Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Morwr

Tanchwa Cilfynydd Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Ymson y Bardd

Y MORWR.

ARWR dewr yw Morwr y dón—difraw
El uwch dyfroedd dyfnion;
A rhwyga war yr eigion,—
Eofn frawd ysgafn ei fron.

Yn llaw ing wrth gell angau—drwy ei oes
Mae ei drig yn ddiau;
Yn gylch o'i amgylch mae'n gwau
Adenydd gwyrddion donau.

O bob goror, trysorau—y gwledydd
Gludir yn ei longau;
Wele wâs gwych dilesghâu,
Llyw'r oes—diwallwr eisiau.


Nodiadau

golygu