Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y ddwy wraig gerbron Solomon
← Cymru a Garaf | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Beth fyni fod? → |
Y DDWY WRAIG GERBRON SOLOMON.
Buddugol yn Eisteddfod y Llechwedd, 1881.
DWY wraig o isel rodiad
A ddaeth mewn pryder dwys,
At Solomon y brenhin
Ar neges fawr ei phwys.
Ar fynwes un o'r gwragedd
'Roedd baban bach di—nam;
A dyna'r holl ymryson—
Pa un oedd ei wir fam.
Y brenhin yn ddifrifol
Wrandawai'r achos syn,
A hwythau'n dadleu'r hanes
Yn drymaidd iawn fel hyn:
"Bu farw baban tyner
O fewn ein hanedd ni;"
A d'wedai un heb ddeigryn—
"Ond byw yw 'mhlentyn i."
Ond d'wedai'r llall yn eofn,
A'i serch yn llosgi'n fflam,
Er cymaint oedd ei gwaeledd,
"Mai hi oedd ei wir fam."
Cynhyrfodd hyn y brenhin,
A llidiodd wrthynt hwy,
Ac archai am y cleddyf
I'w ranu rhwng y ddwy.
Dolefai un yn erwin
Rhag ei drywanu ef;
Boddlonai'r llall yn dawel
I wrandaw ar ei lef.
A'r Brenhin yn ddioedi
Ganfyddai ffrwd o serch,
A chariad mam mewn ofnau
Rhag gwneyd y weithred erch.
Aeth hanes am y brenhin
Fel trydan trwy y fro,
A holl ddysgawdwyr Israel
Ryfeddent am y tro.
Dangosodd fawr ddoethineb;
Nid gyda'r ser na'r aig,
Ond yn ei ffordd anhysbys
Rhwng baban a dwy wraig.
Ni lwydda twyll anwiredd
Byth i gymylu'r gwir;
Er synu myrdd a'i ddichell
Fe wyra 'i haul cyn hir.
'Roedd Solomon yn gyflawn
Yn ei ddoethineb gref,
A chysgod egwan ydoedd
O Frenhin Mawr y Nef.