Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Yr Haf

Y Gwlaw Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Marwolaeth a Chladdedigaeth Moses

YR HAF.

GLASU mae'r dolydd yn glysion,—ceir cerdd
Ar geinciau'r coed gwyrddion,
Fwyngar haf, drwy'r fangre hon
Wynebledu wna blodion.

Awelon mel yn ymwau—a gludant
Glodydd y perlysiau;
Tyner chwareuant danau
Heibio y coed i'w bywiocau.


Nodiadau

golygu