Caniadau Buddug/Cennad y donn
← Y cwpan | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Cranogwen → |
CENNAD Y DONN.
Ar noson serog dawel
Gan syllu tua'r gorwel,
Y rhodiai geneth heinyf lon,
Mor ysgafn fron a'r awel ;
Ym merw eu difyrion,
Gadawodd ei chymdeithion,
Er mwyn cael bod ynghwmni iach,
Y cregin bach a'r eigion.
Y lloer oedd yn disgleirio,
A'i chalon hithau'n dawnsio,
I fiwsig per y graian glân,
A'r tonnau mân yn tiwnio;
Ehedai ei myfyrion,
Dros nwyfus donnau Neifion,
Ac aent yn union megis saeth,
Ac un a aeth a'i chalon.
Mae cusan felus, felus,
Ei morwr ar ei gwefus,
Gafaela megis angor serch,
Ym mron y ferch hyderus;
Dywedodd wrth ffarwelio
Y deuai ati eto,
Sibrydai hithau y'nghlust y donn,
Am fod yn dirion wrtho.
Ond Ha! y donn anhydyn,
Beth ddygi ar dy frigyn?
Mae angeu yn dy fynwes ddofn,
A braw, ac ofn a dychryn;
Ar ddannedd certh y creigiau,
Mae'r llong yn fyrdd o ddarnau,
Ac aberth i'r rhyferthwy frad
Ei hanwyl gariad hithau!
****
Y llanc ysgrifennodd ei dynged ei hun,
A chostrel a'i dygodd i ddwylaw ei fun!
Llewygodd yr eneth, a'r saeth yn ei bron,
Trywanwyd ei henaid gan gennad y donn.
Mawr ydyw dirgelwch ofnadwy y môr;
Ond mwy ydyw gallu Anfeidrol yr Ior;
Efe sydd yn gwylio curiadau pob bron,
Efe ydyw awdwr tynghed fen pob tonn.
Efe a droes estyll marwolaeth oer erch,
Yn gerbyd i ddychwel cariad-lanc y ferch,
Y bachgen ddaeth yno i'w gwasgu i'w fron,
Rhoes Arglwydd y storom y gennad i'r donn.