un cyfaill dan y nef,
Na neb i wrando 'i gwyn a'i lef.
O b'le y daeth?——Pa le mae 'i nod?—
'Does gartref iddo dan y rhod.
Mae'r crwydryn tlawd yn ddarlun byw
O long heb angor ac heb lyw;
Mae'n myn'd yn mlaen yn mraich y gwynt,
Ac wrth y storm mae'n dweyd ei hynt
Pan giliodd pawb. Mae angeu erch
Yn syrthio arno fel mewn serch;
Ac os bu'n dlawd a gwael ei wedd,
Mae'n dirfeddianwr yn ei fedd.