Caniadau Buddug/Cartref
← Ymadawiad cyfeillion i'r Maes Cenhadol | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Ar farwolaeth Jane Catherine → |
CARTREF
O! ENW gorswynol, fy nghartref hyfrydol,
Da gen' i dy ganmol heb gyni,
Mae'th lun ar fy nwyfron, yn gosod yn gyson
Beth ddywed y galon heb gulni;
Dymunaf gael aros, ar ferr—nos a hir—nos,
A gorffwys yn ddiddos tra fyddaf
Ar aelwyd fy nghartref a'm teulu mewn tangnef,
Gogonedd fy ngwiwnef a ganaf.