Caniadau Buddug/Boreu Oes

O! Na Byddai'n Haf o Hyd Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Bythynod Gwynion Gwalia

BOREU OES.

BOREU einioes. O! brydferthwch,
Eres harddwch, blodau'r byd:
Ceinion natur ymgynghreiriodd,
I gyfarfod yma 'nghyd:
Gwylia'n eiddigeddus drosto
A dilychwin lygad moes,
Rhagymadrodd tragwyddoldeb
Ydyw cyfnod boreu oes!

Pennod fawr yw tragwyddoldeb,
Raid ei darllen yn ddiau:
Ac ar ddiwedd pob tudalen,
Ceir y geiriau "I'w barhau;"
Cofia fod a fynno'th fuchedd
Ym moreuddydd einioes wiw
A chyhoeddi'r gyfrol bwysig
Leinw'th fryd tra fyddo Duw.

Amser ydyw'r memrwn rhyfedd,
Dan oleuni gwyneb Ner,
Sydd yn derbyn argraffiadau
Welir pan y syrth y ser:
Pan gyhoeddir Amser drosodd,
Pan f'o haul a lloer yn sarn,
Adlewyrchir y gweithredoedd
Yno'n fyw ar furiau'r farn.

Ti wr ieuanc, aros ennyd,
Uwch gweithredoedd ienctyd cun,
Dod dy lyfr i'w adolygu
I Awdwr iachawdwriaeth dyn:
Yna'n eofn yn dy yrfa
Dos hyd derfyn dyddiau'th daith,
Ni raid ofni haul byd arall
I dywynu ar dy waith.